Printer Friendly

Cofiant teilwng i 'daid datganoli'.

Byline: Gan TUDUR H JONES tudur.jones@trinitymirror.com

Yn aml iawn ar ddiwrnod gem rygbi ryngwladol fe welwch chi gerflun urddasol Aneurin Bevan yng nghanol Caerdydd yn gwisgo con traffig fel het, neu sgarff goch a gwyn rownd ei wddf.

Nid y math o barch y mae gwladweinydd o statws Bevan yn ei haeddu efallai, ond o leiaf mae ganddo gerflun i gydnabod ei gyfraniad fel 'Tad y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.'.

Ar y cyfan, rhai digon sal ydan ni am wneud hynny - efo'n gwleidyddion mawr o leiaf.

Un sydd wedi ceisio unioni'r cam ydi'r Parchedig D Ben Rees, trwy gloriannau bywyd a gwaith gwladweinydd arall uchel ei barch - Jim Griffiths (1890-1975).

Yn ei ragair i'r gyfrol Jim Griffiths: Arwr Glew y Werin - dywed yr awdur: "O ran y Blaid Lafur bum yn ymwybodol iawn ein bod heb wneud cyfiawnder o gwbl a'r cewri Sosialaidd, yn arbennig Aneurin Bevan a James Griffiths."

Bu Jim Griffiths yn AS dros Lanelli o 1935 i 1970, bu'n allweddol yn y broses o sicrhau fod gan Gymry hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llysoedd barn, bu'n boblogaidd dramor fel Ysgrifennydd y Trefedigaethau a bu'n ymgyrchydd diwyd dros ddirwest a chadw tafarndai ar gau ar y Sul. Ond heb os, ei gyfraniad mwyaf oedd ei frwydr galed o ddiwedd y 1950au ymlaen i argyhoeddi'r Blaid Lafur i fabwysiadu datganoli fel rhan o'i pholisi.

Os mai Ron Davies sy'n cael ei gydnabod fel 'tad datganoli' yng Nghymru, gellid dadlau mai Jim Griffiths oedd y taid. Y tristwch yw na chafodd fyw i weld gwireddu'r freuddwyd honno.

Jim Griffiths, yn ol yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, oedd y "gwladwei nydd Cymraeg amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y Blaid Lafur hyd yn hyn."

Mae'n syndod felly - o gofio'i statws a'r parch tuag ato ar draws y pleidiau - nad oes cofgolofn i gydnabod hynny.

Galwodd y diweddar Emyr Price am hynny mor bell yn ol a 2000, gan alw Jim Griffiths yn "wleidydd pwysica'r ganrif ddiwethaf ". Ac mae D Ben Rees yn ategu'r alwad yn Arwr Glew y Werin.

Wrth grynhoi ei ymgyrchu dros ddatganoli dywed D Ben Rees ei bod yn golled na sefydlodd y gwleidydd "gwylaidd a gostyngedig hwn" gymdeithas wirfoddol i ddatbylgu syniadau ar ddatganoli.

"Mae'n siwr gen i," meddai, " y byddai hynny'n groes i'w natur ar sawl cyfrif. Erbyn hyn yr wyf yn argyhoeddedig y dylid o leiaf gael cofgolofn iddo yn y brifddinas yng Nghaerdydd. Gwelid yno gofgolofnau i ddau o wleidyddion Cymru yr ugeinfed ganrif, sef David Lloyd George ac Aneurin Bevan. Dywedodd Emyr Price yn y flwyddyn 2000: 'A'r sgandal fwya un yw nad oes cofgolofn deilwng iddo yn ei brifddinas er bod un yno i Aneurin Bevan. Mae gwir angen y fath gydnabyddiaeth, a hynny ar fyrder.' "Aeth blynyddoedd heibio ers hynny a hyd y gwn i, nid yw ein harweinwyr cyfoes yn trafod hyn. Ond gallwn ddweud yn ddibetrus fod ein dyled bennaf am y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd i Jim Griffiths. Ni fyddai Cymru heddiw yr hyn ydyw heb ei gyfraniad gwerthfawr i'n bywyd fel cenedl."

Mae'r cofiant yn dilyn bywyd Jim Griffiths o'i fagwraeth yn y Betws a Rhydaman i ddiwedd ei gyfnod maith fel AS yn San Steffan, ac mae felly'n mynd gam ymhellach na hunangofiant y gwleidydd poblogaidd - Pages from Memory - a gyhoeddwyd yn 1969.

Yn ogystal ceir pennod ar ei genhadaeth hedd bwysig i Biafra a Nigeria yn 1968, pan fu ef a'r Arglwydd Fenner Brockway yn allweddol wrth sicrhau cadoediad rhwng y ddwy ochr yn y rhyfel cartref yno.

Ymwelodd a'r wlad ddwy waith o fewn ychydig ddiwrnodau i'w gilydd, gan ymgymryd ag amserlen lawn a phrysur, ac yntau'n nesau at ei bedwar ugain oed ar y pryd.

Nid rhestru llwyddiannau yn unig y mae'r gyfrol, na phentyrru canmoliaeth unochrog chwaith, er gwaethaf edmygedd digamsyniol yr awdur at ei wrthrych. Mae'r awdur yn trin y ffrae a fu rhwng Jim Griffiths a'i asiant ffyddlon, Douglas Hughes, yn drylwyr a deuheuig.

Roedd Douglas Hughes yn asiant llawn amser i Jim Griffiths o'r cychwyn pan aeth i San Steffan gyntaf yn 1935. Roedd yn ysgwyddo llawer o'r baich a'r dyletswyddau pob dydd yn yr etholaeth, gan adael Jim Griffiths i ofalu am faterion ehangach.

Ond ym 1961 rhwygwyd y berthynas gan ffrae oherwydd nad oedd yr asiant wedi hysbysu'r AS ynglyn a phrotest gan Undebwyr Llafur yn Llanelli.

Datgelir cyfres o lythyrau pigog rhwng y ddau, a sawl rheswm arall a allai egluro'r anghydfod.

Cofiant teilwng a haeddiannol i wleidydd poblogaidd, a diymhongar.

| Cofiant Jim Griffiths: Arwr Glew y |Werin; D Ben Rees; Y Lolfa; pris PS14.95 (clawr meddal), PS24.95 (clawr caled).
COPYRIGHT 2014 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2014 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Sport
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Oct 8, 2014
Words:768
Previous Article:Y brain yn hel cocos; LLYTHYRAU.
Next Article:CELEB SECRET.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters