Dilyn hanes y genedl anweledig; WELSHCOLUMN.* ETH ethn. Variant of edh. rhyfedd ydi darllen llyfr am Harri Tudur, brenin Lloegr, heb unrhyw sn am Gymru yn rhestr y mynegai yn y cefn. Ond mae'n berffaith wir am gyfrol hanes sydd wedi cael ei chanmol i'r cymylau gan feirniaid dros y ffin. Dylan Iorwerth Ychydig yn l wedyn, roedd yna lyfr - ac opera dw i'n amau dim - yn galw'r dewin John Dee
Mae'r ddau beth yn fy atgoffa fi o'r gyfrol honno am hanes "Prydain" a oedd yn sn yn y cefn am ryfeloedd "yn erbyn y Cymry". I'r hanesydd hwnnw, hanes Lloegr oedd hanes Prydain ac, yn unol 'u henw Saesneg, pobol o'r tu allan oedd y Welsh. Rwan, tydw i ddim yn arbenigwr ar hanes Harri VII ond tydw i ddim yn meddwl mai cyd-ddigwyddiad oedd hi mai yn Llydaw yr oedd o wedi bod yn llechu cyn dod draw i hawlio coron Lloegr. Go brin mai damwain chwaith oedd iddo ddadorchuddio'r Ddraig Goch ar faes ei fuddugoliaeth ym Mosworth. Yn y gyfrol newydd gan yr hanesydd Thomas Penn mae sawl cyfeiriad at y Ddraig Goch
Doedd gan bobol y cyfnod fawr o amheuaeth am dras Harri - roedd un o'r llysgenhadon rhyngwladol wedi ei alw yn Gymro pan ddaeth i'r Orsedd gynta' ac mae'n debyg bod llif o Gymry wedi ei ddilyn i Lundain yn ystod y degawdau nesa'. Ymhlith y rheiny yr oedd tad John Dee - roedd presenoldeb y "Sais" enwog yma yn Llundain yn brawf o'i Gymreictod ef a'r teulu brenhinol ar y pryd. Ac, wrth gwrs, ei wybodaeth o am chwedl Gymreig Madog oedd un o'r pethau a arweiniodd at hawlio America ar ran y Frenhines, wyres Harri VII. Mi fyddai'n ddiddorol gwybod sut yr oedd eu Cymreictod yn effeithio ar ffordd Harri a Sin o feddwl. A oedd proffwydoliaethau'r beirdd wedi codi gobeithion y darpar frenin, a oedd yr un diwylliant wedi dylanwadu ar ddychymyg Sion Ddu, y dyn ar y ffin rhwng gwyddoniaeth a hud a lledrith? Chaiff cwestiynau felly ddim o'u hateb yn aml gan haneswyr o du arall Clawdd Offa. Tydi llawer ohonyn nhw ddim yn cydnabod cymhlethdod yr hyn a greodd yr hyn y maen nhw'n hoffi'i galw'n Brydain. Mae haneswyr yn dylanwadu ar ein ffordd o feddwl. Roedd Harri VII yn gwybod hynny'n dda ei hun ac yn llunio'i hanes personol i ffitio'i fwriadau gwleidyddol. Y peryg ydi mai'r hanes unllygeidiog yma sy'n dylanwadu ar ffordd o feddwl arweinwyr Lloegr heddiw. Un feirniadaeth sy'n cael ei gwneud ar rai fel David Cameron Anthony Charles Lynton Blair, Blair o'i flaen o - ydi nad oes ganddo fo ddealltwriaeth o'r gorffennol ac felly nad ydi o'n gallu dysgu gwersi'r gorffennol. Heb nabod Dave yn bersonol, wn i ddim, ond mae hanes yn gallu dylanwadu ar ffordd cenedl o edrych arni ei hun ac ar genhedloedd eraill. Mae yna ddeiseb ar wefan y Cynulliad ar hyn o bryd yn galw am wneud hanes Cymru'n orfodol i bob plentyn ysgol yma. Y rhyfeddod ydi fod rhaid gwneud y fath alwad o gwbl, ond mi allai disgybl fynd trwy ei haddysg heb wybod fawr ddim am orffennol ei chenedl ei hun. Nid pwynt gwleidyddol ydi hwn, ond un hollol anwleidyddol. Y peth mwya' naturiol i bawb ydi dysgu am eu cefndir eu hunain. Yr ail gam gam 1 n. 1. A social visit or friendly interchange, especially between whalers or seafarers. 2. A herd of whales or a social congregation of whalers, especially at sea. See Synonyms at flock1. v. ydi dysgu beth ydi'r hanes hwnnw, yn ddrwg a da, yn hardd a hyll a chymysglyd. Mae angen deiseb arall. Un i'r Senedd yn Lloegr/Prydain. Yn gofyn am wneud yn siwr fod pob disgybl yno hefyd yn cael dysgu am hanes Cymru. * Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360 CLICK ON Gellir darllen y colofnau Cymraeg ar ein gwefan walesonline.co.uk/cymraeg |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion