Printer Friendly

Bwyd a llyfrau - be gewch chi chi well? ... Wel nofel lle mae bwyd yn cael rhan amlwg.

Byline: bethan gwanas

MAE unrhyw un sy'n darllen y golofn hon yn gwybod mod i wedi gwirioni efo llyfrau. A dwi'n gwirioni pan fydda i'n cyfarfod pobl sy'n gwirioni'r un fath, felly dyna pam ddechreuodd criw bychan ohonon ni gyfarfod bob rhyw ddeufis i drafod y llyfrau roedden ni wedi eu darllen. Un llyfr Cymraeg ac un Saesneg fel arfer, a chyfarfod yn nhai ein gilydd - a dod a rhyw bethau bach i'w cnoi a'u hyfed yr un pryd. Bwyd a llyfrau - be gewch chi chi well? Felly roedden ni'n GORFOD trafod nofel am fwyd doedden? Rwan, mae Angharad wedi sn am y nofel hon yn barod: Blasu gan Manon Steffan Ros, ond dim ond newydd ei dechrau roedd hi ar y pryd. Roedd hi'n canmol i'r cymylau beth bynnag, ac mi fedrai ddeud wrthach chi bod y saith ohonan ni (ferched gln Meirionnydd) wedi ei darllen i'r diwedd ac wedi mwynhau'n arw. Wir i chi, mae hi'n chwip o nofel. Dydan ni fel criw ddim wastad yn cytuno, ond roedd y farn yn unfrydol y tro yma.

Ym Mallwyd roedden ni'n cyfarfod y tro yma, sydd ddim yn bell o gartref Manon ym Mhennal, ger Machynlleth. Felly mi wnes i gysylltu efo hi'n gofyn fyddai ganddi awydd dod draw i gael sgwrs efo ni. Oedd, tad. Mi wnaethon ni hefyd benderfynu y byddai pob un ohonon ni (hyd yn oed yr un sydd ddim yn wych am goginio - medde hi) yn gwneud un o'r risetiau sydd ar ddechrau pob pennod.

Y bisgedi Lafant a Dant y Llew dynnodd fy sylw i, felly fues i'n brysur yn hel blodau lafant o'r ardd - ond drapia - pan dach chi isio gweld Dant y Llew, does 'na'm golwg ohonyn nhw! Roedd fy chwynnu yn ystod y gwanwyn wedi bod yn rhy drwyadl - dim ond dau flodyn oedd gen i! Bu'n rhaid i mi fynd ar y beic ar hyd y ffyrdd cefn i chwilio, a ges i ddau arall. Byddai'n rhaid i hynny wneud y tro. Wedyn roedd angen dwer rhosod - a doedd gen i'm amser i fynd i chwilio am beth yn dre, felly es i ar y we i weld os oedd modd ei wneud fy hun - oedd! Felly dyma hel petalau rhai o fy hen rosod hen ffasiwn (y rhai sydd ag arogl cryf arnyn nhw), eu rhoi mewn cwpan a thywallt dwer berwedig drostyn nhw.

Erbyn i'r dwer oeri, roedd gen i ddwer oedd yn arogli'n fendigedig. A wir i chi, roedd blas y bisgedi'n fendigedig hefyd. Dwi ddim am gynnwys y riset fan hyn - prynwch y llyfr!

Erbyn i bawb ddod a'u bocsys bwyd, roedd gynnon ni wledd: twrci mewn creision yd, cyrri, tarten eirin, hufen ia, cacen sinsir, fflapjacs, torth o fara, fy misgedi i - a phwdin barlys. Rwan, roedd Angharad wedi rhoi cynnig ar hwnnw yn l ei cholofn, ond ffling gafodd o, mae'n debyg. Felly roedd Leisa fymryn yn nerfus am ei phwdin hi, ac wedi gwneud pwdin reis hefyd, rhag ofn fod hwn yn afiach. Ond wir i chi - roedd o'n hyfryd. Ond ro'n i wrth fy modd efo pwdin tapioca ers talwm, cofiwch. Rho gynnig arall arni Angharad - ac yn y popdy tro 'ma, nid y popdy ping! A gwna'r hufen i hefyd - iym.

Roedd Manon wrth ei bodd bod y noson wedi troi i mewn i rywbeth a fyddai'n ffitio'n berffaith i mewn i'r nofel ei hun: "merched, a bwyd, yn chwerthin dros jcs gwirion a difrifoli dros bethau dwys."

Lwcus ei bod ni wedi cael chydig o waith cerdded cyn dechrau bwyta, neu mi fydden ni gyd wedi byrstio. Dach chi'n gweld, gan ein bod ni yng Nghwm Dugoed, roedd o'n gyfle da i weld llefydd pwysig yn hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy. Gawson ni'n harwain o gwmpas gan Huw Jones, Henllys: drwy gors a thros ffens i gychwyn, at fryn siap pwdin Dolig o'r enw Collfryn, lle crogwyd 80 o Wylliaid Cochion Mawddwy oddi ar ganghennau'r coed derw. Mae'n le rhyfedd a hudol a does dim angen dychymyg arbennig i fedru gweld a chlywed yr hyn ddigwyddodd yno noswyl Nadolig 1554.

Ymlaen a ni wedyn i weld Llidiart y Barwn, lle cafodd y Barwn Owen ei ladd ddeng mis yn ddiweddarach. Doedd hwn ddim mor hudol a bod yn onest: postyn oedd yn sicr ddim yno yn 1555, a git haearn wedi rhydu. Ac roedd y gwybed yn ei gwneud hi'n anodd i ganolbwyntio ar Huw yn rhoi'r hanes am y saethau'n pledu'r Barwn a brodyr John Goch yn golchi eu dwylo yn ei waed o. Ond difyr tu hwnt er hynny!

Taith i gyd-fynd Mab y Cychwr, Haf Llewelyn fydd nesa, chwip o nofel ddifyr arall, ac rydan ni am drafod Fifty Shades of Grey hefyd, i weld be ydi'r holl ffys. Ond twt, mae 'na lyfrau 'rhywiol' ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd ...
COPYRIGHT 2012 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2012 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jul 11, 2012
Words:804
Previous Article:Chwerthin? tewch , sYn; Cyfle ii ennill tocynnau ii noson gomedi'r Brifwyl.
Next Article:Ateb i'r broblem o gynhyrchu trydan gl,n; AIL NATUR.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters