Printer Friendly

Carreg filltir o golofn, ond mae fy mywyd mor wallgo ag erioed.

Byline: bethan GWANAS

Odar ... dyma golofn rhif 500 a does gen i fawr i'w ddeud. Mi ddylwn i fod yn gallu dathlu'r achlysur efo hymdingar o golofn ond nid felly fydd hi mae arna i ofn. Wedi (arhoswch chi funud, dwi'n trio gwneud syms fan hyn ...) ym ... 500 colofn lluosi efo 52 wythnos - na, 51 - rydan ni'n cael hoe dros Dolig = 25500. Y? O naci, rhannu efo 51 siwr. Ym ... 9.80. Dwi fawr callach. Ydi hynna'n golygu 9.8 o flynyddoedd yndi? Fues i rioed yn dda efo syms, hyd yn oed efo cyfrifianell.

Beth bynnag, mae 500 colofn yn dipyn golew. Ddim cymaint Angharad Tomos, sydd wrthi ers ... wel, dwbl hynna, synnwn i damed, ond mae'n dal yn rif rhyfeddol. Mi fysech chi'n meddwl y byswn i wedi hen arfer taro dedleins bellach. Ond mae'n 1.30 y bore a dwi isio cychwyn am Lanelwedd erbyn 11.00 fory (dydd Sul), gan mod i'n gweithio yno am yr wythnos a dwi'm wedi hanner pacio eto.

Panic? O, rhyw fymryn. Ond mae bywyd wedi bod yn rhemp yn ddiweddar a phob math o bethau wedi mynd yn hurt bost. Dwi'n meddwl iddo gychwyn pan es i am dro ar y beic efo Del yn l fy arfer. Y tro yma, mi wnes i ffonio fy nghyfaill Olga, sy'n byw yn Llanfachreth, i weld a fyddai hi adre taswn i'n galw am baned. Oedd. Felly i ffwrdd fi a nghi. Ond hanner ffordd, pwy ddoth i'n cyfarfod ni ond Olga a'i mab, Ifan. Roedd o wedi cynnig "Pam na awn ni i'w chyfarfod hi ar y beics, Mam?" Gwych. Ymlaen ni ar hyd y ffordd fach gul, a dyma Ifan yn gofyn i mi os o'n i'n gallu gwneud 'wheelies'. Nacdw. "Ti'n gallu mynd heb ddefnyddio dy ddwylo ta?" "Ddim os dwi'n pedlo hefyd, nacdw." Roedd ei siom yn amlwg. Cyn bo hir, dyma fo'n trio eto. "Ti'n gallu gneud 'endows' ta?" "Be 'di endows?" A dyma'r bachgen 8 oed yn dangos i mi. Codi cefn y beic a tharo'r brcs fel eich bod chi 'r olwyn gefn yn yr awyr; rhyw fath o 'handstand' ar feic - on its end, am wn i. Wel, roedd o'n edrych reit hawdd, felly dyma roi cynnig arni. Pedlo chydig, taro'r brcs a phwyso mlaen i geisio codi'r olwyn l. Ond mi bwysais ymlaen fymryn yn ormod, neu frcio braidd yn rhy gadarn. Es i (a'r beic) dn dros ben, a dyna fi ar fy nghefn ar y tarmac a nghoesau wedi eu clymu yn yr olwynion. Roedd Del yn sbio'n hurt arna i, Ifan yn chwerthin nes roedd o'n sal ac Olga methu credu ei llygaid. Efallai bod 47 braidd yn hen i drio dysgu gwneud triciau ar feic. Roedd y clais ddatblygodd ar fy nghefn yn werth ei weld.

Wedi dod dros y broblem o roi gwerth pounds 71.05 o betrol yn fy nghampafan (diesel), i ffwrdd a fi i'r de am rai dyddiau i ffilmio gwahanol eitemau ar gyfer 'Byw yn yr Ardd', a brysio'n l er mwyn cael trefn ar yr Ymryson ro'n i wedi rhyw lun o'i threfnu ar gyfer nos Wener.

Ymryson flynyddol y Sesiwn Fawr oedd hon; roedden ni wedi penderfynu ei chynnal er nad oedd 'na Sesiwn, a chodi tl am unwaith er mwyn trio llenwi rhywfaint ar goffrau apl yr hen Sesiwn. Ond gan nad o'n i adre, do'n i ddim wedi gallu ei hysbysebu rhyw lawer, a ges i ffit o gael negeseuon gan dri o'r timau yn deud na fydden nhw'n gallu dod wedi'r cwbl. AAAAA! A dim ond deg tocyn oedd wedi eu gwerthu ymlaen llaw (yn bennaf am fod y tocynnau yn dal yn fy mag i a minnau yng Nghaerdydd).

Diolch byth, roedd y Meuryn, Twm Morys yn dal i fedru dod, ac mi ddoth pedwar tm arall, er mai dim ond un aelod oedd gan ddau ohonyn nhw. Rhedeg o gwmpas fel ir wedyn yn trio cofio lle ro'n i wedi rhoi'r gwobrau a lle roedd fy mhotel Brasso er mwyn glanhau un o'r tlysau. Ddois i byth o hyd i'r Brasso. A drapia, doedd gen i'm syniad pwy oedd wedi ennill y darian llynedd chwaith.

Ro'n i fymryn yn nerfus yn cerdded i mewn i'r clwb rygbi. Ond diawch, mi ddoth criw eitha parchus yn y diwedd (yn ogystal 'r darian) ac fe gafwyd noson i'w chofio. Yr Ymryson orau eto, a deud y gwir! Roedd Twm wrth ei fodd; er fod rhai o'r cerddi ymysg y rhai salaf a gafwyd erioed, roedd 'na gerddi wirioneddol wych hefyd. Mi fydd raid i chi ddarllen colofn Twm yn Y Cymro i gael blas ohonyn nhw, gan ei fod o wedi mynd 'r cwbl adre efo fo.

Ond mi wnes i lanast o bethau eto. Fi oedd yn cadw'r sgr. Mi wnes i weithio allan bod y Glr o Aberystwyth a'r Gwylliaid o Faldwyn yn gyfartal. Ond ganol nos yn fy ngwely mi ddeffrais yn chwys laddar. Naci, Y Gwylliaid oedd yn fuddugol o 3 phwynt! Ymddiheuraf yn gyhoeddus i Arwyn Groe a'i dm. Dwi methu gwneud endows na syms.
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 
Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jul 22, 2009
Words:851
Previous Article:Llysiau pentai i dynnu llyfrithod.
Next Article:Cartref fy hynafiaid.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters