Printer Friendly
The Free Library
21,419,933 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

SIARAD PLAEN.

Byline: ORIG ORIG Original  WILLIAMS

EDDIW mae arweinwyr llawer gwlad ym Mae Caerdydd yn edrych i lawr eu trwynau ac yn ceisio erlid bocsio allan o fodolaeth. Yn naturiol mae'r cyfryngau yn eu cefnogi, ac yn gwaeddi "clywch, clywch!"

Am fod bocsio yn rhywbeth cyffrous mae agwedd nad ydyw yn beth gweddus i'w gefnogi mewn cyfnod sydd a'i fryd am beidio brifo teimladau, heb sOn am gorff neb.

Serch hyn toes dim drwg mewn gyrru dynion ifanc i ladd, ac i gael eu lladd yn ddianghenrhaid hollol, yn Iraq. Unwaith yn rhagor mae ffeithiau wedi ymddangos bod meddyliau yr arweinwyr yn hollol wahanol i feddyliau y cyfryw rai y maent i fod i'w cynrychioli.

Llai na blwyddyn yn Ol fe ennillodd Clint Eastwood Oscar, a llawer o glod, am y fflilm Million Dollar Baby a gyfarwyddodd. Y tro yma hogan oedd yn y cylch gwaed, yn waed o anafiadau yn yr ysbyty, ac yn olaf yn ei harch, mewn ffilm afaelgar.

Yn awr mae camoliaeth mawr i ffilm arall am focsio sef Cinderella Man. Y tro yma stori wir ydyw am benderfyniad dyn o'r enw James J Braddock yng nghyfnod i diweithdra mawr yn yr Unol Daleithiau yn y tridegau. Roedd Braddock yn byw yn New Jersey, yn oer, ac yn brin o fwyd pan gafodd gyfle i focsio yn erbyn Pencampwr y byd This article or section contains information about scheduled or expected future events.
It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available.
, yn nghyfnod y ffyrnig Max Baer This article is about the boxer and actor. For an article about his actor son, see Max Baer Jr..
Maximilian Adelbert "Madcap Maxie" Baer (February 11, 1909 – November 21, 1959) was a famous American boxer of the 1930s, onetime Heavyweight Champion of the
.

Roedd pawb o'r farn na fuasai Braddock yn cyrraedd yr ail rownd o dan ymosiadau peryglus Baer.

Braddock a orfu fodd bynnag, gan ennill clod ac enwogrwydd a thrwy hynny gwneud ei hun yn ddyn cyfoethog.

Efallai mae llwyddiant ffilmiau bocsio ydyw eu bod yn corffori breuddwyd America - y gall pob breuddwyd ddod yn wir os ydyw'r dyhead yn ddigon cryf. Tydw i ddim yn cofio'r cyfnod yma, ond mi rydwyf yn cofio cyfnod pan yr oedd llawer o son am y cyfnod cyffrous.

Yn ein toe ni fodd bynnag Ann Griffiths Ann Griffiths (née Thomas, 1776 - August, 1805) was a Welsh poet and writer of Methodist hymns.

A tenant farmer's daughter from village of Llanfihangel-yng-Ngwynfa, near Llanfyllin in Powys, mid-Wales, she was brought up in the Anglican Church, but joined the Methodist
 o Dolwan Bach oedd yr arwres fawr. Roedd hi wedi cerdded yr holl ffordd i'r Bala, yn droednoeth i gael Beibl.

Gyda'm cyfoedion ar y stryd doedd dim sOn am ymffrost Ann. Yno Tommy Farr o Donypandy oedd yr arwr. Roedd Tommy wedi bocsio yn America yn erbyn yr anfarwol Joe Louis yn ogystal a Max Baer a James J Braddock. Er hynny, ei orchest wedi gwneud dim argraff ar wnaethurwyr ffilmiau Cymraeg yn amlwg. Fe ymddangosodd ffilm am Ann Griffiths ar S4C S4C skate for cancer
S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) 
 yn ddiweddar. Efallai wir bod hyn yn dangos mae cred fy rhieni oedd yn iawn.

Welais i ddim o'r ffilm. Ambell dro mae yn well dal i goelio storia bore oes. Roedd y byd yn well lle adeg yno.

Mae ffilmiau Rocky a Raging Bull wedi profi bod ffilmiau am focsio yn sicr o lwyddo, fyd eang, gan ei bod yn portreadu dyn cyffredin, tlawd, yn cael cyfle i ennill anfarwoldeb.

Ai y ffaith nad yw'r arwr wedi cael ei addysg ym Mhrifysgolion Bangor neu Aberystwyth ydyw rhwystr mawr yng Nghymru
COPYRIGHT 2005 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2005 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Comment
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 9, 2005
Words:494
Previous Article:LEW BAXTER: Who'd be a bloke.
Next Article:Records bid verges on lunacy.



Related Articles
SIARAD PLAEN.
Viewpoint: SIARAD PLAEN.
SIARAD PLAEN.
ORIG WILLIAMS: SIARAD PLAEN.
SIARAD PLAEN.
SIARAD PLAEN.
SIARAD PLAEN.
Viewpoint: SIARAD PLAEN.
ORIG WILLIAMS: SIARAD PLAEN.
ORIG WILLIAMS: SIARAD PLAEN.

Terms of use | Copyright © 2013 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles