Printer Friendly

Ail-ddarganfod Ffynnon Fair.

Byline: Gan GARETH PRITCHARD

UN go ddrwg oedd Maelgwn Gwynedd oedd a'i Lys yn Neganwy ddiwedd y bumed a dechrau'r chweched ganrif. Ganwyd yn y flwyddyn 480 O.C. yn fab i Cadwallon Lawhir. Roedd Cadwallon wedi gyrru'r Gaeliaid (Gwyddelod) o Ogledd Cymru a Mon.

Dywedir i Maelgwn yrru ei ewythr o'i deyrnas drwy rym. Yn ol un chwedl trefnodd gystadleuaeth i ddewis brenin drwy gael pob un i eistedd ar gadair ar y traeth pan oedd y llanw yn dod i mewn i weld pwy allai aros hwyaf ar ei gadair. Yn gyfrwys iawn, adeiladodd Maelgwn gadair fyddai'n arnofio, a llwyddodd i i ennill! Yn ei lys trefnodd eisteddfod rhwng y beirdd a'r telynorion, a bu'n rhaid i bob un nofio ar draws Afon Conwy i gyrraedd y fan! Wrth gwrs, doedd gan y telynorion druan ddim gobaith!

Bu farw Maelgwn o'r pla melyn yn 547OC. Roedd wedi dianc o'i lys i Eglwys Llanrhos i geisio osgoi'r pla, ond yn ol y chwedl aeth ei gywreinrwydd yn drech na fo, ac aeth i sbecian drwy dwll y clo a bu farw!

Nid nepell o'r eglwys mae Ffynnon Santes Fair. Mae'r ffynnon a adwaenwn ni heddiw fel Ffynnon Fair (SH795805) wedi'i lleoli rai cannoedd o fetrau i'r gorllewin o Eglwys Sant Ilar, Llan-rhos. Pam, tybed, fod y ffynnon wedi'i chysegru i Fair yn hytrach nag i Sant Ilar? Codwyd yr eglwys wreiddiol gan Maelgwn Gwynedd. Mae'n debyg iddi gael ei hadeiladu ar y safle arbennig hwn gan fod yna ffynnon gerllaw a fyddai'n darparu cyflenwad o ddwr glan. Roedd hefyd yn cael ei hystyried yn ffynnon sanctaidd.

Maelgwn oedd brenin cyntaf gogledd Cymru, a chododd nifer fawr o eglwysi o fewn ac oddi allan i'w deyrnas. Dywedir ei fod yn hoff o wrando ar farddoniaeth ac epigau. Roedd ei gadamle, y Faerdre, rai cannoedd o fetrau i'r gorllewin o'r eglwys a'r ffynnon.

Mae'n debyg i'r eglwys gael ei henwi ar ol Sant Eleri (Saesneg: Hilary), o Wytherin neu Sant Ilar (Hilaire) o Poitiers yn Ffrainc.

Roedd Sant Eleri (a fu farw yn 670) yn fab i'r brenin Dingat o dde'r Alban, a gafodd ei ddisodli gan Edwin o Northumberland. Ffodd y teulu i Went, ond aeth Eleri i astudio dan Sant Asaff yn Llanelwy. Yn ddiweddarach, sefydlodd fynachlog a chwfaint gyda Gwenfrewi, a oedd yn ferch i'w gefnder.

Yn rhifyn Mai, 1988, o bapur bro'r Pentan, fel hyn y disgrifiodd Glyn Davies Ffynnon Santes Fair: "Y mae'r ffynnon hynafol hon gerllaw Eglwys Llanrhos. Wrth droedio'r llwybr sy'n mynd heibio'r ysgol, rol mynd heibio'r gamfa gyntaf, y mae Ffynnon Mair yn ymyl ar y llaw dde. Credwn mai St. Mair oedd enw Eglwys Blwyf Llanrhos, felly y galwyd y ffynnon ar ol yr Eglwys, ac nid oes amheuaeth o gwbl y defnyddid dwr y ffynnon hon yn yr Eglwys yn y blynyddoedd cynnar. Mae'r tir yn y cyffiniau yn frith o henebion. Fel y gwyr y cyfarwydd bu'n faes cad hen gaer Brydeinig Deganwy. O fewn tafliad carreg i'r ffynnon i gyfeiriad Fferm Bryniau y mae cae bychan a elwid yn 'Gardd y Mynach'. Mae'n amlwg nad enw diweddar mohono. Diamau ei fod yn cyfeirio at gyfnod pan geid mynachdy yno. Yr arfer cyffredin, wrth gwrs. oedd codi mynachdai gerllaw digonedd o ddwr. Tybed ai Ffynnon Mair oedd yn gynhaliaeth i'r myneich? Fodd bynnag, teimlwn yn gwbl hyderus pe archwilid yr ardd a'r cyffiniau y deuid o hyd i bob math o ddeunydd archaeolegol yn y ddaear."

Hefyd, dylid nodi i'r ffynnon hon gael ei defnyddio'n gyson hyd 1908 pan gafodd Llandudno gyflenwad o ddwr o lynnoedd fel Dulyn a Cowlyd.

Erbyn 1994 Roedd Ken Davies a'i wraig Sian wedi symud i fyw i Lanrhos, ac o glywed ei dad yn son bod yna ffynnon yn yr ardal - Ffynnon Santes Fair dechreuodd Ken gymryd diddordeb. Yn dilyn llifogydd Llandudno a'r cylch ym 1993 cliriwyd tipyn ar gilfert ger tai Hillview.

Meddai Ken, "Dyma'r adeg pan benderfynais edrych o ddifrif am Ffynnon Fair. Roedd gordyfiant y ddraenen wen, tagwydd a mieri o gwmpas y nant heb son am y gwastraff gerddi a daflwyd i'r nant dros y blynyddoedd. Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai'r cwbl oeddwn wedi ei ddarganfod oedd cors soeglyd o sbwriel!

Roedd dwy goeden ddraenen wen fawr yn tyfu uwchben y giat mochyn a'r llwybr troed. Wrth dorri'r rhain i lawr, a chlirio peth o'r gordyfiant, wele, adeiledd yn cynnwys hanner cylch o gerrig yn cynnal maen capan fawr iawn. Dyma wrth gwrs oedd Ffynnon Santes Fair, yn gweld golau dydd am y tro cyntaf ers llawer o flynyddoedd.

Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Chwefror 1994.

Y cam cyntaf oedd ceisio clirio'r ffynnon a chreu ffos fel bod y dwr yn gallu llifo tuag at y cylfat. Roedd hyn yn golygu cloddio a chlirio tua phum deg llond berfa o sbwriel adeiladwyr oedd wedi ei daflu i'r ffynnon pan adeiladwyd y tai ar Ystad Hill View gan orchuddio'r cylfat. Torrwyd grisiau i mewn i'r banc clai ar hyd y ffos fel y gallem ddringo allan o'r ffos wrth i ddyfnder y cloddiad gynyddu.

Wrth i'r gwaith o gloddio'r ffynnon a'r geuffos fynd yn ddyfnach daeth yn fater o frys i ddiogelu'r safle i atal unrhyw berson anwyliadwrus rhag llithro i mewn iddo.

| Trowch i dudalen 28
COPYRIGHT 2017 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2017 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Geographic Code:4EUUK
Date:Jul 12, 2017
Words:879
Previous Article:Ar ol cerddi Min y Mor; LLYTHYRAU.
Next Article:Full inquiry into NHS blood scandal; MINISTER CONFIRMS CHARGES COULD BE BROUGHT OVER DEADLY CONTAMINATION.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters