Printer Friendly

'Mae rhywbeth yn galw draw...' Pam fod adar a chreaduriaid eraill yn mudo? BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

GWELD llun ar Twitter wnes i, a hynny tua chanol mis Awst. Mike Parker oedd wedi tynnu llun nifer o wenoliaid (tua chant os llwyddais i gyfri yn iawn) wedi crynhoi hefo'i gilydd 'ar wifren y teligraff ' ger Machynlleth, ac yn holi 'ydyn nhw hel at ei gilydd i'n gadael ni'n barod oherwydd yr haf gwlyb rydan ni wedi'i gael?' Roedd yn anodd gen i gredu eu bod yn paratoi i fynd mor gynnar a hynny, ond mae'n rhaid cyfaddef nad ydw i wedi gweld gwennol ers o leiaf wythnos ac mae hynny'n anarferol. Fel arfer mae hi tua diwedd Medi os nad dechrau Hydref arnyn nhw'n hel eu traed oddi yma. Felly, efallai eu bod nhw wedi troi eu cefnau arnom ni yn barod oherwydd yr holl wynt a glaw gawsom ni ddiwedd Awst a dechrau Medi.

Yn amlach na pheidio meddwl am y gwenoliaid rydan ni wrth feddwl am fudo, ond y gwir ydi fod 'na nifer o anifeiliaid ac adar yn gwneud hyn. Mae rhai'n mudo ymhellach na'i gilydd mae'n wir, ond yn mudo serch hynny.

Aderyn arall sy'n mudo ydi'r gog ac mae'r gwaith mae'r BTO wedi ei wneud hefo'u Prosiect Tracio Cogau wedi rhoi llawer iawn i wybodaeth i ni am arferion y gog. Roedd rhywun yn arfer meddwl fod y rhigwm am y gog yn wir: "Ei hamser i ganu yw Ebrill a Mai, A hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai."

Bellach, oherwydd y gwaith wnaed gan y BTO ers 2011, rydan ni'n gwybod nad ydi hynny'n hollol wir. Mae'n debyg mai'r hyn sydd yn digwydd ydi fod ceiliog cog yn cyrraedd y wlad hon, yn canu'r ddeunod arbennig er mwyn denu cymar, yn cymharu ac yna'n gadael. Er ein bod ni, os ydan ni'n lwcus, yn clywed cogau'n canu yn Ebrill, Mai a Hanner Mehefin, nid yr un gog rydan ni'n ei chlywed.

Mae'r gwaith yma hefyd wedi dangos pam fod niferoedd cogau yn prinhau yn Ynysoedd Prydain a'r prif reswm, mae'n debyg, ydi am fod amodau anodd yn eu hwynebu ar y ffordd o Affrica yma. Mae'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n mudo hefyd yn medru effeithio ar eu llwyddiant. Roedd yr adar yn mudo'n ol o Ynysoedd Prydain naill ai'n drwy Sbaen a Moroco neu drwy'r Eidal neu'r Balcanau cyn dod at ei gilydd yn y Congo yng nghanol Affrica. Roedd y rhai oedd yn cadw'n fwy i'r gorllewin yn fwy tebygol o farw cyn cwblhau croesi'r Sahara.

Mae'r gwaith o dagio a thracio cogau yn parhau gan y BTO ac mae cogau newydd yn cael eu tagio bob blwyddyn. Mi fedrwch ddilyn hynt a helynt y cogau yma drwy fynd i'r wefan: https://www.bto.org/science/migration/tracking-studies/cuckoo-tracking Mae pob prif grwp o anifeiliaid yn mudo gan gynnwys mamaliaid, adar, pysgod, ymlusgiaid, amffibiaid, trychfilod a chramenogion, ond pam? "Mae rhywbeth yn galw draw" oedd awgrym T. Gwynn Jones yn Gwenoliaid, ac mewn ffordd roedd o'n llygad ei le. Bwyd ydi'r "rhywbeth sy'n galw draw".

Mewn mannau cynnes, heulog a digon o ddwr mae digon o fwyd fel rheol, tra nad oes 'na ddigon ohono mewn llefydd oer, tywyll a lle mae glaw ac eira. Mae'r dyddiau hwy hefyd ac wrth gwrs mae mwy o fwyd mewn mannau felly a mwy o amser yn y dydd i adar chwilio am eu bwyd.

Be felly sy'n "dweud" wrth adar ac anifeiliaid ei bod hi'n bryd codi pac a mynd? Fel rheol y newid yn hyd oriau'r dydd ac mewn tymheredd sy'n rhoi'r ysgogiad. Wrth i'r dydd fyrhau, mae hyn yn rhoi gwybod iddyn nhw ei bod yn bryd iddyn nhw forol bwyta digon er mwyn cael digon o fraster i'w cario ar y daith. Gall tywydd fod yn anwadal, ond mae hyd oriau'r dydd yn newid yn ol yr un patrwm bob blwyddyn. Felly mae anifeiliaid, fel ninnau, yn deall fod y dydd yn byrhau, ei bod yn oeri ac y bydd llai o fwyd o gwmpas, ac felly mae'n amser symud.

Yn bersonol, ni fydd yn dda iawn gen i pan fydd hi'n wanwyn y flwyddyn nesa a'r wennol a'r gog yn dychwelyd.
COPYRIGHT 2017 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2017 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 
Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Sep 20, 2017
Words:688
Previous Article:Carlson career-best knock puts Glamorgan in control.
Next Article:Gweledigaeth newydd am yr iaith yn codi fy nghalon; Angharad Tomos.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters