Printer Friendly

Blodau Bodeilio.

BYD NATUR Gan BETHAN WYN JONES MAE Cors Bodeilio ym Mn yn Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn ddynodiad RAMSAR, sef yn ardal a ddynodir o dan y Confensiwn ar Wlypdiroedd sydd o Bwys Rhyngwladol ag a gytunwyd yn rhyngwladol. Mi welwch felly ei fod yn llecyn sy'n werth ymweld ag o ac mi fues i'n ffodus iawn y diwrnod o'r blaen i gael cwmni Les Colley ac Emyr Humphreys o'r Cyngor Cefn Gwlad i'm tywys drwy'r gors yma.

Yr hyn sy'n gwneud y gors yn arbennig ydi fod yma fawn wedi casglu ers canrifoedd ond ar ben hwn mae 'na ffrydiau o ddwer alcalaidd, melys a'r cyfuniad o dir asidig a thir melys sy'n gyfrifol am yr holl wahanol rywogaethau gewch chi yma. Mi eglurodd Emyr Humphreys i mi fod Cors Bodeilio ynghyd Chors Erddreiniog ym Mn a'r Gors Geirch ym Mhen Llyen yn rhan o gynllun LIFE ar gyfer adfywio corsydd. Oherwydd hynny, mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud ar y corsydd.

Mewn rhai mannau ar y gors roedd hen dyfiant oedd wedi gordyfu ers blynyddoedd wedi'i strimio'n reit egr ac mae ffermwyr cyfagos wedi cymryd hwn i'w ddefnyddio fel porthiant dros y gaeaf, ac mae ceffylau yn pori'n gyson er mwyn cadw'r tyfiant i lawr. Mae bwriad hefyd i gyflwyno gwartheg i bori rhai mannau fel Cors Erddreiniog ac i gydweithio mewn partneriaeth ffermwyr lleol.

Mae 'na gyfoeth o flodau yng Nghors Bodeilio ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld Robin racs neu carpiog y gors (Lychnis flos-cuculi; ragged-robin) yn ei flodau pinc carpiog, llachar. Mae 'na amryw byd o degeirianau yma hefyd, ac o fewn dim o dro roedd Les Colley wedi dangos i mi''r caineirian, y tegeirian brych, tegeirian brych y rhos, tegeirian y gors gogleddol, tegeirian y gors cynnar heb sn am degeirian y clr neu degeirian y pryf prin iawn sy'n tyfu yma!

Roedd tafod y gors wedi blodeuo ac roedd yn eithaf hawdd gweld nifer o fn bryfetach wedi'u dal ar ei ddail. Oherwydd y diffyg maeth yn y gors, mi welwch blanhigion pryfysol fel tafod y gors a chwys yr haul (oedd, roedd hwnnw yma hefyd!) yn tyfu yma. Mae'r rhain wedi addasu eu dail nes eu bod yn ludiog er mwyn eu galluogi i ddal y pryfetach sy'n cerdded dros y dail. Maen nhw wedyn yn rhyddhau ensymau sy'n dadfeilio'r pryfetach bach yma nes eu bod yn slwdj, ac mae'r planhigyn wedyn yn gallu eu hamsugno drwy'r dail.

Melog y waun (Pedicularis palustris; marsh lusewort) oedd blodyn arall oedd i'w weld yma yn ogystal melog y cwn. Roedd telor yr hesg yn canu wrth i ni gerdded drwy'r gors a bras y cyrs yn galw o'r hesg. Mae'r cnwp-fwsogl bach (Selaginella selaginoides; lesser clubmoss) yn tyfu yma a hwn ydi'r unig un o'r cnwp-fwsoglau sy'n tyfu ym Mn.

Yn sydyn reit dyma weld tair cornchwiglen yn erlid brn - arwydd mae'n bur debyg fod y cornchwiglod yn nythu yma.

Mae un pwll cymharol fawr wrth ochr y llwybr pren, ac yn hwn mae un dyfrllys eithaf prin yn tyfu, sef dyfrllys y gors galchog (Potamogeton colouratus; fen pondweed). Os ydach chi'n dal deilen o hwn i fyny at y golau, mae'n lled dryloyw ac mi fedrwch weld y gwythiennau yn glir ar y ddeilen.

Yn y nentydd sy'n gors mae rhawn yr ebol, y 'stonewort' yn Saesneg i'w weld. Alga sy'n byw mewn dwr croyw ydi hwn ac wrth i chi rwbio eich bysedd arno, mae'n teimlo'n arw dan eich dwylo. Mae un rhywogaeth o rawn yr ebol i'w gael yma yng Nghors Bodeilio, yn Ffen Wicken yn Sir Caergrawnt ond nid yn unman arall.

Roedd y ferfain i'w weld ar y gors, ac wrth gerdded yn ein blaenau, roedd y troellwr bach (Locustella naevia; grasshopper warbler) i'w glywed yn canu.

Uwchben yr Afon Nodwydd, sy'n rhedeg drwy'r gors ac yn tywallt i'r mr yn Nhraeth Coch, roedd sawl mursen yn hedfan yn osgeiddig. Dwy o'r mursennod welais i oedd y fursen dinlas fach (Ischnura pumilio; Scarce Blue-tailed Damselfly) a'r fursen fawr goch (Pyrrhosoma nymphula; large red damselfly).

Roedd gold y gors, oedd a'i flodau mor llachar yn gynharach yn y flwyddyn, wedi mynd i had erbyn hyn ac wrth gerdded ymlaen i gae'r Ynys, fe welsom lwythi o Robin pengrynu yn ysgwyd yn y gwynt. Dydw i ddim yn cofio gweld cymaint hefo'i gilydd ers tro byd. Yn y cae yma hefyd, roedd tafod y neidr (Ophioglossum vulgatum; adder's tongue) yn tyfu, ac mae'r rhain i'w gweld ar hen gaeau sydd heb gael eu troi.

CAPTION(S):

Y ferfain Robin pengrynu
COPYRIGHT 2011 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2011 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jun 22, 2011
Words:772
Previous Article:Holi am rigwm y chwilen waedlyd?
Next Article:Blin efo'r Urdd am dderbyn nawdd heb falio beth yw'r canlyniadau i blant.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters