Printer Friendly

Cael enw drwg am ddim rheswm.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

Marw i fyw mae'r haf o hyd; Gwell wyf o'i golli hefyd. GEIRIAU anfarwol R. Williams Parry, ond be dwi isio wybod gennych chi ydi be wnewch chi o'r tymhorau erbyn hyn? Mi gawsom haf ddigon gwlyb yn cael ei ddilyn gan hydref godidog. Dwi am osod tasg i chi hefyd. Be am fynd ati i weld sawl cyfeiriad gewch chi at yr haf yng ngwaith ein beirdd? Rydw i'n ddiolchgar tu hwnt i Gwyn Jones, Edern am ysgrifennu ata i gan amgau erthygl wnaeth ymddangos yn y Daily Post ar 15 Awst 2003 am lindys gwalch-wyfyn y benglog (Acherotina atropos; Death's Head Hawkmoth). Wedi bod yn trafod y gwyfyn yma ar Galwad Cynnar roeddwn i ac os dwi'n cofio'n iawn William Edwards o Langernyw oedd wedi gweld y gwyfyn.

Mae gwalch-wyfyn y benglog yn un eithaf mawr - tua 3.5 i 5 modfedd o hyd ac mae'n perthyn i deulu'r gwalchwyfynod, y Sphingidae. Ar yr olwg gyntaf, gall ymddangos fel aderyn bach. Mae ei adenydd uchaf yn frown hefo ychydig o linellau melyn tonnog arnyn nhw, a'r rhai isaf yn felyn hefo llinellau brown tonnog, ond yr hyn sy'n gwneud hwn yn wahanol, a'r hyn sy'n rhoi ei enw iddo, ydi fod yna siap penglog ar y thoracs.

Mae o'n gallu rhoi gwich reit uchel os oes rhywun yn aflonyddu arno, ac mae o'n gwneud hyn drwy ollwng aer drwy'r proboscis - sef ei drwyn. Mi fydd o hefyd yn dangos ei fol lliwgar er mwyn trio dychryn ysglyfaethwyr i ffwrdd.

Mae wedi cael ei weld yn mynd i gychod gwenyn yn y nos i ddwyn y mel.

Mae gwylwyr y fel-wenynen wrth borth y cwch yn ymosod arno fo, ond mae ganddo gwtigl trwchus a dyna sut mae o'n medru gwrthsefyll yr ymosodiad gan y gwenyn sy'n caniatau iddo fo fynd i mewn i'r cwch. Unwaith mae o yn y cwch, mae o'n dynwared arogl y fel-wenynen ac wedyn mae o'n cael rhwydd hynt i fynd drwy'r cwch fel ag y mynno.

Mae gwalch-wyfyn y benglog i'w weld yn y dwyrain Canol, gwledydd Mor y Canoldir a gogledd yr Affrig. Pan gafwyd hyd i lindys y gwyfyn yma yn Abergwyngregyn ar safle ymchwil Prifysgol Bangor, mi gymerwyd ychydig o grafu pen cyn darganfod beth oedd o. Mae'r larfa yn wyrdd golau i ddechrau hefo streipiau melyn ar ei ochr ac mae'n byw ar ddail tatws. Fel rheol mae'n creu chwiler dan y ddaear a phur anaml maen nhw'n gallu goroesi gaeafau oer Ynysoedd Prydain.

Tan yn gymharol ddiweddar yn ne Ynysoedd Prydain roedd y gwyfyn i'w weld, ond y dybiaeth ydi ein bod yn ei weld yn fwy i'r gogledd am ein bod ni'n cael gaeafau claear.

Mae 'na ddosbarthiad eang i'r gwyfyn ac mae i'w gael mewn gwledydd cynnes fel yr India, Saudi Arabia, yr Ynysoedd Dedwydd a'r Asores. Mae sawl cenhedlaeth yn ymddangos bob blwyddyn ac yn Affrica mae'n gallu bridio drwy'r flwyddyn.

Mae'r gwyfyn yn un digon diniwed ond mae'r siap penglog ar y thoracs wedi rhoi enw drwg iddo. Mae'n gred fod anlwc yn digwydd os ydi o'n hedfan i'r ty, ac y gall marwolaeth ddilyn hynny.

Mae'n ymddangos yn nofel Thomas Hardy, The Return of the Native, fel proffwyd gwae a'r gwyfyn yma hefyd wnaeth ymddangos yn y Ffilm, The Silence of the Lambs, fel y gwyfyn oedd yn cael ei adael yng ngyddfau'r rhai gafodd eu llofruddio. Mae son ei fod wedi cael ei weld yn ystafelloedd George III pan oedd hwnnw'n dioddef ambell i gyfnod o wallgofrwydd.

Byddai'n ddiddorol iawn clywed os oes rhywun arall wedi gweld naill ai'r gwyfyn neu'r lindys.

CAPTION(S):

gwalch-wyfyn y benglog, gafodd ei fridio |gan blant Ysgol San Sior Llandudno (prif lun). Mae'r llun ar y chwith yn dangos y benglog yn fwy clir

Mae lindys gwalch-wyfyn y benglog tua 10cm o hyd
COPYRIGHT 2015 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2015 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Nov 11, 2015
Words:642
Previous Article:Bedwar mis yn ddiweddarach a dwi'n dal ar ddwy fagl... BARN.
Next Article:Hospital bus stop to move back in campaign victory; IT'LL RETURN TO MAIN ENTRANCE AFTER YEARS OF PRESSURE AND PETITION SIGNED BY THOUSANDS.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters