Printer Friendly

Breninesau'r beicio mynydd.

Byline: bethan GWANAS

MAE gwylio'r holl chwaraeon a chyrff ffit a heini yn gwneud gwyrthiau yn ddiweddar, wedi fy ysbrydoli i drio gwneud mwy fy hun - gan gofio fy oed a gwendidau corfforol wrth gwrs. Felly mi wnes i wahodd tair ffrind heini a dewr i feicio yng Nghoed y Brenin, y Ganllwyd.

Mi ges i'r syniad pan ro'n i efo nhw yng Nghaerdydd cyn Dolig. Roedd y tair (cantores, actores a hogan sain) yn deud eu bod nhw'n cael hwyl garw yn mynd allan mewn criw gan fod un yn ei 20au, un arall yn ei 30au a'r trydydd yn ei 40au. Diaw ... "Pryd wyt ti'n 30?" gofynnais i Catherine, yr un ifanc. Dechrau Mawrth. Hm. A finne'n taro'r 50 fis Ionawr. "Mae 'na ffenest fechan pan fydd y pedair ohonom yn cynrychioli pedwar degawd gwahanol," meddwn. Dydi o'm yn mynd i ddigwydd eto am ddeg mlynedd nacdi, felly roedd yn gyfle i drefnu rhywbeth i nodi'r achlysur, rhywbeth corfforol ddylai siwtio pawb o bob oed - rhywbeth ro'n i, fel yr hynaf, yn mynd i fedru ei wneud. Sesiwn o feicio mynydd amdani, felly.

Lwcus bod gan yr un ifanc br o lygaid da, achos ro'n i wedi rhoi'r dyddiad anghywir i Graham, y dyn roedden ni am ei gyflogi i ddangos sgiliau beicio mynydd i ni. Y dydd Sadwrn oedd yn gyfleus i bawb, sef y 18fed, ond am ryw reswm, ro'n i wedi teipio'r 19eg yn yr ebost. Ac roedd yr un yn ei 40au isio rasio ceffylau yn Ffoslas ar y 19eg! Mae gynnoch chi syniad golew pwy oedd honno rwan, does? Ail-drefnwyd mewn pryd, diolch byth, a dyma weddo am dywydd da.

Ar fore'r 18fed, roedd hi'n tresio bwrw. Bwrw go iawn, bwrw cymaint roedd angen rhoi'r weipars ar y cyflymder uchaf posib er mwyn gweld y ffordd i'r Ganllwyd, ac roedd hi'n oer, bobol bach. Ond roedd gan bawb ddillad glaw pwrpasol a digon o fenyg ac ati. Ond mi fyddai'r llwybrau yn wlyb a'r cerrig yn slic. O dar.

A doedden ni'm wedi mynd i'n gwelyau yn gynnar iawn. Wel ... pan gymysgwch chi griw o ferched sy'm wedi gweld ei gilydd ers sbel efo gwin a bwyd, a'r ffaith fod y gantores yn ddiarhebol am fod yn hwyr i bob man ... Roedd pawb i fod acw erbyn wyth, ond ges i alwad am 7.00 yn deud mai newydd gychwyn o Gaerdydd oedd Shan! Felly chawson ni mo'n swper tan ddeg!

Mi wnaeth Cheryl a fi drio'n gorau i yfed yn araf iawn tra'n disgwyl amdanyn nhw, ond beryg na fuon ni'n ddigon araf. Roedd gen i ben fel bwced y bore wedyn.

Ond wyddoch chi be, wedi dysgu'r sgiliau gwahanol fesul cam mewn man diogel, mi beidiodd y glaw, ciliodd y cymylau a daeth yr haul i wenu arnon ni. Ac roedd Graham wedi gwirioni efo sgiliau a ffitrwydd y criw - i lawr y llwybrau pwrpasol amdani.

Yr un newydd, hawdd, y 'MinorTaur' i gychwyn; un sy'n addas i blant a phobl di-hyder - pobl anabl hefyd, felly ewch draw efo'ch beics os ydi'r golofn hon yn codi awydd pedlo arnoch chi. Ac os ydach chi'n nabod rhywun anabl sy'n ysu am gael beicio, mae 'na feics pwrpasol (yn cael eu gyrru gyda'r breichiau) ar gael i'w defnyddio yn y ganolfan ymwelwyr (01341 440747).

Wel, roedd y llwybr hwnnw'n hawdd, felly mwy o lwybrau amdani, a dyna wnaethon ni drwy'r dydd, beicio i fyny ac i lawr drwy'r coed, dros bontydd ac ar hyd yr afon, gyda Shan yn morio canu 'The Hills are alive' i lawr rhiw, a Cheryl a Catherine yn tuchan braidd i fyny'r rhiw yn l am y ganolfan. Maen nhw'n rhedeg gryn dipyn ac yn mynd i wersi Zwmba, ond mae beicio'n defnyddio cyhyrau gwahanol - cyhyrau digon tebyg i ferlota, ddeudwn i, achos roedd Shan yn mynd fel milgi.

Cafwyd cinio hyfryd yn y caffi, a dwi'n argymell y byrgyr cig carw (ceirw Coed y Brenin - peidiwch a phoeni - mae 'na hen ddigon ohonyn nhw yn y parthau hyn). Roedd y lle'n llawn beicwyr a cherddwyr o bob math, teuluoedd wedi dod i wneud llwybr hawdd 'Yr Afon' a chriwiau o ddynion yn fwd i gyd, yn mynd am lwybrau mwy anodd fel y Temtiwr a'r Tarw. Does 'na'm llawer o ferched yn beicio fel hyn gyda llaw, felly os dach chi isio dod i nabod dynion del, heini, dyma'r lle i ddod ...

Diolch i hyfforddiant amyneddgar Graham, roedden ni'n gallu neidio dros ganghennau (wel, brigau ta ...) yn ddi-drafferth, a throi corneli cas mewn steil. Dim ond un waith y cafwyd codwm, a dim ond un araf, di-anaf oedd hwnnw, a hynny gan Cheryl - y feicwraig orau ohonon ni; yr un gyfaddefodd ei bod wedi cynrychioli Dyfed ar gefn ei beic yn yr ysgol, ond nad oedd wedi bod ar feic ers hynny. Ond yn amlwg, roedd o fel, wel ... reidio beic iddi.

Roedd hi a Cath yn cerdded fymryn yn rhyfedd erbyn amser te, rhaid cyfadde, ond chwarae teg, mae hynny'n digwydd i rai sydd ddim wedi arfer efo cyfrwy o ryw fath yn y man sensitif hwnnw. Roedd Shan a fi'n champion, wrth gwrs.

Ac ar ddiwedd y cwbl, sbiwch y gwahaniaeth mae 'mud-guard' yn ei wneud. Fi (yr un oedd yn defnyddio ei beic ei hun; roedd y lleill wedi eu llogi) ydi'r un efo cefn a phen l gln. Mae rhai (y puryddion llawn testosterone) yn deud eu bod yn edrych yn hurt ar feic mynydd, ond mae'n arbed golchi dillad dragwyddol tydi? Roedd y genod wedi mwynhau eu hunain gymaint, maen nhw am ddod yn l i wibio i lawr llwybrau'r goedwig hyfryd hon unwaith eto cyn yr haf.

Ac os nad ydach chi wedi mentro yma eto, dowch da chi, mae'n wych. Does dim rhaid bod yn arbenigwr, mae 'na lwybrau i blesio pawb.

Mi fedrwch chi logi beics ac mi fedrwch chi gyflogi rhywun fel Graham (01341 430628) i'ch rhoi ar ben ffordd. Dydi o'm yn siarad Cymraeg eto ond gawson ni hwyl yn trio dysgu ymadroddion pwrpasol iddo fo, fel 'gwasga dy ffyrch' - rhywbeth sy'n rhaid ei wneud er mwyn neidio dros gerrig a changhennau ... wir yr!

CAPTION(S):

Tybed gan bwy oedd y 'mud-guard''?
COPYRIGHT 2012 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2012 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Feb 29, 2012
Words:1035
Previous Article:Amser yn hedfan; LLYTHYRAU.
Next Article:Casi'n Yll ii roi c,n.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters