Printer Friendly

Blas ar wylio'r ardd yn tyfu; BYD NATUR.

Gan BETHAN WYN JONES ELLA eich bod chi'n cofio i mi "Fesur fy Ngardd" er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg Polli:Nation. Wel ers hynny, rydw i wedi bod yn gwylio'r ardd yn ddyfal bob cyfle ga i ac mae diogi a gwylio yn bleser pur.

Y peth cynta' sy'n tynnu sylw rhywun ydi faint o'r blodau sy'n ddeniadol i drychfilod. Mi synnais i weld faint o wenyn a chacwn oedd yn cael eu denu at y goeden drops, ac mae gen i bedair o'r rhain yn y darn 10 metr sgwar. Mae'n dlws - un hefo blodau coch a chanol piws ydi tair ohonyn nhw sydd wedi tyfu yn yr ardd yma ers cyn co' ac sy'n hadu ei hun yma ac acw. Dropsan sydd bron yn wyn ydi'r llall.

Mae'n wych gwylio'r cacwn a'r gwenyn, a sylwi pa mor ofalus ydyn nhw'n hedfan o un blodyn i'r llall yn casglu'r neithdar ac yna'n mynd ymlaen i'r blodyn nesa.

Peth arall ydw i wedi ei werthfawrogi wrth eistedd a gwrando yn llonydd a distaw ar fy siglen ydi su'r gwenyn ac mae hwn yn gyfareddol.

Dw'n hoff iawn o'r gwyddfid sy'n cordeddu ar y rhododendron. Dydi'r llwyn ddim yn tyfu'n fawr iawn, dwi'n amau fod gormod o galch yn y pridd, ond mae'n handi iawn i ddal y gwyddfid. Er mai pur anaml rydw i'n gweld unrhyw beth yn ymweld a'r blodau, dwi'n weddol dawel fy meddwl fod gwyfynod yn ymweld a'r gwyddfid yn ystod oriau'r gwyll.

Diolch i Rhoda Bramhall, Rhuthun am holi am y clychau cwrel pinc, ac mae'n rhaid i mi syrthio ar fy mai a chyfaddef mod i wedi gwneud camgymeriad. Nid clychau cwrel (Heuchera) mo'r rhain ond Diascia (twinspur) fel y gwelwch o'r llun ac rydw i'n ymddiheuro'n fawr am eich camarwain. Rydw i'n hoffi'r Diascia pinc yn fawr ac maen nhw'n lledaenu'n rhwydd yn y border ac yn cuddio llawer o frychau ond dydyn nhw ddim i weld yn denu ryw lawer o drychfilod gwaetha'r modd. Hyd y gwn i, does gan hwn ddim enw Cymraeg - oes rhywun am fentro bathu un? Mantell Fair (Alchemilla vulgairs; Lady's mantle) ydi un arall sy'n llenwi'r borderi. Blodau digon diddim sydd gan hwn ond dwi'n hoffi ei ddail ac mae gweld diferion o law wedi crynhoi ar y ddeilen yn hyfryd ond dydi hwn chwaith ddim i weld yn denu llawer o drychfilod.

Yr un sy'n denu trychfilod, fodd bynnag, a hynny wrth y fil ydi'r lafant ac mae ei arogl yn hyfryd!

Mae gen i hefyd yn y darn deg metr yma, fynawyd y bugail (Geranium) lliw porffor golau ac unwaith eto, mae pob math o drychfilod yn cael eu denu at hwn. Mae gen i fynawyd y bugail glas dan y rhosod yn yr ardd isaf sy'n denu nifer o gacwn.

Dau blanhigyn sy yn yr ardd isaf ydi'r goeden fel a'r seithliw, a dyma i chi blanhigion sy'n denu gloynnod byw ac mae'r arogl o'r goeden fel yn feddwol! Mi gyfrais bymtheg o'r fantell goch (Vanessa atlanta; Red Admiral), un iar fach amryliw (Aglais urticae; Small Tortoiseshell) ac un peunog (Inachis io; Peacock) ar y rhain y bore o'r blaen ac roedd 'na fantell goch wedi glanio ar y llygad llo mwyaf.

Y lle arall mae 'na su gwenyn ydi o'r gruw yn yr ardd berlysiau. Wrth ddiogi a gwylio'r ardd dwi wedi dysgu be sy a be sy ddim yn denu'r trychfilod, sef y peillwyr, i'r ardd.

Dwi hefyd wedi sylweddoli fod gen i lawer iawn gormod o wair a 'blaw am un darn o feillion ac ambell i flodyn menyn yma ac acw, dydi'r gwair ddim yn denu peillwyr, felly mi fydd angen plannu gwely arall o lwyni a blodau at flwyddyn nesa. Dwi wedi penderfynu'n barod mai dim ond planhigion peraroglus a rhai sy'n denu peillwyr fydd yn hwn. Tybed pa rai ydi'ch hoff flodau peraroglus chi a pha rai sy'n rhai da am ddenu trychfilod?

CAPTION(S):

Prif lun: mantell goch ar lygad llo mawr. Uchod, chwith i dde: y diascia, mynawyd y bugail, a'r goeden ddrops
COPYRIGHT 2016 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2016 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Aug 10, 2016
Words:678
Previous Article:Pacio llond wythnos i mewn i ddau ddiwrnod yn'Steddfod; BARN.
Next Article:Crow-ing for gold; Jade Jones likeness in town's first scarecrow competition.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters