Printer Friendly
The Free Library
19,607,059 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Cyfrinachau cwpwrdd Nia.


Byline: Gan GWENAN DAVIES

GYDA'R bumed gyfres o Cwpwrdd Dillad yn cael ei darlledu ar S4C S4C skate for cancer
S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) 
 ar hyn o bryd, mae'r cyflwynydd Nia Parry wedi busnesu a thyrchu drwy ddegau o gypyrddau wrth iddi deithio ar hyd a lled Cymru ac ymhellach.

Yn cael y cyfle i gyfuno dau ddiddordeb, sef ffasiwn a sgwrsio, mae Nia wrth ei bodd yn cyflwyno'r gyfres. Ond, pe bai'r cameru yn troi arni hi, tybed beth fyddai'r gwylwyr yn ei ddarganfod yn llechu yn ei chwpwrdd dillad? "Fyddwn i ddim yn licio i bobl ddod i dyrchu yn fy nghwpwrdd dillad i achos mae golwg ddifrifol arno fo!" meddai Nia dan chwerthin.

"Roedd gen i andros o walk-in wardrobe pan oeddwn i'n byw yng Nghaerdydd, ond ers i mi symud i Rostryfan, jyst cwpwrdd dillad cyffredin sydd gen i. Ro'n i mor siomedig achos does gen i ddim chwarter gymaint o le a dwi wedi cael gwared ar lwythi o ddillad, sydd wedi bod yn beth da, ond yn rhywbeth anodd iawn i'w wneud," meddai.

Ond, wedi cael gwared chymaint o ddillad, a oes gan Nia unrhyw ddilledyn sydd ag ystyr arbennig iddi na fyddai byth yn cael ei wared? "Mae gen i br o fenig lledr hufen bendigedig ar l nain. Dwi wastad yn meddwl y dylswn i eu gwisgo nhw, ond maen nhw wedi eu plygu'n ddel ac wedi eu cadw yn y bag y daethon nhw,," eglura Nia sydd hefyd yn cyflwyno'r rhaglen gwis O ond 1 gyda Morgan Jones Morgan Jones may refer to:
  • Morgan Jones (broadcaster), Welsh television presenter
  • Morgan Jones (Welsh politician) (1885–1939), Labour Member of Parliament for Caerphilly 1921–1939
 ar S4C.

Dros y bum cyfres o Cwpwrdd Dillad mae rhai o enwau mawr Cymru wedi ymddangos ar y rhaglen. Yr wythnos hon bydd Nia yn darganfod mwy am ddillad Tim Rhys-Evans, arweinydd cr meibion llwyddiannus Only Men Aloud! yn ogystal chlywed am hoffter y cyflwynydd Alex Jones a'r actores Lauren Phillips Lauren Phillips is a Welsh television actress best known for playing the character of Kelly in the Welsh soap Pobol y Cwm.  o ddillad cynllunwyr y stryd fawr, cyn cwrdd Paula Morris-Jones o Gaernarfon sy'n casglu ffrogiau priodas.

Un enw y mae Nia'n cyfaddef y byddai wrth ei bodd yn cael twrio drwy ei gwpwrdd dillad, "jyst achos ei fod o'n ddel!" meddai, yw'r canwr Mark Evans. Ond cwpwrdd pwy sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf ar y gyflwynwraig a fagwyd yn Llandrillo yn Rhos? "Er mai dim ei chwpwrdd hi oedd o, mi oedd y rhaglen ar Eleri Lynne sy'n guradur yn Amgueddfa'r V&A yn arbennig. Roedd yna ffrogiau bendigedig gan Christian Dior Noun 1. Christian Dior - French couturier whose first collection in 1947 created a style that became known as the New Look (1905-1957)
Dior
 a ffrog gan Givenchy wnaeth Audrey Hepburn ei gwisgo yn y ffilm Sabrina," meddai Nia.

"A thra o'n i yno mi ges i hefyd drio pr o 'sgidia Christian Louboutin Christian Louboutin (born 1963) is a well known French shoe designer. Biography
Christian Louboutin was interested in women's fashion since he was a small child. In 1979, as he was walking alongside the streets of Paris, he noticed a billboard that instructed women
 ymlaen ac mi oeddan nhw mor brydferth!" Mark Evans Gyda steil yn newid o dymor i dymor, a yw Nia wedi dysgu llawer am ffasiwn wrth gyflwyno'r Cwpwrdd Dillad? "O ydw," meddai'n bendant. "Dwi'n meddwl mai'r peth pwysica' dwi wedi ei ddysgu ydy i ddod i adnabod fy sip fy hun, a tydi o ddim ots beth wyt ti'n ei wisgo, dim ond dy fod yn ei wisgo hyder.

"Mae gweithio ar y gyfres yn brofiad ffantastig. Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef mai'r bobl a'u straeon ydy'r hyn sydd yn aros yn y cof yn fwy nag enw unrhyw label."

. This week on Cwpwrdd Dillad, Only Men Aloud! conductor, Tim Rhys-Evans opens his wardrobe to Nia Parry. We also learn more about why two well known faces love designer clothes at high street prices, and we take a tour through the ages with Paula Morris-Jones' collection of wedding dresses. But if the tables were turned, and the cameras came to presenter Nia Parry's house, what would we find in her wardrobe? CCyyffllwwyynnyydddd wweeddii ggoorrffoodd ccaaeell ggwwaarreedd aarr llaawweerr oo''ii ddiillllaadd CWPWRDD DILLAD S4C, nos Fawrth, 9pm, English and Welsh
As an adjective "English and Welsh" refers to England and Wales.


English and Welsh is the title of J. R. R. Tolkien's valedictory address to the University of Oxford of 1955, explaining the origin of the word "Welsh".
 subtitles available

CAPTION(S):

Mark Evans
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 19, 2009
Words:620
Previous Article:Win a Freesat HD box; COMPETITION.
Next Article:O'r Sioe Laeth i'r Cwt Caws.



Related Articles
Dillad yn datgelu datblygiad personol.
tv wales: Cypyrddau diddorol.
Agor cwpwrdd y cyfarwydd.
Pigion Y DYDD.
PUM MUNUD YN ...
Wednesday: Pigion Y DYDD.
Pigion Y DYDD.
Cwis Meddiant: Harlech.
Pigion Y DYDD.
Pigion Y DYDD.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles