Meddyginiaeth at losg a methu cysgu; BYD NATUR.DIOLCH yn fawr i M Roberts, Ffestiniog am rannu'r atgofion am sawl pwnc hefo ni ac am y cynghorion o sut i gael gwared a'r pryfetach ar rosod a choed afalau.Diolch hefyd i Helen Jenkin Jones, Llanrhaeadr am ei hatgofion am weld gweision yn aros i gael eu cyflogi ar Galan Mai, ac i Morwena Williams, Pentraeth am y penillion i'r gloyn byw. Diddorol oedd darllen yn llythyr Heulwen Williams, Cerrigydrudion fod llysiau pen tai yn cael eu defnyddio i gadw mellt a tharanau draw, ac fod y sudd Sudd (s d), swampy region, c.200 mi (320 km) long, and c.150 mi (240 km) wide, S Sudan, E central Africa. sy'n cael ei wasgu o'r
dail yn dda i'w roi ar losg. Tybed beth arall fyddwch chi'n ei
roi ar losgiadau? Oes yna unrhyw blanhigion y byddwch chi'n eu
defnyddio?
Peth annifyr ydi methu cysgu ynte? Dwi'n ffodus iawn, pur anaml y bydda i'n cael trafferth i gysgu - a deud y gwir yn onest, deffro ydi fy mhroblem fawr i! Ond tybed os ydach chi'n un o'r bobl hynny sy'n cael nosweithiau o droi a throsi a chwsg ymhell, beth ydach chi'n ei gymryd at hynny? Oes yna lysiau sy'n gallu helpu? Mae rhai yn honni fod y wermod lwyd (Artemisia Artemisia, ruler of Caria Artemisia (är'təmĭ`shēə), fl. 4th cent. B.C., ruler of the ancient region of Caria. She was the sister, wife, and successor of Mausolus and erected the mausoleum at Halicarnassus in his memory. absinthum) o gymorth os ydach chi'n methu cysgu, tra mae eraill wedi gweld gwerth mewn defnyddio grug y mel (Erica cinerea cinerea /ci·ne·rea/ (si-ne´re-ah) the gray matter of the nervous system.cine´real ci·ne·re·a n. The gray matter of the brain and other parts of nervous system. ). Arferid plethu grug y mel i wneud matiau bychain a'u rhoi ar yr arlais fel powltris i'r sawl oedd yn methu cysgu. Rhai eraill wedyn yn credu fod briallu Mair (Primula veris Primula veris, n See cowslip. ) yn dda i'r pwrpas yma. Wel, tybed fuoch chi'n defnyddio un o'r rhain, neu rywbeth arall ran hynny - heblaw cyfri defaid! Gwefan Llen y Llysiau: www.llenyllysiau.com Llythyr: Yr Herald Cymraeg, Blwch Post 202, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9ZD e-bost: yrheraldcymraeg@dailypost.co.uk |
|
||||||||||||||||

d)
Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion