DEWIS EMYN ELFED; Dathlu gwaith un o emynwyr gorau Cymr.MEWN MEWN Manual Early Warning Network rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol yr wythnos hon, bydd cyfle i fwynhau rhai o'r emynau gorau yn y Gymraeg wrth i'r rhaglen ddathlu doniau'r emynydd o Flaen-ycoed, Elfed. Ers dechrau'r flwyddyn mae gwylwyr y gyfres wedi bod wrthi'n ddiwyd yn bwrw eu pleidlais wrth iddynt ddewis eu hoff emyn o restr fer o 12 gan y bardd, pregethwr ac eisteddfodwr o fri. Bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei ddatgelu mewn rhaglen arbennig a ffilmiwyd yn theatr Venue Cymru Venue Cymru is a large arts venue in Llandudno North Wales incorporating a 1,500 seat theatre, restaurant, conference centre and arena. The venue was previously known as the North Wales Theatre and the North Wales Conference Centre. , Llandudno nos yfory ar S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) . Mae poblogrwydd emynau Elfed yn amlwg iawn yma yng Nghymru gyda rhai fel 'Yr Arglwydd a feddwl amdanaf' a 'Pwy sy'n dwyn y Brenin adref?' ymhlith y ffefrynnau. Mae nifer yn ystyried yr emyn 'Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion' fel ail anthem genedlaethol Cymru ac mae hefyd yn un o ffefrynnau un o gyflwynwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol, ac arweinydd y cyngerdd mawreddog hwn, Alwyn Humphreys. "Roedd cyfraniad Elfed i fywyd a diwylliant Cymraeg yn ofnadwy o bwysig," meddai Alwyn a ddaw'n wreiddiol o Fodffordd yn Ynys Mon. "Elfed oedd awdur rhai o'r emynau Cymraeg enwocaf. Lle fyddem ni heddiw heb 'Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion' - un o fy hoff emynau i erioed," ychwanega Alwyn sydd yn feirniad canu ac yn llais sylwebu craff yn yr Eisteddfod eisteddfod (īstĕth`vəd, –vôd) [Welsh,=session], Welsh competitive festival. Contests traditionally are held in all the arts and crafts, with special emphasis on music and poetry. Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Ganwyd Howell Lewis (Elfed) mewn bwthyn un ystafell wely, Y Gangell, Blaen-y-coed ger Cynwyl Elfed Cynwyl Elfed is a community located in Carmarthenshire, Wales. • • [ ar Ebrill 14, 1860. Yr hynaf o ddeg o blant, fe gymerodd Elfed ei enw barddol o'i blwyf genedigol gan ddod yn adnabyddus fel emynwr o fri. Roedd hefyd yn bregethwr amlwg, yn awdur, darlledwr ac yn eisteddfodwr selog ac fe fu'n Archdderwydd Cymru o 1924 hyd 1928. Wedi iddo bregethu am y tro cyntaf yn 13 oed, bu'n weinidog ym Mwcle, Hull, Llanelli, Capel Harecourt yn Llundain lle oedd Dr David Livingstone yn un o'i aelodau a'r Tabernacl yn King's Cross. Bu hefyd ar deithiau pregethu yn America yn 1910 a Madagascar yn 1920. Wedi byw bywyd amrywiol, mae'n debyg i'r digwyddiadau hyn i gyd ddylanwadu'n fawr arno. "Wrth ffilmio ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol, fe gefais ymweld a'r ty lle cafodd Elfed ei eni a'r fynwent lle cafodd ei gladdu," meddai Alwyn. "Roedd ei emynau yn syml a dealladwy a doedd dim bygythiad ynddynt. Roedd hyn yn nodweddiadol o'r dyn ei hun yn ol pob son," ychwanegodd Alwyn a fu'n arweinydd cor cefnogwyr rygbi'r Gweilch yn y gyfres Codi Canu. Ac yntau'n hen law ar arwain canu wedi iddo fod yn arweinydd Cor Orpheus Treforys am chwarter canrif gan deithio i bedwar ban byd, fe fydd Alwyn Humphreys yr wythnos hon yn arwain y canu cynulleidfaol yn Venue Llandudno gyda Cherddorfa Siambr Cymru yn cyfeilio. Mae Alwyn yn arweinydd byd enwog ac wedi enwi Carnegie Hall Carnegie Hall Concert hall in New York, N.Y., U.S. It was endowed by the industrialist Andrew Carnegie at the insistence of the conductor Walter Damrosch (1862–1950). yn Efrog Newydd fel un o'i hoff lefydd i arwain, fe fydd yn arwain y gynulleidfa wrth i hoff emyn y Cymry gan Elfed gael ei ddatgelu mewn gwledd o ganu ar S4C. Since the beginning of the year, Dechrau Canu Dechrau Canmol viewers have been voting for their favourite hymn by Elfed, the poet and preacher from Blaen-y-Coed, Carmarthenshire. The results of the viewers' vote will be revealed in a special programme filmed during a celebratory evening led by world renowned conductor Alwyn Humphreys held at the Venue Cymru theatre, Llandudno, can be seen on S4C tomorrow night. DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL S4C, nos yfory, 8pm Isdeitlau Cymraeg a Saesneg English and Welsh
English and Welsh is the title of J. R. R. Tolkien's valedictory address to the University of Oxford of 1955, explaining the origin of the word "Welsh". subtitles CAPTION(S): Yr arweinydd adnabyddus Alwyn Humphreys fydd yn datgelu hoff emyn y Cymry ar y noson |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion