Casgliad yn gofnod o yrfa grwp arloesol; Y CELFYDDYDAU.
Byline: Tudur H JonesGoreuon Ar Log; Sain;
AR Log oedd y grwp cyntaf i ddod a cherddoriaeth draddodiadol Cymru i sylw rhyngwladol.
Ffurfiwyd y grwp ym 1976 yn arbennig er mwyn cymryd rhan yng ngwyl geltaidd fawr L'Orient.
Penderfynwyd cario 'mlaen fel grwp proffesiynol wedi hynny, ac am naw mis o bob blwyddyn fe fyddech yn fwy tebygol o ganfod Ar Log yn rhywle ar gyfandir Ewrop nac yma yng Nghymru.
Yn raddol, aeth y teithiau a nhw ymhellach fyth - i lefydd fel yr Unol Daleithiau a De America - ac maent wedi canu mewn 21 o wahanol wledydd i gyd.
Daeth y teithio di-baid i ben yng nghanol yr 1980au, ond daliodd y grwp ati i berfformio'n rheolaidd yma yng Nghymru - yn arbennig y teithiau hynod lwyddiannus gyda Dafydd Iwan.
Rhwng 1978 a 1996 rhyddhaodd Ar Log 10 albwma dwy sengl, ac mae'r CD ddwbl hon yn cynnwys y goreuon o 'Ar Log I' i 'Ar Log VI' ynghyd ag un trac bonws 'byw'.
Mae'n ddiddorol sylwi ar y gwahaniaeth rhwng y traciau cynnar a'r rhai mwy diweddar.
Mae'r datblygiad yn nhechneg a hyder yr aelodau i'w glywed yn glir, ac mae swn y band wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd hefyd, er fod yr aelodaeth fwy neu lai yr un fath.
Mae'r gwahaniaeth mwyaf i'w glywed yn y senglau, lle maen nhw wedi mynd amswn mawr, llawn, sy'n swnio'n chwithig braidd - ddim cweit yn taro deuddeg rhywsut.
Llawer gwell yw'r Ar Log syml, gwerinol, acwstig a Chymreig, lle maent yn dangos fod modd bod yn fentrus heb fynd dros ben llestri.
Casgliad difyr dros ben, ac adlewyrchiad teg o yrfa grwp arloesol yng ngwir ystyr y gair.
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
---|---|
Date: | Oct 24, 2007 |
Words: | 280 |
Previous Article: | O'r maes awyr i'r gegin am 12 awr; Y CELFYDDYDAU. |
Next Article: | Drama o drasiedi Tryweryn yn profi'n boblogaidd iawn; Y CELFYDDYDAU. |