Printer Friendly

Biwmares i Benmon; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

O Fiwmares, sy'n dref glan mor odidog, yn enwedig ar bnawn heulog braf yng nghanol mis Mehefin, mae llwybr yr arfordir yn dilyn y lon fawr, fwy na heb, nes y dowch chi at Draeth y Brodyr. Roedd hi'n gwbl glir ar draws y Fenai ac roeddwn i'n medru gweld Llanfairfechan. Fymryn yn is i lawr yr arfordir roedd niwl o'r mor yn cydio'r glannau i gyfeiriad Penmaenmawr a'r Gogarth.

O Draeth y Brodyr mae'r llwybr yn dilyn rhan ucha'r traeth nes y dowch chi at Lleiniog. Mae Lleiniog yn draeth digon braf hefo mwy o raean nag o dywod arno fo, ond yn llecyn delfrydol i edrych ar draws y Fenai. Os oes gennych chi bum munud i'w sbario, mae'n werth gadael llwybr yr arfordir am ychydig, croesi'r afon a dilyn y llwybr i fyny at Gastell Aberlleiniog.

Roedd gwennol yn sgimio'n isel dros Afon Lleiniog a chegid y dwr (water dropwort) i'w weld ym mhobman.

Roedd y traeth yn edrych yn odidog a chwch pleser ar y mor yn teithio'n ol i Fiwmares, ac mae'n werth mynd ar un o'r tripiau yma o bier Biwmares yn ystod yr haf. Fel arfer maen nhw'n mynd reit rownd Ynys Seiriol ac mae'n gyfle ardderchog i weld yr adar sy'n nythu yno ac yn aml iawn mae morloi yn dwad i fusnesu at y cwch.

Roedd betys y mor mawr yn tyfu ar ran ucha'r traeth a mulfran yn sefyll yn dalog a'i hadenydd ar led ar graig heb fod ymhell o'r lan.

O Draeth Lleiniog, ac eithrio un traeth bach, mae'r llwybr unwaith eto'n dilyn y lon nes y dowch chi i Benmon. Roedd dwr y mor yn glir ac yn lliw glas godidog, a'r niwl yn codi i gyfeiriad Deganwy. Roedd y golygfeydd yn odidog, yn enwedig wrth nesu at Briordy Penmon ac ar wal y mor, roedd y troellig arfor yn tyfu.

Cul iawn ydi'r lon at y Priordy ac mae arwydd clir, uniaith Saesneg yn dynodi mai eiddo'r "Baron Hill Estate" ydi'r fan hon, ac mae'n rhaid i chi dalu PS2.50 am y fraint o gael crwydro i lawr i Benmon. Digon cul ydi'r lon i lawr at y Trwyn Du hefyd ond roedd 'na ddigon o'r tegeirian brych i gadw cwmpeini i mi.

Mae'r olygfa wrth ddwad i lawr yr allt yn syfrdanol - yn enwedig ar ddiwrnod mor braf. Roedd yr awyr yn las a'r mor yn lasach ac roedd hi'n benllanw. Roedd awel reit gryf o'r mor a mymryn o ewyn gwyn ar frig y tonnau a gwylanod yn hedfan yn ddiog uwchben.

Roedd y triaglog coch yn ei flodau ond os am weld y cyfoeth o wymon a'r pylla glan mor sydd ym Mhenmon, mae'n rhaid dwad yma pan fo'r mor ar drai.

Roedd cnul y gloch o'r goleudy'n feddwol ac wrth grwydro i lawr at y creigiau mi welwn ddwy hwyaden fwythblu (Somateria mollissima; eider) hefo tri cyw bach ar y mor gerllaw'r lan. Hwyaden dlos ydi'r hwyaden fwythblu a'i phlu sydd wedi ei ddefnyddio i wneud 'eiderdown'. Mae'r rhain yn nythu ar Ynys Seiriol a petha del ydyn nhw hefyd, ond och a gwae, roedd 'na hen wylan gefnddu fwyaf yn nofio gerllaw a bob yn ail a pheidio mi fyddai'n codi i ehedeg ac yn plymio i lawr i geisio dwyn un o'r cywion. Roedd y ceiliog a'r iar yn gwneud eu gorau glas i ddiogelu eu cywion chwarae teg iddyn nhw, ond wn i ddim am ba hyd y basan nhw'n medru cadw'r hen wylan fawr draw.

Dan fy nhraed roedd meillion coch a gwyn, blodau menyn a gruw ac fe ddaeth geiriau T. Gwynn Jones i'r cof: O dan draed 'roedd blodau'n drwch, Cerddem ym mysg eu harddwch.
COPYRIGHT 2014 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2014 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Jun 25, 2014
Words:625
Previous Article:Fundraising competition; BOARD notice.
Next Article:Tase mwy ohonon ni'n helpu mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg, fe allai'n cymunedau fod mor wahanol.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters