Printer Friendly

Cofio'r cawr oedd yn cario baich y byd ar ei 'sgwyddau eiddil.

Byline: ANGHARAD TOMOS

DOEDDEN ni ddim yn ffrindiau ar y dechrau - ymhell nol yn y ganrif ddwytha. Roeddan ni ar ochrau gwahanol. Fo oedd Clerc Llys yr Ynadon yn G'narfon, a'r unig droeon fydda ni'n cwrdd fydda pan fyddwn i ac aelodau eraill Cymdeithas yr Iaith o flaen y Fainc.

Pwtyn bach byr oedd o, yn edrych yn rhyfedd yn y clogyn du, fel rhyw dderyn bach, a'i ben moel a'r sbectol fechan.

Wedyn mi ddechreuodd o fod yn niwsans. Does dim byd gwaeth na chlerc llys efo cydwybod.

"Ylwch 'mechan i, mi wnai bopeth i ymestyn yr amser. Mi fedra i ofyn am fis arall i chi gael ystyried talu."

"Tydw i ddim yn mynd i dalu, a dyna fo."

"Ond mae'n gas gen i feddwl amdanoch chi ac Ifanwy yn mynd i'r jel."

Roedden ni eisiau mynd i'r jel, ac roedd y deryn bach 'ma'n gwneud pethau'n anodd. Siarad yn ganmoliaethus o'n plaid, erfyn ar y Fainc i dosturio wrthym. Busnesu oedd o, stwffio ei big i mewn lle na ddylai...

Wedyn mi riteiriodd o, ac roedd y berthynas rhyngom llawer gwell.

Wn i ddim ai riteirio wnaeth o chwaith. Rhoi'r gorau i'w waith cyflogedig, a chychwyn ar antur mwya ei fywyd.

Mae'r hanes amdano fo a'i fab, Gwion, bellach yn rhan o chwedloniaeth Antur Waunfawr.

Trafod y pethau a'i symbylodd i sefydlu'r fenter y mae: "Daeth y cynta' ar y diwrnod y daeth Gwion o'i ysgol arbennig gyda llyfr sgrifennu yr oedd o wedi tynnu rhyw farciau arno a phensel liw, ac yntau'n dangos imi Seren Aur yr oedd ei athrawes wedi ei roi ar y llyfr hwnnw gyferbyn a'i waith. Dyna pryd y sylweddolais i, amy tro cyntaf, ei fod yn bersonoliaeth yn ei hawl ei hun, yn gallu ymfalchio yn ei lwyddiant ei hun, yn unigolyn."

Mae hanes sefydlu'r Antur yn rhan o fytholeg y pentref bellach, ac er ei fod yn ffrwyth gwaith cymuned gyfan, fyddai neb yn gwadu fod yn rhaid wrth rywun fel Gwynn Davies i'w hysbrydoli.

Gweledigaeth oedd hi, a'r cawr bach hwn yn ei chadw ynghyn. Dadlau am hawliau rhai gydag anfantais feddyliol a wnaeth am flynyddoedd, 'cyn sylweddoli fod cyfrifoldeb ynghlwmwrth hawl, ac mai nid wrth fynnu hawliau na thrwy gasglu arian y gellir dwyn perswad ar gymdeithas i dderbyn rhywun fel aelod o'r gymdeithas honno.'

Mi lwyddodd yr Antur, a thyfu a datblygu, ac mae'n bosibl fod mentrau tebyg iddi mewn ardaloedd eraill. Ond mae'n gwestiwn gen i a oes menter sydd wedi gwreiddio mor ddwfn yn y gymuned leol, ac wedi llwyddo i fod mor ddifyr ac annisgwyl.

Daeth a chyflogaeth i'r pentref, rhoddodd fri ar ail-gylchu, cadwodd yn driw i'r weledigaeth werdd, a datblygodd mewn modd arloesol. Does wybod beth ddaw nesaf o'r Antur.

Roedd y Caffi yn ddatblygiad i'w groesawu, ac yno bob amser cinio fel rheol roedd modd gweld Gwynn Davies a chael sgwrs efo fo.

Mae'r dyddiau agored wedi dod yn wyliau i edrych ymlaen atynt, mae nosweithiau arbennig wedi dod yn boblogaidd. Mae cymaint o addysg ynghlwmwrth y prosiect, nid i blant yn unig, fydda i byth yn dod oddi yno heb ddysgu rhywbeth newydd.

Cofiaf yr Antur yn penderfynu dathlu bywyd John Evans, a mor newydd oedd hynny. Cafwyd Gwyl John Evans, cerflun yn y gerddi, drama newydd ac os ewch i stafelloedd yr Antur nawr, cewch wybodaeth am lwyth y Mandaniaid.

Efallai mai'r hyn sydd yn aros yn y cof fwyaf yw ymweliad yr Indiaid Coch, Keith Bear, oedd yn perthyn i lwyth y Mandan, a chawsom oll ein swyno gan ei chwedlau a'i gerddoriaeth hudolus. Ar ddiwedd y noson, cofiaf Keith Bear a Gwynn Davies yn cofleidio ei gilydd, a theimlais gymaint oedd wedi digwydd ymmywyd yr Antur ers pymtheg mlynedd.

Roedd o'n dal i allu bod yn niwsans.

Arafodd ei gorff, a does dim dwywaith iddo dorri, yn enwedig wedi marw ei wraig, Mary, wedi gwaeledd maith.

Pan fydden ni yn trefnu cyfarfodydd yng Nghaernarfon i wrthwynebu'r rhyfel yn Irac, mi fyddai Gwynn Davies yn bresennol, er ei fod dros ei bedwar ugain. Y drwg oedd fod ei gydwybod yn dal i'w boeni.

Roedd y ffaith fod yna ddynion yn rhyfela ymmhen arall y byd, a phobl ddiniwed yn cael ei lladd yn ei frifo i'r byw. Mi fydda fo yn fy ffonio weithiau, yn hwyr yn nos, a byddwn yn gwrando arno yn dweud cymaint o wewyr meddwl fyddai'r cyfan yn ei achosi iddo.

Roeddwn wedi blino, ron i eisiau dweud wrtho, 'Gwynn Davies, rydach chi bron yn wyth deg pump.

Mae gynnoch chi hawl i eistedd yn ol a gadael pethau i fod. Stopiwch boeni cymaint!'

Ond fyddwn i byth yn dweud wrth gwrs. Doedd dim pwynt.

Dyn felly oedd o, dyn yn cario baich y byd ar ei ysgwyddau, ac yn derbyn ei gyfrifoldeb personol.

Anaml fyddai'r un sgwrs yn gorffen cyn iddo gael cyfle i ddweud ar y diwedd, "A dwi'n dal i ofidio mod i wedi bod yn rhan o gyfundrefn fuo'n gyfrifol am eich anfon i garchar."

Be oedd rhywun i fod i wneud efo fo?

Mae'n siwr fod dros fis wedi mynd heibio ers pan welais i'r Gydwybod Fawr amy tro olaf.

Roeddem yn yr Antur yn siarad efo cyfaill mawr sydd gen i yno (wel, yr un Ifanwy ag yr euthum i garchar efo hi), a hi a'm perswadiodd i fynd heibio Bryn Eithin, cartref Gwynn Davies.

Wrth aros iddo ateb y drws, sylwais ar lein ddillad ryfedd rhwng dwy goeden. Nid dillad oedd arni, ond poteli plastig. Yn crogi o'r lein, roedd peth rhoi-bwyd-i'r-adar.

Edrychodd Hedydd a minnau arno mewn syndod. Pan agorodd y drws, gofynnais am eglurhad.

Y wiwerod oedd yn dwyn cnau yr adar, a fedrai Gwynn yn ei fyw ganfod ffordd o'u cadw draw.

Wedi crafu pen am fisoedd, dyfeisiodd y dull hwn, oedd yn golygu cryn ddyfeisgarwch. Byddai'r wiwer yn ceisio mynd ar hyd y lein, ond oherwydd y poteli plastig, byddai yn colli ei gafael, ac yn methu'n lan yn ei nod.

"Rhagorol!" meddwn, gan ofyn gawn i rannu'r gyfrinach efo fy rhieni sy'n wynebu'r un frwydr ers blynyddoedd.

"Ond yn fuan wedyn, mi ffeindiais fod gan y wiwer rai bach, ac ron i'n poeni amdanyn nhwythau, nad oedden nhw'n cael digon o fwyd. Felly, mi fydda i'n gadael pentwr o gnau ar lawr - er mwyn teulu'r wiwer."

Pwy arall?

Pan aethom i'w gegin, poeni oedd o amy pentwr o lythyrau cais a gai gan gynifer o sefydliadau a ddeuai ar ei ofyn. Rhoi'r rhan fwyaf yn y bin wnawn ni, bobl normal, ond nid felly Gwynn. Roedd pob cais yn werth ystyried.

"Ond, rargol fawr, Angharad, sut ydw i yn gallu dewis rhwng elusen sydd am help i wella deillion yn yr Affrig, ac un arall er mwyn plant amddifad? Tydyn nhw i gyd angen help!"

Mae'r frawddeg olaf honno wedi aros yn y cof.

Deuthum oddi yno efo rhodd, bag siopa efo llun dau gi bach, a'r geiriau oddi tano, 'International Fund for Animal Welfare'.

Y dydd Llun wedi iddo farw, roeddwn yn dod o'r Co-op ym Mhenygroes, a gwelais dros y ffordd, Michael Jones a Merfyn Parry, dau sy'n dal y bws i'r Antur bob bore. Beth ddyliwn i ddweud wrthynt?

Ddylwn i ddweud rhywbeth o gwbl? Beth petaen nhw heb glywed eto? Beth tase nhw'n ypsetio?

Croesi'r ffordd ddaru mi, dweud fod yn ddrwg iawn gen i glywed, a chydymdeimlo yn ddwys a hwy.

Mi ddaru'r ddau ysgwyd llaw efo mi ac egluro mai trawiad a gafodd, a'i fod yn eu mysg ar ddydd ei farw. Wrth gwrs, lle arall fyddai o?

Ond blaw amwaith Gwynn Davies, fyddwn i ddim wedi gwneud hynny. Mi fyddwn wedi rhoi mhen i lawr, ac wedi mynd o'r tu arall heibio.

Mae gen i lawer i'w ddysgu eto, ond diolch iddo, mi perswadiodd fi i groesi i'w ochr o.

Roeddwn wedi blino, ron i eisiau dweud wrtho... stopiwch boeni cymaint!'

CAPTION(S):

Y diweddar Gwynn Davies
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Oct 24, 2007
Words:1322
Previous Article:Drama o drasiedi Tryweryn yn profi'n boblogaidd iawn; Y CELFYDDYDAU.
Next Article:One-bed flats limit to attract families to city; EXCLUSIVE Developers express their anger at new Liverpool council rule on apartments.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters