Printer Friendly

Chwa o bop y chwedgau.

Byline: Gan TUDUR H JONES tudur.jones@trinitymirror.com

UN o ddatblygiadau mwyaf llwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf ydi Llwyfan y Maes. Mae'r penderfyniad i grynhoi'r adloniant i un llwyfan yn hytrach na dau yn bendant wedi talu ar ei ganfed, ac mae 'na awyrgylch braf o gwmpas y bariau a'r llefydd bwyd, er fod rhai grwpiau'n dioddef braidd o fod yn gerddoriaeth gefndir.

Mae trefi a phentrefi plwy'r eisteddfod - lle bynnag y bo bron - yn llefydd llawer distawach o'r herwydd hefyd, ac mae hynny'n biti. Ond mae'r eisteddfod ei hun ar ei hennill o'r penderfyniad, heb os.

Tyrrodd miloedd i wylio Bryn Fon eleni, a mwy fyth i weld Edward H y llynedd.

Eithriadau ydi torfeydd mor fawr, ond roedd cynulleidfaoedd da yn gwylio rhai o'r bandiau ifanc gwych sydd gennym ar hyn o bryd, fel Swnami, Yr Eira, Candelas, a'r anhygoel Yws Gwynedd.

Mae'r sin roc Gymraeg yn iach iawn, ddywedwn i. Ond rhan o apel Llwyfan y Maes ydi'r gymysgedd o'r hen a newydd - y to ifanc a'r hen stejars, ac un o'r bandiau sy'n bendant yn syrthio i'r ail gategori ydi Ail Symudiad, ac fe ddaethant a heulwen y Rifiera Cymraeg, i fenthyg teitl un o'u caneuon, i Lanelli yn ystod eu perfformiad.

Mae'r band ymhlith y detholion prin iawn hynny sydd wedi pontio pum degawd o berfformio, ac maen nhw'n dal i fynd.

Mae cyfrol newydd yn adrodd yr hanes, ac yn dathlu cyfraniad y grwp o'r cychwyn cyntaf yn Aberteifi - y band Cymraeg cyntaf i ddod o'r dref honno, ac un o'r bandiau prin hynny yn y cyfnod hwnnw nad oedd yn dod o un o neuaddau preswyl ein prifysgolion. Mae CD yn dod efo'r llyfr, sy'n rhoi blas o gerddoriaeth y band.

Ffurfiwyd Ail Symudiad gan Richard Jones, ei frawd Wyn, a cherddor Cymraeg arall o Aberteifi, Malcolm Gwyon, yn y 70au hwyr. Bathwyd yr enw am fod y cyfnod - grwpiau pync a'r don newydd - fel ail symudiad yn hanes roc a rol. Yn fuan iawn daeth cefnder Richard a Wyn - Gareth Lewis - i mewn i chwarae'r drymiau yn lle Malcolm, a barhaodd fel rheolwr. Tyfodd dilyniant i'r grwp yn eu milltir sgwar, ac yn raddol, tu hwnt i Sir Aberteifi hefyd.

Caneuon bachog y band oedd yn bennaf gyfrifol. Mae melodiau Richard Jones yn union fel chwa o'r 1960au.

Daeth un o'r uchafbwyntiau ym 1981, pan enillodd y grwp wobr y Prif Grwp Roc yn Noson Wobrwyo Sgrech.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cawsant Wobr Arbennig Sgrech am eu cyfraniad i'r sin roc Gymraeg, ond cyn hynny, a hwythau yn eu hanterth, cyhoeddodd y band eu bod yn rhoi'r gorau iddi.

Erbyn hyn roedd y brodyr wedi sefydlu label recordio eu hunain - Fflach - ond roedd ceisio chwarae gigs led led Cymru, rhedeg y label, a gwneud eu gwaith pob dydd yn mynd yn drech na nhw. Dyna oedd wrth wraidd y penderfyniad i chwalu.

Ond wyth mis yn ddiweddarach, roeddan nhw'n ol ar lwyfan unwaith eto - ail wynt i Ail Symudiad - diolch i gynnig gan bwyllgor ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol Llambed, 1984.

Mae'r band wedi bod ar daith fer i hyrwyddo'r llyfr, ac mae ganddynt rai gigs yn dod i fyny.

Meddai Richard: "Mae hiwmor yn rhan bwysig o'r band ac yn un o'r rhesymau pam ry'n ni'n dal i chwarae, a hefyd mae'r ochr gymdeithasol yn gret, yn cwrdd a ffrindiau yn y gogledd a'r de."

"Efallai bod rhai pobl ddim yn gwybod ond Ail Symudiad yw y band cyntaf Cymraeg oedd ddim wedi dod o ysgol na choleg, ac ar ddechrau ein gyrfa doeddwn ni'n adnabod neb, ond ar ol cwrdd a Trwynau Coch, anfonwyd demo at Eurof Williams, Sosban a hynny oedd ein cam cyntaf i'r Sin Roc Gymraeg."

Yn wreiddiol, ffurfiwyd label Recordiau Fflach yn 1981 i helpu bandiau eraill gael sylw a rhoi cyfle iddynt recordio ac i ryddhau senglau. Ond penderfynodd y ddau frawd ym 1984 i barhau gyda'r label, ac erbyn hyn mae amrywiaeth eang o gerddoriaeth yn ei catalog, a dros 400 o deitlau ar y pedair label - Fflach, fflach:tradd , Rasp a Mwldan a stiwdio recordio 32 trac.

Gyda meibion Richard, Dafydd a Osian bellach yn rhan o Ail Symudiad, mae'r dyfodol mewn dwylo da.

yn wynebu'r unfed ganrif ar hugain yn hyderus.

Yn y gyfrol, cawn lwyth o hanesion difyr am y sin roc yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf byrlymus, ac mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys teyrngedau gan nifer o artistiaid a threfnwyr. Ymhlith y bobl amlwg maew'r DJ Radio 1 Huw Stephens sy'n crisialu eu cyfraniad fel hyn: "Mae eu cariad at gerddoriaeth, teulu, ffrindiau a'u cynefin yn plethu yn eu bywydau bob dydd, a byddai Cymru, a'r sin gerddoriaeth, yn lle tlotach hebddyn nhw a'u gwaith gwych."

| Fflach o Ail Symudiad; Stori |Richard a Wyn; Richard Jones; Y Lolfa; PS9.95

CAPTION(S):

Prif lun: Ail Symudiad yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr eisteddfod, gyda Geraint Lovrgeen yn westai ar yr allweddellau. Llun |bach: Y grwp yn canu ym mhabell Mon Swn, Eisteddfod Llangefni 1983, a na, nid yr un crys sydd gan Richard
COPYRIGHT 2014 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2014 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Aug 20, 2014
Words:848
Previous Article:buzz beauty.
Next Article:Gwerth llyfrau gwreiddiol; LLYTHYRAU.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters