Printer Friendly

CYMRU - DYFODOL CENEDLAETHOLDEB; Agenda Gwladgarwch ymarferol.

Byline: Dafydd Wigley

BETH ydi Cymreictod? Pam ydan ni'n uniaethu Chymru fel cenedl?

Dyma gwestiynau canolog os ydym am geisio adnabod ein hunain. Mae'r atebion yn cynnwys elfennau hanesyddol, cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol - yn ogystal ag effaith daearyddiaeth, cymuned a chwaraeon ar ein bywydau. Dyma rhai ffactorau sy'n diffinio cenedligrwydd.

Ni chyfeiriais at 'hil' - a hynny'n fwriadol. Lobsgaws o genedl ydi'r Cymry. Ia, Celtaidd ydi'n gwreiddiau. Ond dros y canrifoedd daeth llu o fewnfudwyr i'n plith - Rhufeiniaid, Norsmyn, Sacsoniaid a Normaniaid ac yna yn ddiweddarach y Gwyddelod, Eidalwyr, Somaliaid, Indiaid 'r Affro-Caribi - heb son am Sgotiaid a Saeson! Ond rydym oll, o ba bynnag dras, yn rhan annatod o'r Gymry gyfoes.

Cymuned o gymunedau ydi cenedl. Hyd yn oed mewn gwlad mor fechan Chymru, ceir amrywiaeth rhyfeddol o gymunedau. Gwahanol iawn yw'r hen gymdogaethau glofaol Morgannwg, Gwent a Chlwyd i bentrefi cefn gwlad neu i drefi'r arfordir. Ond maent oll yn rhan o Gymru.

Bydd gwahanol ffactorau'n dylanwadu ar deimladau o genedligrwydd pob unigolyn. Weithiau ein timau rygbi a phel-droed genedlaethol sydd bwysicaf; i eraill yr iaith a sefydliadau megis yr Eisteddfod a'r Urdd sy'n ganolog. Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan - boed hynny drwy sain y delyn neu'n corau mawr neu'r bandiau roc cyfoes. I eraill daw gwefr oddi wrth ein barddoniaeth. Heb os, fe ffurfiwyd gwerthoedd cenedlaethol gan yr ymdeimlad dwfn o gymdeithas sy'n bodoli yng Nghymru - y cydgyfrifoldeb tuag at ein gilydd. Ac mae'n treftadaeth genedlaethol hefyd yn cynnwys ein crefydd, ein traddodiadau, ein tirwedd, ein celfyddyd gain a'n llen gwerin.

Mae cenedlaetholdeb yn bodoli ym mhob gwlad, er yn amrywio'n fawr yn ei natur. Ar ei orau, gwladgarwch ymarferol ydi cenedlaetholdeb - boed hynny o ran gwleidyddiaeth, diwylliant neu chwaraeon. Mae'n cyfoethogi ansawdd bywyd trigolion ac yn galluogi'r genedl i chwarae rhan mewn cyfundrefnau rhyngwladol. Heb genhedloedd ni fyddai ystyr i'r term

'rhyng-genedlaethol'. Cenedlaetholwr ydi'r gwladgarwr sydd o ddifri ynglyn 'i wlad. Mae'n troi dyheadau gwladgarol i fod yn agenda wleidyddol, neu ddiwylliannol, ymarferol a phwrpasol.

Ond, ar ei waethaf, gwelir cenedlaetholdeb wedi ei lygru gan hiliaeth a chasineb. Trwy drugaredd ni welwyd gormodedd o hyn o fewn cenedlaetholdeb Cymreig - er y bu weithiau yno. Gwaetha'r modd fe wel rhai gyfle o hyd i bardduo cenedlaetholdeb Cymreig - a Phlaid Cymru trwy led-awgrymiad. Eto dyma'r union wleidyddion fyddai'n cyfarch llwyddiant cenedlaetholdeb mewn gwledydd eraill - megis De Affrica o dan Mandela neu genhedloedd bach yr hen ymerodraeth Sofietaidd.

Mae yna gymaint o wahanol ffurfiau ar genedlaetholdeb a sydd yna o genhedloedd - efallai llawer mwy. Y sialens i ni yng Nghymru yw i harnesu'r ymwybyddiaeth genedlaethol mewn modd sy'n dwysau'n gwareiddiad, sy'n lledu'n gorwelion a sy'n cyfoethogi ansawdd bywyd pobl Cymru.

Fe welwyd newid aruthrol dros y pedair blynedd diwethaf, yn y modd yr ydym fel pobl yn gweld ein hunain. Un o nodweddion mwyaf difyr yn natblygiad y Cynulliad Cenedlaethol, yn ystod ei dymor cyntaf, fu'r newid graddol mewn agwedd gan gynifer o ACau - ac yn wir gan weision sifil hefyd.

Beth bynnag fu eu hagwedd yn y gorffennol tuag at genedligrwydd Cymru, tuag at ein hiaith a'n diwylliant, a thuag at ddatganoli, fe ddatblygwyd ymhlith ACau ymwybyddiaeth genedlaethol newydd wrth iddynt geisio 'cyflawni dros Gymru'.

Gallwn arddel gwahanol deimladau ynglyn llwyddiant - neu fethiant - llywodraeth Rhodri Morgan. Ond cofiwn mai dyddiau cynnar iawn yw'r rhain i sefydliad cenedlaethol newydd sbon. Do, fe fu camgymeriadau, ond cofiwn - ar ol 800 mlynedd - fod Ty'r Cyffredin hefyd yn gwneud smonach ohoni'n ddigon aml.

Un datblygiad difyr a ddaeth yn sgil yr ymwybyddiaeth genedlaethol newydd, fu'r modd y mabwysiadodd y Toriaid enw newydd - sef 'Y Blaid Geidwadol Gymreig'. Bellach mae pob plaid yn ymwybodol o'r angen i lunio polisau pwrpasol i ateb gofynion Cymru.

I'r graddau hyn, gellid dweud y derbyniwyd bellach mai cenedligrwydd Cymru yw'r sail ar gyfer datblygu polisi cyhoeddus. Dyma'r sylfaen i adeiladu arno; nid ryw ddyhead pell i amcanu tuag ato.

A derbyn yr agwedd newydd yma tuag at ein cenedligrwydd o fewn y Gymru newydd amlieithog ac aml-ethnig, beth ddylai fod yr elfennau allweddol i greu cymdeithas genedlaethol unedig ac oll-gynhwysol? I mi dylid cynnwys:

nCydnabod fod pawb sy'n byw yng Nghymru, beth bynnag ein hiaith, crefydd, hil neu liw ein croen, yn gydradd fel rhan o'r genedl Gymreig;

nDylid cydnabod hawliau pobl ifanc Cymru, sy'n dymuno aros yn eu cynefin, i allu cael gwaith teilwng a thy addas o fewn eu cymuned;

nGan mai'r Gymraeg yw'r brif allwedd i'n treftadaeth a'r Saesneg yw prif iaith fasnachol y byd, dylid sicrhau fod ein plant yn tyfu'n rhugl yn y ddwy iaith - ac ieithoedd eraill hefyd;

nDylid cydnabod ein gwerthoedd cymdeithasol a chymunedol fel elfen ganolog i'n dinasyddiaeth.

nRhaid uno'r wlad drwy wella'r ffyrdd a'r rheilffyrdd rhwng y de a'r gogledd a chryfhau'n cyfryngau torfol cynhenid;

nDylid hyrwyddo diwylliant, celfyddyd a chwaraeon ar bob lefel - er mwyn lles yr unigolyn yn ogystal a hybu llwyddiant cenedlaethol;

nMae lle i Gymru chwarae ei rhan mewn mudiadau dyngarol cydwladol, gan gynnwys asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig;

nDylai Cymru amcanu at fod yn aelod llawr o'r Ewrop ffederal sy'n prysur ddatblygu;

nMae gofyn i'n gwahanol bleidiau gwleidyddol ddatblygu polisau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy'n berthnasol i anghenion Cymru a sy'n cyd-fynd 'n gwerthoedd fel pobl;

n Fel mater o frys, dylid rhoddi i'r Cynulliad yr un pwerau a sydd gan Senedd yr Alban, gan wahaniaethu'n sylfaenol rhwng gweithrediad y Llywodraeth a'r corff deddfwriaethol.

Ein nod fydd i greu Cymru allblyg, ble nad oes raid ymbalfalu byth a beunydd ynglyn 'n cenedligrwydd a'n cenedlaetholdeb. Dylai'r elfennau hyn fod fel cefndir naturiol disylw i fywyd cenedl hyderus sy'n bodoli mewn harmoni 'i hun, ac mewn partneriaeth gyfeillgar phob cenedl arall.
COPYRIGHT 2003 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2003 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Wales On Sunday (Cardiff, Wales)
Date:Aug 3, 2003
Words:933
Previous Article:Golf: BECKY SEVEN BEHIND; French ace sets hot pace.
Next Article:Dyfodol yr laith Gymraeg.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters