Printer Friendly

Merch y mynydd yn mentro tua'r mor; Gweithio er mwyn byw y mae'r rhan fwyaf ohonom, ond mae ambell unigolyn prin yn byw er mwyn eu gwaith. Mae'r arlunydd Catrin Williams yn un o'r rheiny...

Byline: TUDUR HUWS JONES

MAE sawl peth yn dod i'r amlwg wrth sgwrsio a'r arlunydd Catrin Williams - ei chariad at Gymru, at ein diwylliant, at ei chynefin, ac at ei theulu i enwi dim ond rhai. A'r mwyaf amlwg ohonynt i gyd efallai - ei chariad angerddol at ei gwaith.

Mae holi Catrin os ydi hi'n mwynhau paentio fel gofyn i aderyn os yw'n hoffi hedfan. Mae ei dawn mor naturiol a hynny, ac mae'n deg dweud bod Catrin yn byw i weithio.

Yn wir, mae'n cyfaddef bod ei gwaith yn dipyn o obsesiwn ganddi.

"Dwi'n mynd yn flin os nad ydw i'n gallu gweithio - dwi ei angen o i'm hatgyfnerthu fi," meddai.

Mae'n mynd allan i ysgolion yn rheolaidd i wneud gweithdai celf ac i weithio ar brosiectau mawr gyda'r plant. Ond hyd yn oed wedyn, ar ol diwrnod llawn o waith, mae'n gorfod gweithio wedyn ar ol dod adref.

Ddydd Sul (Mai 18) bydd cyfle i weld ffrwyth diweddara'r obsesiwn hwn pan fydd arddangosfa o'i gwaith yn agor yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy.

Syr Kyffin Williams ddywedodd mai Catrin Williams yw'r artist abstract gorau yng Nghymru.

Ond mae sawl elfen ac arddull i'w weld yn ei gwaith mewn gwirionedd.

Er ei bod wedi byw ym Mhwllheli ers 1996, magwyd Catrin ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, yr ieuengaf o bedwar o blant - pob un ohonynt a thalent at gelf.

Roedd y tri hyn wedi gwneud Lefel A yn y pwnc, ond bu ond y dim i Catrin fynd ar drywydd gwahanol.

"Ro'n i isio gwneud hanes," meddai "ond mi ddywedodd prifathro Ysgol y Berwyn wrtha'i 'na Catrin, mi fasa'n well i chi wneud celf achos bod y tri arall wedi gwneud Lefel A Celf. A dyna fu."

Ar ol gadael yr ysgol, bu bron iddi ddewis cerddoriaeth yn lle celf, ond er fod canu a cherddoriaeth yn dal yn bwysig iawn iddi, celf enillodd y frwydr fach honno hefyd. Ac fel mae'n digwydd, yn y diwedd hi oedd yr unig un o'r pedwar plentyn i fynd ymlaen i goleg celf i astudio'r pwnc ymhellach.

I rhyw raddau mae'r frwydr honno'n ailadrodd ei hun yng nghartref Catrin ar hyn o bryd, lle mae ei mab, Ellis, yn gorfod dewis ei bynciau ar gyfer yr arholiadau TGAU.

"Mae o'n deud nad ydi o isio gwneud celf," medd Catrin.

"Mae Ellis a Luned ei chwaer wedi gorfod mynd rownd orielau celf ers pan oeddan nhw yn eu clytiau. Maen nhw wedi cael eu boddi ynddo fo!"

'Cynefin' yw enw ei harddangosfa newydd, thema a gododd yn gyntaf yn ei gwaith yn ystod dyddiau coleg. Ond roedd ei chyd-fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn meddwl mai o dramor yr oedd hi'n dod ar y cychwyn.

"Roeddan nhw'n meddwl mai o Ddenmarc yr oeddwn i'n dod!" meddai.

"Roeddan nhw'n fy ngalw i'n 'that girl from the mountains' am dipyn hefyd."

Fe greodd casgliad o luniau o wartheg yr oedd Catrin wedi eu gwneud yn y beudy adref, dipyn o argraff ar ei chyd-fyfyrwyr hefyd, yn enwedig un mawr o ben-ol buwch.

"Doeddan nhw ddim wedi gweld dim byd tebyg erioed," meddai dan chwerthin.

Mae Cymreictod a'r profiad o fyw yn Nghymru yn thema gyson yn ei gwaith, ac yn y gorffennol mae hi wedi defnyddio'r ddresel Gymreig, dillad, wynebau ac arferion y teulu i ddynodi hyn.

Yn un arddangosfa rai blynyddoedd yn ol, defnyddiodd nodau clust defaid i ddynodi'r ymdeimlad o berthyn sy'n gysylltiedig a chynefin.

Golygfeydd yw'r rhan fwyaf o'r gweithiau yn - mynyddoedd a phentrefi ucheldiroedd Meirionnydd, a phorthladdoedd bychan arfordir Mon a Llyn. Cynefin y ffermwr, y chwarelwr a'r pysgotwr.

Ond mae'n pwysleisio nad rhamantu'r peth y mae hi.

"Mae'n od bo fi wedi mynd yn ol at dirluniau," medd Catrin.

"Mae hi wedi cymryd blynyddoedd i mi wneud hynny, ond yn amlwg ti'n gorfod byw mewn ardal er mwyn iddo ddechrau ymdreiddio i mewn i dy waith di.

Dydi ardal Pwllheli ddim yn ardal gynhenid i mi - Bala, Penllyn a'r mynyddoedd a'r tirlun yna dwi wedi arfer efo fo. Ond dwi wedi byw ym Mhwllheli bron iawn yn fwy na unlle arall rwan, dwi wedi priodi rywun o Bwllheli, ac mae'r plant wedi cael eu magu yma.

"Dwi'n mwynhau gweld y ffordd y mae pobl yn byw ac yn defnyddio ardal, yn enwedig pan ti'n mynd i rywle fel Aberdaron lle mae'n amlwg bod y mor mor bwysig.

"Dwi ddim yn rhamantu'r peth - mae'n amhosib prynu ty yn Aberdaron bron, a faswn i byth yn gallu ffermio - mae'n fywyd rhy galed."

Eglurodd Catrin fymryn ar y broses o greu un o'i phaentiadau trawiadol.

"Dwi'n paentio'n lliwgar ofnadwy. Dwi'n mynd allan i fraslunio achos, yn bersonol, dwi ddim yn gallu gweithio o ffotograffau.

"Fel arfer dwi'n braslunio yn ddu a gwyn - pensel, siarcol neu inc, felly mae'n llyfr i'n ddu a gwyn.

"Ond pan dwi'n cyrraedd yn ol i'r stiwdio dwi'n cael hwyl. Yr adeg honno mae'r siapiau a'r cysgod a ballu yn cael eu datblygu, a wedyn dwi'n rhoi'r lliw i mewn - a dyna pryd mae fy mhersonoliaeth i yn dod i mewn iddo fo.

"Mi ddywedodd rhywun o'r Alban wrtha'i fod y ffordd dwi'n defnyddio lliwiau yn rhywbeth Celtaidd. Mae'n wir am arlunwyr yr Alban, sy'n defnyddio lliwiau llachar ofnadwy."

Mae rhoi 70 o luniau at ei gilydd ar gyfer arddangosfa fel 'Cynefin' yn waith caled, ond yn amlwg yn rhywbeth sy'n rhoi llawer o fwynhad i Catrin.

"Dwi'n gweithio bob dydd beth bynnag - mi faswn i ar goll os na faswn i'n cael gwneud hynny. Does gen i ddim llawer o fywyd cymdeithasol - dwi'n tueddu i weithio drwy'r adeg. Hyd yn oed pan dwi'n gwneud gweithdai mewn ysgolion - dwi'n dod adref, cael swper, ac wedyn dwi'n dechrau gweithio eto."

Mae'r arddangosfa 'Cynefin' i'w gweld yn Oriel Tegfryn, Ffordd Cadnant, Porthaethwy o Fai 18 tan Fehefin 6. Am ragor o wybodaeth ffoniwch yr oriel ar (01248) 715128

CAPTION(S):

Catrin Williams yn ei stiwdio, gydag esiamplau o'i gwaith (chwith a dde); Aberdaron - un o'r lluniau trawiadol yn yr arddangosfa
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:May 14, 2008
Words:998
Previous Article:Aduniad arall i fyfyrwyr Bangor.
Next Article:Llythyrau'n agor drws atgofion.

Terms of use | Copyright © 2014 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters