Printer Friendly

/ Dylan Iorwerth.

Byline: WELSH COLUMN

MAE yna o leia' un peth da wedi dod o ymgyrch Refferendwm Ewrop sy'n dod i ben heddiw - mae pob un o'r prif bleidiau Prydeinig wedi cytuno bod rhaid trafod y mewnlifiad.

Maen nhw hefyd wedi egluro pam - am fod gormod o fewnfudo'n gallu arwain at newid cymdeithasol sydyn ac at ystumio economi gwlad.

Felly, yn gwbl amlwg, mi fydd popeth yn iawn i ninnau drafod y mewnlifiad i Gymru.

Gan fod gynnon ni un pryder ychwanegol - fod y mewnlifiad yn cyfrannu'n sylweddol at ddirywiad y Gymraeg - mae'r angen yn fwy fyth.

Felly, mi edrychwn ni ymlaen at glywed David Cameron a Jeremy Corbyn yn cynnig syniadau sut i gadw'r mewnlifiad dan reolaeth resymol a sut i liniaru'r effeithiau pan fydd yn digwydd.

Wrth gwrs, mi allai plaid Ukip ddechrau trwy beidio ag anfon Aelodau Cynulliad yma o ddyfnderoedd Lloegr.

Mi fyddwn ni, gobeithio, yn gallu trafod y mater heb y senoffobia a'r hiliaeth sydd wedi bod ynghlwm wrth y drafodaeth am fewnfudo i'r Deyrnas Unedig - nid peth sy'n ymwneud a gwaed a thir ydi o, ond anghydbwysedd grym, arian a dylanwad diwylliannol.

Wrth gwrs, mi fydd rhywrai'n sicr o ddadlau mai trafodaeth am fewnlifiad ar draws ffiniau gwladwriaethau sydd ar lefel Brydeinig ac nad ydi Cymru ddim yn wladwriaeth. Ond, efo elfen o lywodraeth wedi mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac elfen wedi symud i Gaerdydd, dydi pethau ddim mor syml.

Cyn hir, mi fydd yna ffin drethi rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig ac un ffactor amlwg ydi fod llawer o bobol yn symud i Gymru ar ol gorffen gyrfa - maen nhw felly yn talu treth incwm ar gyflog yn un lle ac yn defnyddio adnoddau a chodi budd-daliadau mewn lle arall.

Ffoaduriaid economaidd yn dianc o le tlawd i le mwy cyfoethog ydi'r "broblem" ar draws gwledydd Prydain; yr hyn sydd gan Gymru'n aml ydi ffoaduriaid economaidd sy'n symud o le cyfoethog i fanteisio ar amodau byw rhatach mewn lle tlawd.

Fydd yna ddim llawer o offerynnau ar gael ond mi fyddai polisiau cynllunio a theilwrio'r farchnad dai ar gyfer anghenion lleol yn ddechrau da - anghenion pobol sydd yma eisoes ac elfen iachus o dwf a symud poblogaeth hefyd.

Ar ei orau, mae mewnfudo doeth yn gallu cynnig bywyd newydd ac ynni newydd a, phan fydd mewnfudwyr yn ymroi i gefnogi'r iaith a'r diwylliant, mae eu cyfraniad yn gallu bod yn wirioneddol werthfawr. Y piti ydi mai lleiafrif ydyn nhw.

Felly, yn ogystal a defnyddio pwerau cynllunio a chryfhau economi ar gyfer pobol leol, mi allwn ni ddisgwyl i'n gwleidyddion ni rwan - o bob lliw - ddweud yn union be ydi cyfrifoldeb pobol sy'n symud i ganol diwylliant sydd mewn peryg... ei gynnal nid ei foddi.

Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360 G walesonline/cymraeg

COPYRIGHT 2016 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2016 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Jun 23, 2016
Words:463
Previous Article:Everything we've the EU referend e learned from dum campaign d; It has been a long, bruising campaign full of fear and rhetoric. The Western Mail...
Next Article:MORNING SERIAL.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters