Printer Friendly

Dyheu am arogleuon a synau ddoe.

Byline: angharad TOMOS

DROS y Pasg, symudais i fyw i'r Hen Ogledd.

Dim ond am wythnos, dwi'n prysuro i ddweud, ond mae rhywbeth cynhyrfus ynglyen chodi pac a byw mewn cymuned gwbl wahanol i'r hyn yr ydych wedi arfer a hi.

A theimlais fy mod nid yn unig wedi symud i wlad arall, ond i gyfnod arall.

Ym mhentref Wolsingham, tu allan i Durham, mae'r dyn llefrith yn dal i ddod heibio bob bore. Petrol yn unig gaiff ei werthu mewn garej ac maen nhw'n dal i gofio pwy ydi John Wesla.

Ar Sul y Pasg, roeddwn yn St John's Chapel - dyna enw'r pentref - lle mae gwasanaethau wedi eu cynnal yn ddi-dor bob Sul yn y capel Wesla ers ei sefydlu ym 1760 Galwodd John Wesla heibio i hybu achos Anghydffurfiaeth, a dychwelodd i ymweld chymuned Ireshopeburn ddeuddeg gwaith yn ystod ei fywyd gan mor hoff ydoedd ohonynt.

Sir lofaol yw Durham, a phan oedd y gwaith yn ei anterth, roedd tri chant o byllau glo yma. Bellach does na'r un. Dro ar l tro, synhwyrais fy mod ymhlith pobl oedd yn debycach o ran anian i Gymry neu Albanwyr.

Roedd Llundain yn lle pell iawn iawn. A tro nesaf y bydd pobl Gogledd Lloegr yn brwydro am gynulliad, byddaf yn cefnogi eu brwydr.

Dydych chi ddim ymhell iawn o ffin Wal Hadrian. Diwrnod niwlog ydoedd pan ddaru ni ymweld hi, ond roedd yn dywydd addas. Wrth inni deithio ar hyd y ln Rufeinig, dyma weld - drwy niwl y gorffennol, - wal, a honno yn wal solet iawn.

Mae darnau ohoni dros chwe troedfedd, mae'n bedair troedfedd o drwch ac wrth gerdded arni, does dim i'w weld o'ch cwmpas am filltiroedd.

Mae'n anhygoel ei bod wedi goroesi.

Fedrwch chi ddim dianc oddi wrth y gorffennol yma. Yng Nghadeirlan Durham, mae arch bren Sant Cuthbert a gludwyd yno o Lindisfarne yn y seithfed ganrif. Yn Abaty Hexham gerllaw, mae cerrig Rhufeinig wedi ei defnyddio yn y crypt.

Mae'n bosib cyffwrdd carreg fedd Rufeinig o'r ganrif gyntaf.

Yng nghanol stad o dai modern yn Escomb mae perl o eglwys, y cerrig tu allan yn dywyll a'r tu mewn yn glaerwyn, lle bu allor ers 675.

Wrth ddeffro yn blygeiniol i godi'r gliced ar fore gwanwynol arall, teimlwn wrth gamu dros y trothwy mod i'n gadael yr unfed ganrif ar hugain ymhell tu l i mi. A diau fod Amgueddfa Werin Beamish yn gystal cyfrwng a dim i ddehongli'r gorffennol.

Sain Ffagan y Gogledd ydyw Beamish, amgueddfa lle na welwch label ar unrhyw wrthrych, ond lle mae pobl o'r oes o'r blaen yn cerdded o'ch cwmpas gan ddod hanes yn fyw.

Wrth fynd i mewn i fanordy 1825, yr hyn a'm trawodd oedd cymaint o arogleuon yr ydym wedi eu colli yn yr oes fodern.

Yr ydym wedi saniteiddio ein bywyd i'r fath raddau fel ein bod yn amddifadu ein hunain o un o'n prif synhwyrau. Arogl tn mawn ddaeth i'm ffroenau gyntaf, yn gymysg a lafant wrth i'r forwyn mewn gwisg laes wrth yr aelwyd eu casglu mewn mwslin ac arogl gwr cannwyll. Heb fod ymhell, roedd y forwyn fawr yn tylino, ac yn rhoi'r burum wrth y tn i godi. I fyny grisiau, yn y stafell gefn, roedd cigoedd wedi eu halltu yn crogi, ac yn drewi'n ddychrynllyd! Wrth gamu i'r clos, roedd holl arogleuon y buarth ynghyd synau'r anifeiliaid. Roedd plantos yn dotio at ffroenau gwlyb y mochyn, yn ysu am gael mwytho'r cywion, yn gwylio'r ieir mewn rhyfeddod. Sut ydyn ni wedi ymddihatru mor llwyr oddi wrth hyn? Gyda chymorth tram hen ffasiwn, mae'n bosib teithio ymlaen i bentref yn 1913, busnesu mewn tai go iawn efo pobl go iawn yn sgwrsio efo chi yn y stafelloedd. Falle mai fy ffefryn oedd y siop dda-das lle roedd modd prynu llond bag papur o'ch hoff ddanteithion, a gyda un cegiad, roeddech chi'n deffro myrdd o atgofion.

Yn siop y co-op, roedd popeth dan haul i'w weld - yn ddodrefn a llestri, bath tun a sebon coch. Cymaint o bethau oedd eu hangen ers talwm i gadw trefn ar y tye! Mwya sydyn, roedd yna gytundeb ymysg y gwragedd ein bod yn ffodus iawn i fyw yn yr oes bresennol.

Ond dal i ddylifo wni'r atgofion wrth inni ymweld 'r hen ysgol.

Cyfrifiadur a bwrdd gwyn rhyngweithiol sydd yn nosbarth fy mab, a chafodd o brofiadau cwbl newydd. Eistedd mewn desg bren, sgwennu ar lechen, edrych ar fwrdd du a sgrifen mewn sialc, anifeiliaid wedi ei stwffio mewn cs gwydr, inc mewn potiau, tn yn y grt, ac arogl disinffectant.

I'n hatgoffa beth oedd yn wynebu plant wedi iddynt adael yr ysgol, roedd ymweliad phwll glo, a daeth hynny a ni wyneb yn wyneb realaeth.

Ydw, rydw i'n ddiolchgar mod i yn byw mewn oes lle mae modd i mi fwynhau awyr iach ac iechyd, lle nad oes cynifer o blant bach yn marw, lle mae gan ferched fwy o ryddid ac o amser rhydd.

Siwr iawn mod i'n falch o hyn.

Ond mae yna hiraeth hefyd am bethau a gollwyd. A'r hiraeth hwnnw a ddeffrowyd ynof yn ystod y gwyliau hwn.

Mi garwn pe gallem ail gysylltu 'r pridd a thyfu pethau o hwn yn lle bwyta petha plastig o archfarchnad.

Mi garwn pe gallem glywed cant a mil o wahanol arogleuon pob dydd yn lle diheintydd. Mi garwn fwy o amser i werthfawrogi natur ac anifeiliaid. Ac yn fwy na dim, mi garwn ronyn o ffydd y myneich cynnar i gario arch bren o ynys sanctaidd a'r gras i blygu glin wrth hen allor..

CAPTION(S):

Tu mewn claerwyn Eglwys Escomb, yn Swydd Durham
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Apr 22, 2009
Words:933
Previous Article:Gwn mes a theganau eraill; LLYTHYRAU.
Next Article:Great chance for Ellison ace.


Related Articles
in DEPTH: Cewri ddoe cystal a sr heddiw?; SIARAD PLAEN.
ORIG WILLIAMS; SIARAD PLAEN.
VIEWPOINT: GYDA MICI PLWM.
VIEWPOINT: GYDA MICI PLWM.
Arogleuon yn adrodd cyfrolau i anifeiliaid; BYD NATUR.
Lliw, llun ac arogl; BYD NATUR.

Terms of use | Copyright © 2015 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters