Printer Friendly

CAWODYDD O DDRUDWY; GAN BETHAN WYN JONES BYD NATUR.

RYDW i'n gwybod fod y gaeaf wedi cyrraedd! Sut? Na, nid am ei bod hi wedi bod yn oer drybeilig ambell i noson nag am ei bod hi wedi bwrw eirlaw nag am fod 'na haenen wen ysgafn o eira wedi disgyn ar fynyddoedd Eryri ond am eu bod 'nhw' wedi glanio yn yr ardd 'ma. Ia, dyna chi, y drudwy. Cawodydd o ddrudwy y galwodd y diweddar Athro Gwyn Thomas nhw ac roedd o yn llygad ei le fel arfer.

Y dydd olaf o Hydref oedd hi - diwrnod Calan Gaeaf. Mae'n rhyfedd yn dydi ein bod ni'n galw'r diwrnod yma yn ddiwrnod 'calan' gaeaf ac eto, yn swyddogol, dydi'r gaeaf ddim yn cychwyn tan y cyntaf o Ragfyr. Beth bynnag, mi wnaeth 'na haid o ddrudwy (Sturnus vulgaris; Starling) gyrraedd yr ardd 'ma tua chanol y pnawn ac o fewn dim o dro, roeddan nhw wedi sbydu'r eirin perthi oddi ar y ddraenen ddu ac wedi llowncio gweddill yr afalau. Yna, mor ddirybudd ag y gwnaethon nhw gyrraedd, mi aethon.

Waeth iddyn nhw heb na dychwelyd, achos dydw i ddim yn estyn fawr o groeso iddyn nhw. Maen nhw'n dychryn yr adar man ac yn gwneud llanast dychrynllyd yn yr ardd. Maen nhw'n bethau swnllyd hefyd ond wedi dweud hynny, maen nhw'n adar reit smart. Mae'r symudliw ar eu plu yn denu sylw rhywun ar amrantiad, ac mae'r lliwiau porffor a gwyrdd sydd i'w weld yn hynod drawiadol.

Maen nhw hefyd yn ddynwaredwyr heb eu hail ac yn dynwared synau yn ogystal a galwadau adar eraill. Maen nhw'n rhyfeddol o gall hefyd ac rydw i wedi sylwi sawl tro pan fydda i'n rhoi bwyd allan ar ben y wal yn y bore fod 'na un gerllaw fel tasa fo'n galw ar y lleill "Dowch, mae 'na fwyd yma!" O fewn dim o dro, mi fydd 'na haid wedi ymddangos.

Maen nhw'n aml i'w gweld mewn heidiau mawr ac mae'r mwyafrif o'r drudwy sy'n cyrraedd yma er mwyn gaeafu yn dod o wledydd y Baltig, ac mae llawer iawn ohonyn nhw yn hedfan o Rwsia i gyfeiriad y gorllewin a'r de.

Mi fydd y drudwy yn ymgynnull ar hen goed ynn mawr sydd led cae o'r ty 'ma a hynny ddiwedd y pnawn fel arfer ac mi fydd 'na hen siarad! Mi fydd 'na sawl haid fechan yn hel at ei gilydd fesul dipyn ac yna'n sydyn bwt mi fyddan yn codi'n un haid fawr ac yn hedfan i gyfeiriad y dwyrain. Yn y blynyddoedd dwytha 'ma, mae 'na haid reit fawr ohonyn nhw wedi bod yn clwydo dros nos yng Nghors Farl ar gyrion Talwrn. Roedd 'na gyfnod pan oedden nhw clwydo yn yr hesg yng Nghors Bodeilio ond ers i'r hesg ddiflannu, maen nhwtha wedi diflannu hefyd.

Wrth i'r drudwy lanio ar yr hesg, maen nhw'n gafael yn yr hesg hefo'u traed nes ei fod yn gorwedd yn llorweddol, ac yn aml iawn mi fydd yna res o'r drudwy ar yr un darn o hesg. Mae o fantais iddyn nhw glwydo fel hyn yn yr hesg uwchben y dwr, gan fod yna lai o siawns wedyn i lwynogod ddod ar eu gwarthaf nhw a chael pryd bach sydyn.

Un rheswm pam mae'r drudwy yn heidio gyda'i gilydd ydi ei bod yn llawer anos i adar ysglyfaethus fel y gwalch glas, y bwncath a'r hebog tramor gael gafael ar un ohonyn nhw i'w dal a'i bwyta. Mae'n ymddangos fod y niferoedd mawr o'r drudwy fel petaent yn drysu'r aderyn ysglyfaethus. Mi wnaiff y dylluan wen a'r dylluan glustiog hefyd ddal a bwyta drudwy, ond yn amlach na pheidio, dal rhai sy'n wan neu wedi brifo maen nhw.

Yn y bore, ar doriad gwawr, mi fydd cannoedd o ddrudwy yn codi hefo'i gilydd ac yn hedfan i ffwrdd am y diwrnod. Maen nhw'n bwydo'n bennaf ar lyngyr daear (pry genwair) a'r wasgod ledr ar dir amaethyddol, a phan maen nhw'n cyrraedd ein gerddi ni, mi wnan nhw fwyta afalau (da y gwn i!), peli braster, cnau, ffrwythau, aeron, pryfetach, eirin moch a'r aeron ar y coed criafol.

Bob tro y bydda i'n gweld y drudwy, mi fydda i'n meddwl am ddrudwen Branwen druan a hithau'n ei anfon ar draws y mor gyda neges at Bendigeidfran.

Mae'n rhyfeddol yn tydi mai wedi hedfan i'r gorllewin roedd y ddrudwen honno hefyd.
COPYRIGHT 2018 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2018 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Nov 7, 2018
Words:719
Previous Article:No reprieve for student travel cuts.
Next Article:PS250,000 for city's recovery.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters