Printer Friendly

Calan Mai; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

OES yna rywbeth cystal a dyfodiad Mai? Mi fydda i bob amser yn edrych ymlaen yn eiddgar at Galan Mai. Mae'r dydd yn hir, yr adar yn canu, y coed yn deilio a blodau lliwgar ymhobman - beth allai fod yn well? Roedd y diweddar Dic Jones hefyd yn edrych ymlaen at fis Mai. Fel hyn mae o'n cychwyn ei awdl i'r gwanwyn: O anfon, Glamai, dy fwyn golomen Goruwch y dilyw i gyrchu deilen.

Mae o hefyd yn cyfeirio at fis Mai mewn cywydd oedd yn croesawu sasiwn y de i Flaenannerch, ac meddai: Pan ddaw'r egin 'leni'n las, A Mai'n gwneud ei gymwynas Dyna ydan ni'n ei ddisgwyl ym mis Mai ynte? Tynerwch ac eiddilwch y blodau yn deffro'r synhwyrau a'r ddaear yn glasu, a ninnau'n deffro i'w harddwch. Mae'n siwr mai dyma un rheswm pam fod coed a blodau yn gymaint rhan o draddodiad Calan Mai.

Un o'r traddodiadau hynny ydi'r Fedwen Fai. Mae hwn yn hen draddodiad ac nid yn yng Nghymru yn unig. Yr arfer oedd codi pren tal, ac mae'n ddigon posib mai'r fedwen fyddai'r pren hwn, ar sgwar neu yng nghanol pentref ac wedyn ei addurno. Roedd yn cael ei addurno a blodau oedd yn eu blodau ar y pryd a hefyd gyda rhubanau, a'r arfer oedd dawnsio o amgylch y pren.

Roedd arferion eraill hefyd yn gysylltiedig a Chalan Mai, ac ar nos Calan roedd yn arferiad i gasglu canghennau o goed a blodau ac addurno tu allan y cartref.

Un o'r blodau yr arferid ei gasglu oedd gold y gors (dde). Mae'r rhain yn eu blodau rwan mewn mannau gwlyb a thamp ac mewn corsydd. Melyn y gors ydi enw arall arno fo. (Caltha palustris, Marsh-marigold). Ystyr y gair Lladin palus ydi cors neu bwll, felly mae'r enw'n gweddu i gynefin y blodyn. Mi welwch chi'r blodyn o bell am fod y lliw melyn mor llachar, a dyma mae'n debyg sut y cafodd y 'gold' yn yr enw, am ei fod o'n disgleirio fel aur yng ngolau'r haul. Mae Geiriadur yr Academi yn rhestru sawl enw arall hefyd arno - gold y morfa, rhuddos y morfa a sawdl y fuwch.

Beth bynnag ydach chi'n ei alw fo, mae hwn yn un o blanhigion cynhenid y wlad yma, ac mae yna gred ei fod yn un o'r planhigion oedd yma cyn Oes yr Ia. Mae'n debyg fod hyn yn rhannol gyfrifol am yr arferion a'r traddodiadau sy ynghlwm a'r planhigyn yma.

Yn Ynys Manaw, roedd 'na groeso mawr iddo am ei fod yn cael ei ystyried yn arwydd o'r gwanwyn, ac roedd y blodau'n cael eu sgeintio ar riniog y drws ar noswyl Calan Mai. Roedd hyn i fod i rwystro'r Tylwyth Teg rhag bod yn niwsans i'r teulu am weddill y flwyddyn. Yn yr Iwerddon, mae'r un math o draddodiad ond yr hyn oedd yn digwydd yno oedd gollwng un cwpan drwy'r blwch llythyrau - eto ar y noson ola mis Ebrill. Mae'n debyg fod pobol yn falch iawn o dderbyn y cwpan aur drwy'r drws ac yn fodlon rhoi rhyw gildwrn am hynny. Yr un math o draddodiad ag sy gennym ni wrth ganu am galennig mae'n debyg.

Ond y blodyn y bydda i wrth fy modd yn ei weld ym mis Mai ydi clychau'r gog neu fwtsias y gog, ac mi welais i glwstwr o'r rhain wedi agor ar glawdd pridd yn llygad yr haul fore Sadwrn dwytha. Mae gweld ac arogli'r rhain yn goron ar fis Mai.

Y peth arall fydda i'n ei fwynhau ym Mai ydi'r glaw. Nid gwynt a glaw stormus dwi'n ei feddwl ond y glaw tyfiant sy'n disgyn yn ddistaw ac mae'r blodau'n rhyddhau eu perarogl ar ei ol. Mi fydda i'n hoffi roi fy mhotiau blodau o'r ty allan yn y glaw yma er mwyn iddyn nhw gael eu hadfywio ar ol y gaeaf.

Yn ol un ddihareb - "Dim glaw Mai, dim mel Medi". A tybed ydach chi'n gyfarwydd a'r dywediad "Glaw Mai i ostwng llau"? Erbyn hyn rydw i wedi gweld y wennol ond heb glywed y gog eto. I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol yr iaith Gymraeg ydi un Dafydd Namor: Os marw yw hon, is Conwy, Ni ddylai Mai ddeilio mwy.

Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai heb goed yn deilio, can adar a lliwiau'r blodau.

CAPTION(S):

Does dim i'w gymharu a chlychau'r gog - mae gweld ac arogli'r rhain yn goron ar fis Mai
COPYRIGHT 2013 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2013 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:May 1, 2013
Words:743
Previous Article:Button must respect McLaren approach; FORMULA ONE.
Next Article:Unemployed drunk with depression.

Terms of use | Copyright © 2017 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters