Printer Friendly

Coed talaf a hyna'r byd; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN

BOB hyn a hyn, mi fydda i'n cael y pleser o deithio i ganol mwynder Maldwyn i bentre bach Llandinam. Yno, mi fydda i wrth fy modd yn mynd i Broneirion. Geidiau Cymru sy'n berchen y lle heddiw, ond mi adeiladwyd y ty yn 1864 gan David Davies Llandinam. Mae o'n dye hyfryd, ac mae'r golygfeydd oddi yno yn wych.

Ac mae 'na un peth arall sy'n grt am Broneirion, a hynny ydi'r coed welingtonia mawr sydd wedi eu plannu yno. Y rhain oedd y rhai cyntaf o'r rhywogaeth yma i gael eu plannu yng Nghymru. Yr enw gwyddonol arnyn nhw ydi Sequoiadendron giganteum, ac enwau Saesneg arnyn nhw ydi'r giant sequoia a'r Sierra redwood.

Mae'r rhain yn tyfu'n naturiol mewn celloedd ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd y Sierra Nevada yng Nghaliffornia. A'r rhain ydi'r coed mwyaf yn y byd o ran cyfaint. Mae 'na saith o'r coed yma sy'n fwy na 42,000 o droedfeddi ciwbig. Maen nhw'n tyfu ar gyfartaledd i uchder o tua 165 i 280 troedfedd ac maen nhw'n mesur tua 18 i 24 troedfedd mewn diamedr. Mae ambell un wedi tyfu i uchder o 311 troedfedd, ac mae gwyddonwyr yn credu fod y rhai hynaf o'r coed yma tua 3,500 o flynyddoedd oed.

Mae rhisgl y goeden yn nodedig - mae'n ffibrog, yn rhychiog, ac mi all fod yn gymaint thair troedfedd o drwch wrth fn y boncyff. Mae hyn yn cynnig diogelwch rhag tn i'r goeden. Mae'r dail yn fytholwyrdd, yn sip mynawyd, tua 3-6mm o hyd, ac wedi'u trefnu'n droellog.

Mae'r moch coed tua 4-7cm o hyd ac maen nhw'n cymryd tua 18-20 mis i aeddfedu, er mi fedran nhw aros yn wyrdd ac wedi cau am hyd at 20 mlynedd.

Mae'r moch coed yn dechrau ymddangos ar y coed ifanc pan fyddan nhw tua deuddeng mlwydd oed. Ag ar unrhyw adeg, mi fedrwch chi ddisgwyl gweld tua 11,000 o foch coed ar goeden sy'n llawn dwf. Mi fu rhywun yn rwla yn gwneud syms, ac yn amcangyfrif fod tua 400,000 o hadau yn cael eu gwasgaru'n flynyddol gan un goeden!

Fel deudis i yn y Sierra Nevada yng Nghaliffornia mae'r rhain yn tyfu'n naturiol, ond mae 'na nifer yn cael eu diogelu mewn parciau cenedlaethol fel y Giant Sequoia National Monument. Fel arfer rydach chi'n eu gweld nhw mewn hinsawdd glaear hefo hafau sych a gaeafau oer ble medrwch chi ddisgwyl eira.

Mae rhai o'r coed, fodd bynnag yn cael trafferth i atgenhedlu yn eu cynefinoedd naturiol, ac un peth sydd ei angen arnyn nhw ydi tn yn y goedwig yn achlysurol. Heb y tanau yma, mi fydd tyfiant arall yn mygu'r sequoia ifanc. Mae'r tanau hefyd yn cario aer poeth i fyny i'r brigau uchaf, ac mae hyn yn help i sychu ac agor y moch coed a rhyddhau'r hadau. Mae'r coed sydd wedi tyfu i'w llawn dwf hefyd angen llawer iawn o ddwer, ac felly yn aml iawn, mi gwelwch nhw ar lannau afonydd.

Mae'n bosib hefyd fod tanau naturiol yn y goedwig yn help i gadw niferoedd y morgrug coedysol i lawr.

Mae 'na ddau anifail hefyd sy'n bwysig wrth wasgaru'r had. Un o'r rhain ydi'r chwilen gorniog, Phymatodes nitidus ydi ei henw gwyddonol, sy'n dodwy ei hwyau ar y moch coed. Mae'r larfa wedyn yn tyllu i fewn i'r moch coed. Mae hyn yn ei dro, yn torri'r cyflenwad dwer i gen y moch coed, ac mae'r moch coed yn sychu'n raddol yn ystod misoedd yr haf, ac o ganlyniad mae'r hadau'n disgyn.

Un anifail arall sy'n ddefnyddiol i wasgaru'r had ydi gwiwer Douglas (Tamiasciurus douglasi) sy'n cnoi'r cen ir, ar y moch coed ifanc. Mae hyn yn ei dro yn golygu fod rhai o'r hadau yn cael eu gwasgaru gan yr wiwer.

Roedd llwythi brodorion cynhenid America yn adnabod y goeden yma'n dda a rhai o'u henwau nhw ar y goeden ydi Wawona, Toos-pung-ish a Hea-mi-withic. Mae 'na lot o newid wedi bod yn enw'r goeden yma ers y cofnod cyntaf amdani hi. John Lindley enwodd hi gyntaf yn Wellingtonia gigantea yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb sylweddoli fod yr enw yn anghywir. Ella y dylem ninnau hefyd ystyried newid yr enw Cymraeg. Dwi braidd yn lecio Wawona. Tybed be ydi'ch barn chi?

CAPTION(S):

Y coed welingtonia ym Mroneirion, Llandinam
COPYRIGHT 2010 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2010 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Nov 24, 2010
Words:720
Previous Article:Apwyntiad arall efo'r Doctor Dail.
Next Article:Cyfrol arbennig i ddathlu neiniau; Y CELFYDDYDAU.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |