Printer Friendly

Corlannu'r hen ddefaid; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

MAE defaid ar y croen yn un o'r pethau hynny sy'n niwsans gln yn tydyn? Roedd o'n rhywbeth roedd ein cyndeidiau ni'n dioddef ohono, ac er nad oes 'na gymaint o sn amdano erbyn heddiw, mae'n syndod faint o bobl sy'n dal i ddioddef oddi wrth ddefaid ar y croen. Ai defaid ydach chi'n eu galw nhw? Neu ddafaden ella? 'Warts' ydi'r enw Saesneg arnyn nhw a 'dafad wyllt' am rai sy'n ganseraidd.

Un o'r planhigion sydd wedi'i ddefnyddio i gael gwared defaid oddi ar y croen ydi llysiau'r wennol neu'r melynllys. Llym llygaid ydi enw arall arno yn Gymraeg. 'Chelidonium majus' ydi'r enw gwyddonol, a 'greater celandine' yn Saesneg. Blodyn melyn golau iawn sydd gan lysiau'r wennol, a phedair petal yn unig sydd ganddo. Mae'r dail yn llwyd wyrdd, ac mae'n blanhigyn gweddol dal.

Mae'n bur debyg mai'r rhai oedd yn arfer defnyddio llysiau llesol fu'n gyfrifol am ledaeniad y planhigyn yma. Roedden nhw'n arfer ei blannu er mwyn ei ddefnyddio i drin afiechydon, ac yn raddol dros y canrifoedd mi ddihangodd ac ymgartrefu yn y gwyllt. Bellach, i bob pwrpas, mae o'n cael ei drin fel chwyn. Mae yna hen chwedl sy'n sn fod y wennol yn arfer defnyddio sudd llysiau'r wennol i drin anhwylderau ar y llygaid, ac am wn i mai dyna sut cafodd o'r enw. Mae o hefyd yn blodeuo tua canol Ebrill fel arfer - tua'r un pryd ag y bydd y wennol yn dychwelyd i Gymru.

Mae'n debyg fod y cyffur sy'n cael ei dynnu o'r planhigyn yma yn medru tawelu system nerfol y corff, yn lleddfu poen ac yn ysgogi llif y bustl. Mae o wedi'i ddefnyddio i drin anhwylderau'r bustl. Ond fyddwn i ddim yn argymell mynd i chwarae hefo hwn, oni bai eich bod chi'n hollol siwr be 'dach chi'n ei wneud.

Os torrwch chi goes y planhigyn, mi welwch chi'r sudd lliw oren llachar yn chwyddo dros ymyl y darn o'r goes sydd wedi'i dorri. Mae sawl llyfr llysiau yn nodi fod y sudd yn dda i'w roi ar ddafaden, dafad wyllt a chrwn i gael gwared ohonyn nhw. Un arall o'r enwau Cymraeg arno ydi 'sudd y defaid'. A dwi wedi cyfarfod sawl un sy'n tyngu fod hwn yn beth da i'w roi ar ddefaid i gael gwared nhw oddi ar y croen.

Planhigyn arall ac un sy'n hynod o gyffredin i gael gwared defaid ydi dant y llew. Be dach chi'n ei wneud ydi torri coes dant y llew a rhoi'r sudd gwyn sy'n dod allan o'r goes ar y defaid. Eto, mi wn i am sawl un sy wedi gwneud hyn ac yn tystio i lwyddiant yr hylif gwyn.

Roedd llysiau pentai o les wrth gael gwared defaid, a chyrn ar y traed. Mae'n debyg fod angen cymryd y sudd a golchi'r traed yn ddyddiol hefo'r sudd er mwyn cael gwared chyrn oddi ar y traed, a thros nos gorchuddio'r cyrn hefo'r croen oddi ar y ddeilen. Er mwyn cael gwared defaid oddi ar y croen, roedd angen torri'r ddeilen yn ei hanner a defnyddio tu mewn y ddeilen i'w roi arnyn nhw.

Mewn ambell fan roedd y gruw neu'r teim gwyllt wedi'i ddefnyddio i drin defaid ar y croen, ac mae'r blodyn menyn ymledol (Ranunculus repens) hefyd wedi'i ddefnyddio i drin defaid ar y croen.

Mi fydda i'n pori yn aml yn 'Lloffa yn Llyn' gan Emyr Wyn Jones - Emyr Feddyg. Yn y llyfr mae'n adrodd hanes hen wraig Bryn Canaid oedd yn byw tua dau gan mlynedd yn l ym mhen draw Llyn. Roedd hi'n nain i'w nain ar ochr ei dad a hi mae'n debyg oedd "meddyg pen draw Llyn ar un adeg".

Yn l yr hyn sy'n cael ei ddweud yn y llyfr, roedd yr hen wraig - Anne Griffith oedd ei henw gyda llaw - yn defnyddio 'llaeth-gafr' at ddefaid ar y dwylo. Mae'nodi "Pan fyddai defaid yn codi ar y dwylaw llaeth-gafr oedd y feddyginiaeth; llysieuyn yw hwnnw a dail mn arno ac wrth dorri ei goes fe ddaw sudd ohono yr un lliw llaeth." Mae 'na droednodyn yn y llyfr yn egluro mai 'milkwort' ydi llaeth-gafr. Yr enw gwyddonol ar y 'common milkwort' ydi Polygala vulgaris, a'r enw sy'n cael ei awgrymu yn rhestr Cymdeithas Edward Llwyd ydi'r amlaethai cyffredin. Dwi'n amheus fy hun ai'r amlaethai fyddai Anne Griffith wedi'i ddefnyddio. Mi fasa'n haws gen i gredu mai'r llaethlys - y 'spurge' (Euphorbia) fasa hi wedi'i ddefnyddio. Mae 'na sawl cofnod fod gwahanol rywogaethau o'r llaethlys wedi'i ddefnyddio i gael gwared defaid oddi ar y croen. Mae'n dweud yn y llyfr hefyd mai'r "feddyginiaeth at dynnu'r ddafad wyllt oedd penfelen fanw, sef y 'groundsel', a'r ddeilen gron bitw."

Tybed be ydach chi wedi ei ddefnyddio i dynnu defaid oddi ar y croen?

CAPTION(S):

Gruw (prif lun), ac ar y chwith llysiau'r wennol
COPYRIGHT 2010 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2010 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Feb 10, 2010
Words:805
Previous Article:Cas-bethau a chamgymeriadau ieithyddol sy'n mynd dan fy nghroen.
Next Article:Oes 'na rhywun wedi gweld grifft? LLxN Y LLYSIAU.


Related Articles
Bygythiad i fywyd mOr Cymru.
Llaw gyfar wydd i'n tywys trwy ogoniant y tymhorau; Bu Tudur Huws Jones yn bwrw golwg ar gyfrol newydd gan awdures y bydd darllenwyr Yr Herald yn...
Cysylltiad Darwin a gogledd Cymru; LLYTHYRAU.
Cartref fy hynafiaid.
Natur yn ffrwydro; BYD NATUR.
Porth Madryn i weld morfilod; LLYTHYRAU.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters