Printer Friendly

Am awr fendigedig! Angharad Tomos.

BARN DWI'N beio Eryl Crump - a'r tywydd poeth. Fo sgwennodd yn yr Herald ddechrau Mehefin ei fod wedi gwneud y daith o amgylch arfordir Mon - taith rydw i wedi bwriadu ei gwneud o leiaf ers dechrau'r mileniwm.

Dyma fi ddeunaw mlynedd yn hyn yn difaru.

Felly un bore braf, a minnau wedi gorfod gweld y deintydd yn Llangefni, sylweddolais mod i'r ochr iawn i Bont Borth, a ffwrdd a mi i gyfeiriad y mor.

Taith fechan ron i eisiau, a dyma barcio ar draeth Din Lligwy, a cherdded i gyfeiriad Moelfre.

Awr gymrodd hi, ond am awr fendigedig! Fel dywedodd T.Gwynn Jones 'I ni daeth hedd o'r daith hon, Praw o ran pererinion.' Ron i wedi prynu brechdan wy flasus yng Nghaffi Avondale, ac eisteddais ar fainc uwchlaw'r mor i'w bwyta.

Ew, ches i rioed frechdan gystal! Roedd popeth yn rhagori - blas yr enllyn, swn tonnau'r mor, can yr adar, yr awel fwyn, ron i uwchben fy nigon. Wedi cyrraedd Moelfre, cefais baned yn fy hoff gaffi, a dychwelyd ar y ffordd.

Campus, ron i'n mynd i'w wneud yn rheolaidd.

Tydw i ddim wedi gwneud, naddo? Hanner awr mae'n ei gymryd i gyrraedd Mon, ond mae rhywun eisiau neilltuo diwrnod go dda i gyfiawnhau'r daith.

Felly penderfynais gerdded fy milltir sgwar.

Ac i wneud hynny, rhaid cael llyfrau Dewi Tomos yn gydymaith.

Yn yr Wythdegau, sgwennodd Dewi dri llyfr am 'Lwybrau Lleu' sy'n cynnwys tua hanner cant o deithiau cerdded.

Dyma'r pethau gorau gewch chi os ydych eisiau dod i adnabod Dyffryn Nantlle.

Yr hyn sy'n dda efo teithiau Dewi eich bod yn cael cymaint mwy na'r llwybrau. Fe'i magwyd yng Ngharmel a bu'n byw yn Rhostryfan, ac roedd yn 'nabod y lle fel cledr ei law.

Ond fel gwr gwar, roedd yn gybyddus efo hanes y fro a'i diwylliant hefyd.

Cewch eich cyfeirio at amryw o lyfrau a cherddi nes bod y cyfan yn brofiad hynod gyfoethog.

Un o'r teithiau hyfrytaf yw'r un o gapel Carmel i lawr at y Gwyndy, ar draws y caeau i lle roedd Eglwys Sant Thomas, ac yn ol drwy Gors Cae Forgan - rhyw ddwy filltir a hanner, sy'n cymryd awr.

Mi gymrodd dros awr imi un bore gan i mi ddod ar draws hanner dwsin o fulod yn un cae, a dydw i ddim mor gyfarwydd efo'r rhain ag ydw i efo gwartheg a defaid.

Roedd chwe trwyn mul yn fy wyneb yn brofiad newydd, a dyma wneud y camgymeriad o'i mwytho! Doedd dim symud arnynt wedyn.

Dechreuodd un flasu fy nillad, a gwasgais rhyngddynt i fynd yn fy mlaen, ond wnai'r un symud modfedd, a sylweddolais ystyr 'styfnig fel mul.'.

Ron i'n gyndyn o wthio heibio iddynt gan fy mod yn cofio'r ymadrodd arall, "Be ti'n ddisgwyl gan ful ond cic?', ond yn y diwedd, cefais waredigaeth.

Wedi'r fath ofn, roedd gweddill y daith yn bleser.

Y peth cyntaf a wnewch ar y daith yw mynd ar hyd 'Lon Fach Gul', un y sonia Syr Thomas Parry amdani, gan ei bod yn arwain bron iawn at y Gwyndy, lle y'i magwyd. Fel yr eglura, yn fuan wedi codi Capel Carmel, yn 1827, caewyd y tir comin o'i flaen i wneud dau dyddyn, ond roedd yn rhaid cadw llwybr i'r capel. Mae Syr O.M.Edwards yn cyfeirio at y llwybr pan wnaeth o daith yn y cyffiniau ym 1913, a dywed, 'Ni all ond y saint teneuon fynd ar hyd-ddo; rhaid i'r graenus gymryd cylch', ac mae'n llwybr hyfryd. Yn y Gwyndy y magwyd tad T.H.Parry Williams, ac mae ganddo ysgrif amdani yn 'O'r Pedwar Gwynt',' diolch i Dewi am fy nghyfeirio ati. Ysgrif ddifyr ydyw yn dweud sut yr aeth yn sownd mewn cwt y ci pan yn blentyn.

Yr hyn a gerais am y daith oedd eich bod yn cael golygfa wych o'r Eifl ar y chwith i chi, a'r mor mawr glas o'ch blaen - golygfa sydd heb newid ers mil o flynyddoedd a mwy.

Ron i'n gyfarwydd efo'r daith nesaf a wnes gan i mi ei gwneud sawl gwaith efo car, ond mae cerdded yn rhoi profiad cwbl wahanol i chi.

Gwnes hon ar Ddiwrnod Poetha'r Flwyddyn, ond gan i mi gychwyn o Garmel am bump y bore, doedd y gwres eto ddim yn llethol.

Taith o bedair milltir ydoedd, ac ron i'n ol yn y car am hanner awr wedi chwech.

Cerddais heibio Capel Bryn (1906) a chors Dafarn Dyweirch, ond troi i'r dde, yn lle i'r chwith am Rosgadfan. Geiriau Dewi oedd yn gwmni i mi, 'Cewch olygfa dlos o'r iseldir a'r mor..

Dyma daith benigamp i weld y modd y meddiannwyd y mynydd-dir a'i droi yn dir pori. Gwelwch y tyddynnod bychain yn britho'r ardal fel llygad y dydd ar lawnt, ac enwau hudolus i mi arnynt - Glanrafon, Tanybraich, Glangors, Fronheulog, Brynbugeiliaid...' Heibio capel Bwlch y Llyn, daw rhywun i'r Fron, a does yr un pentref efo golygfa gystal, yn enwedig yn y bore bach.

Rownd godre Mynydd Cilgwyn a mi, a byddaf wastad yn sylwi ar adfeilion Penffynnon Wen, gan ddyfalu pwy oedd yn arfer eistedd wrth y simdde fawr.

Wedi i Dewi fy nghyfeirio at 'Ty a Thyddyn', darlith Thomas Parry yng nghyfres Darlith Flynddol Llyfrgell Penygroes, canfyddais yr ateb.

Anti Margiad oedd yn byw yno, chwaer i nain Thomas Parry ac i'r fan honno yr ai dwy fuwch y Gwyndy tra byddai'r borfa gynnar yn glasu.

Rydw i wedi gwneud llond dwrn ohonynt, ond dwi am roi blwyddyn i mi fy hun wneud pob un ohonynt, a pharhau i gerdded hyd yn oed wedi i'r tywydd dorri!
COPYRIGHT 2018 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2018 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Jul 4, 2018
Words:927
Previous Article:Meet Britain's Smart Meter BIGGEST OPPONENTS; W.
Next Article:Cwmni'n rhoi hwb i tim rali enwog.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters