Printer Friendly

Ceisio cynnal poblogaeth y gragen fylchog; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

MAE cregyn bylchog ymhlith rhai o'r creaduriaid mwyaf diddorol sy'n byw yn ein moroedd ni ac ers 2012 mae criw o wyddonwyr ym Mhorthaethwy wedi bod yn astudio'r rhain er mwyn gweld sut mae modd i'r diwydiant pysgota yng Nghymru eu dal mewn dull cynaladwy.

Byw ar wely'r mor mae cregyn bylchog a hynny'n gymharol agos at y lan. Dydyn nhw ddim yn hawdd i'w gweld am eu bod yn hoffi hanner claddu eu hunain yn y mwd neu'r tywod sydd ar wely'r mor. Cregyn deuddarn ydi cregyn bylchog sy'n edrych bron fel dwy soser fach ar ben ei gilydd. Os ydyn nhw'n cael eu bygwth gan rywbeth, seren for er enghraifft, mi fedran godi'n sydyn a nofio i ffwrdd yn gyflym am bellter byr.

Cragen Aberffro (y cregyn gweigion sy'n cael eu defnyddio i dorri Teisennau Berffro, sef math o deisen siwgr) ydi'r enw Cymraeg ar King Scallop a cwin ydi'r enw ar y Queen Scallop. Mae pobl yn hoff o'u bwyta ac mae'r diwydiant yn un pwysig.

Tynrwydi a ddefnyddir i gasglu'r cregyn oddi ar wely'r mor ac mae hyn wedi bod yn destun dadl ers rhai blynyddoedd bellach. Yr hyn oedd yn achosi pryder oedd fod tynnu'r rhwydi ar hyd gwely'r mor i godi cregyn bylchog yn codi rhywogaethau eraill hefyd ac yn difetha'r cynefin - ddim yn annhebyg i adael olion teiars peiriant trwm ar wyneb y tir.

Ym Mae Ceredigion mae'r rhan fwyaf o bysgota cregyn bylchog yng Nghymru hefo peth pysgota o amgylch Pen Llyn a gogledd Mon. Caewyd rhan o Fae Ceredigion i bysgota'r gragen fylchog yn 2009 am fod cymaint o gychod yn yr ardal, a'r pryder mawr gan gadwraethwyr oedd fod y cychod pysgota hyn yn difetha gwely'r mor, y riffiau cerrig, yn effeithio ar ddolffiniaid yn yr ardal ac yn effeithio ar y gadwyn fwyd.

Doedd y pysgotwyr ddim yn cytuno. Roedden nhw wedi bod yn pysgota'r ardal ers degawdau ac roedden nhw o'r farn fod yna gyflenwad da o gregyn bylchog ac fod yr amgylchedd yn gallu adfer yn gyflym o dreillio amdanynt.

Roedd yn rhaid cynllunio arbrawf oedd yn mynd i weld pa effaith oedd graddfa'r treillio yn ei gael ar y cynefin a'r hyn oedd yn cael ei ddal yn y cynefin. Roedd yr ardal i'r gogledd o Ynys Sgomer yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac felly'n gaeedig i bysgota. Gan fod hwn ar gau, beth oedd wedi digwydd oedd fod pawb wedi mynd i'r ardal oedd yn dal ar agor ac wedi disbyddu'r lle. Gwaith tymhorol ydi pysgota cregyn bylchog ac mae tymor pysgota rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill.

Gan fod pawb yn crynhoi yn yr un man, yn y rhan fwyaf o flynyddoedd roedd y cregyn bylchog wedi'u clirio erbyn mis Ionawr.

Felly, dyma fynd ati i gydweithredu hefo pysgotwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i weld beth ellid ei wneud.

Merch o Lydaw, Gwladys Lambert, oedd yn arwain yr astudiaeth, a'r peth cyntaf wnaethon nhw oedd edrych ar fideos o wely'r mor i weld beth oedd yn byw yn y rhan gaeedig. Yna rhannwyd yr ardal yn 17 o goridorau gan bysgota ar ddwyster gwahanol yn y rhain i weld lle roedd effaith yn dechrau.

Defnyddiwyd pum cwch bysgota i bysgota yno yn ystod y tymor agored ym mis Ebrill. Cyn hynny, ym mis Mawrth ac wedyn ym mis Mai dyma gynnal arolwg o wely'r mor gan ddefnyddio'r Tywysog Madog (cwch ymchwil Prifysgol Bangor) i weld sut siap oedd ar bethau, ac wedyn ym mis Medi i weld os oedd gwely'r mor wedi adfer.

Roedd ymchwilwyr a physgotwyr yn cydweithio a'i gilydd i weld faint o gregyn bylchog oedd yn cael eu dal a hefyd beth oedd y sgil-ddaliad - rhywogaethau fel y cranc heglog, seren for, cranc coch, y gragen foch fwyaf ac ambell bysgodyn. Yn gyffredinol roedd y sgil-ddaliadau o'r rhywogaethau hyn yn isel, ac roedd hynny'n ganlyniad da.

Yn rhyfeddol, wrth ddadansoddi'r data ym mis Medi yn dilyn y tymor pysgota fe wnaethon nhw ganfod nad oedd fawr ddim o effaith y treillio ar yr arfilod yn nwr y mor.

Roedd effaith, fodd bynnag, ar wely'r mor - gadawyd rhai creithiau ar wely'r mor oedd yn dal i'w gweld ym mis Medi ond roedd wedi cilio'n sylweddol dros yr haf.

Mae'r gragen fylchog yn byw am tua 15 mlynedd ac erbyn iddi fod tua dwy i deirblwydd oed, maen nhw'n oedolion aeddfed. Y maint glanio lleiaf ydi 11cm o led ac maen nhw tua pedair blwydd oed ar y maint yma. Yn y rhan gaeedig o Fae Ceredigion, fe ddaliwyd rhai oedd yn wyth a naw mlwydd oed.

Cragen ddeuryw ydi'r gragen fylchog ac mae'n bwrw had rhwng misoedd Ebrill a Hydref, felly maen bwysig eu bod yn cael llonydd i fridio yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r gwaith ymchwil wedi ceisio ateb rhai o'r cwestiynau hyn: ar ba lefel o bysgota y byddan nhw'n gynaladwy? Faint o amser sydd ei angen ar wely'r mor i ddod ato'i hun? Be ydi effaith stormydd y gaeaf? Oes modd agor rhan o'r ACA, o bosib ar sail cylchdroadol? Does dim ateb syml, ond mae'r gwaith ymchwil hwn yn gorffen ym mis Mai eleni a bydd Gwladys Lambert a'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cyflwyno adroddiad sy'n cynnig rheolaeth bosibl er mwyn cydbwyso anghenion cadwraeth a'r diwydiant pysgota.

CAPTION(S):

Cyfri'r gwahanol rywogaethau ddaeth i'r rhwyd yn ystod gwaith treillio ar wely'r mor
COPYRIGHT 2015 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2015 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Mar 4, 2015
Words:903
Previous Article:Dim esgus dros beidio estyn am lyfr a dechrau darllen... BARN.
Next Article:Dragons suffer Trophy hangover in Heed loss; No repeat of heroics for Wilkin's men as chances go begging yet again.
Topics:

Terms of use | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters