Printer Friendly

BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

Llwybr Arfordir Mn - Porth Cynfor i Eglwys Sant Padrig Wrth adael Porth Cynfor a dechrau dringo'r llethr serth i fyny i ben Dinas Gynfor, roeddwn i'n gallu gweld llin y llyffant yn tyfu ar y llethrau, ac yn is i lawr ar y creigiau uwchlaw'r mr, corn carw'r mr. Roedd cloch y bugail, neu gloch yr eos, yn las wrth ochr y llwybr, troed yr ir yn felyn a gweddillion clustog Fair yn ymddangos drwy'r borfa a'r ir wen fawr yn hedfan heibio i mi.

Roedd y ddeilen gron yn tyfu mewn lle amhosibl o'r graig a'r cen yn gwbl amlwg ar y graig noeth. Roedd y darn yma yn llecyn cysgodol, heulog a'r gl|ynnod byw yn manteisio i'r eithaf ar hynny. Roedd un gl|yn byw bach eithriadol o gain a thlws - yr argws brown (Aricia agetis; Brown Argus) ac yn rhyfedd iawn, ar waethaf ei henw, perthyn i deulu'r gleision mae'r foneddiges fach yma.

Ar ochr y llwybr roedd ysgallen Siarl (Carlina vulgaris; carline thistle) yn tyfu sy'n awgrymu mai tir calch sy'n y fan hon gan mai ar dir calch, sych y gwelwch chi'r ysgallen yma. Roedd hi wedi hen fynd i had, ond pan mae yn ei blodau mae lliw aur felyn ar y petalau rheiddiol.

Wrth edrych yn l ar y darn ble roeddwn i wedi bod yn cerdded, mi ryfeddais at ba mor serth oedd y creigiau - a finna wedi bod yn cerdded y llwybr reit uwchben y dibyn! Y geiriau ddaeth i fy meddwl oedd Cul yw'r llwybr i mi gerdded, Is fy llaw mae dyfnder mawr.

Ond parhau i fyny'r allt serth drwy'r grug a'r rhedyn ar yr ochr arall i Porth Cynfor roedd y llwybr a Robin sbonc yn dal i ganu. Wedi cyrraedd pen yr allt mi fedrwn weld Ynysoedd y Moelrhoniaid yn gorwedd yn ddioglyd yn nhes y pnawn ac Ynys Manaw yn dal yn glir ar yr ochr dde i mi.

Mae Dinas Gynfor yn llecyn hyfryd a'r man mwyaf gogleddol yng Nghymru ar y tir mawr, ac mae yma hen fryngaer o'r Oes Haearn.

Parhau i lawr y bryn yr ochr arall wnes i a gweld siani flewog ar ganol y llwybr, ac yna roedd bae hyfryd Llanlleiana yn agor o fy mlaen. Mi gododd dwy gigfran oddi ar glogwyn ac roeddwn i'n clywed sgrechiadau plant yn mwynhau'r haul a'r heli a morlo busneslyd yn codi'i ben o'r dwer bob hyn a hyn i weld be oedd yr holl ffws er mawr ddifyrrwch i'r plant a'r oedolion.

Wrth ddilyn y grisiau i lawr i'r traeth mi welwn y gruw, y grug, y clefryn a'r heboglys wrth ochr y llwybr, y cigfrain yn dal i grawcian dal i grawcian a throelli uwchben a robin sbonc yn dal i drydar yn ngwres y pnawn. Islaw, mi welwn hen adfeilion yr hen waith

CAPTION(S):

Yr Argws brown
COPYRIGHT 2010 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2010 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 15, 2010
Words:484
Previous Article:Bara gorig yn beth da i wella annwyd?
Next Article:Mae angen dipyn o heulwen ar y corff, pe bai ond i drechu'r felan.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |