Cyfrinach y gragen dro; BYD NATUR.Byline: Gan Gan or Kan (both: gän), river, c.550 mi (885 km) long, flowing north through the plain of central Jiangxi prov., SE China, past Nanchang to Poyang lake. BETHAN WYN JONES Wyn Jones (b. 1953) is a Welsh politician and Plaid Cymru member standing in the Cardiff North constituency in the National Assembly for Wales election, 2007. Wyn Jones was born in Cardigan and currently lives in Whitchurch, Cardiff ( Caerdydd ). MAE (1) (Metropolitan Area Exchange) Originally known as Metropolitan Area Ethernets, MAEs are junction points on the Internet where data is exchanged between carriers. See IXP and NAP. 'na un wedi bod ar garreg y drws acw cyhyd ag y medra i gofio. Wn i ddim o ble daeth hi, ond dwi'n weddol siwr mai o bellafoedd byd roedd hynny. Son rydw i am y gragen dro - y 'conch'. Dydi hon ddim yn gragen sydd i'w gweld oddi ar arfordir Cymru - wel, ddim hyd y gwn i, beth bynnag! Na, mewn dyfroedd clir, bas, cynnes rydach chi'n debyg o ddod ar draws y gragen dro, ond mae'n syndod faint faint (fant) syncope. faint n. An abrupt, usually brief loss of consciousness; an attack of syncope. adj. Extremely weak; threatened with syncope. ohonyn nhw welwch chi mewn tai a'r tu allan i dai yn enwedig mewn ardaloedd glan mor, ac mae'n siwr gen i mai llongwyr ddaeth a nhw yn ol o'u mordeithiau. Un o'r molysgiaid ydi'r gragen dro - un fawr. Wel, a deud y gwir mae hi'n un fawr iawn o gofio be ydi maint arferol malwod. 'Queen Conch' neu 'Pink Conch' ydi'r enw Saesneg, a Strombus gigas ydi'r enw gwyddonol. Mae yna dros 70 o rywogaethau o'r gragen dro ac mi all rhai ohonyn nhw fyw am gymaint a 25 mlynedd. Y gragen dro fwyaf ydi'r Pleuroploca gigantea, sy'n gallu tyfu cymaint a dwy droedfedd, ac mi welwch chi'r gragen dro yn nyfroedd trofannol yr Iwerydd, y Mor Tawel a Chefnfor yr India. Un o falwod y mor ydi hi ac mae'n perthyn i'r dosbarth gastropodau. Un gragen sydd gan y gastropodau, a honno fel rheol yn droellog. Mae ganddyn nhw lygaid sydd ar ben coesau bach, ac maen nhw'n symud drwy ddefnyddio troed fawr, gyhyrog. Ar y tafod mae yna nifer o ddannedd. Trefnwyd y rhain mewn rhesi ac mae'r tafod yn medru gweithio fel crafell neu grib. Maen nhw'n pori ar aceri o'r morwellt neu wymon mewn dwr bas. Mi fydd y fanw yn dodwy hyd at 400,000 o wyau rhwng Mawrth a Medi. Mae gan y larfa sy'n deor o'r wyau gragen bitw bach, a llabedau tebyg i adenydd ar bob ochr i'w gorff. Mae'r rhain yn drifftio yng ngherrynt y cefnfor, ac mewn perygl o gael eu bwyta gan unrhyw anifail sy'n byw yn y mor. Ychydig iawn sy'n goroesi, a dyma un rheswm pam mae'r fenyw yn dodwy cymaint o wyau. Ar ol tua 21 diwrnod yn nofio fel rhan o'r plancton, mae'r rhai bach yn disgyn i wely'r mor, fel rheol ble mae 'na ddigon o forwellt i'w fwyta. Yno, yn raddol mae'r larfa yn newid. Mae'n claddu ei hun yn y tywod ac yn byw am tua blwyddyn ar alga bach. Mi gymer ryw dair blynedd i'r gragen dro gyrraedd ei llawn faint. Erbyn y bydd hi tua chwech i saith saith v. Archaic A third person singular present tense of say. mlwydd oed, mi fydd wedi hel nifer o hitch-heicars fydd wedi neidio ar gefn y gragen i gael reid am ddim - pethau fel gwymon, anifeiliaid cyntefig a hyd yn oed ambell i gwrel. Roedd y gragen dro yn arfer bod yn gyffredin unwaith. Yn anffodus, fel nifer o rywogaethau eraill, maen nhw wedi cael eu casglu am eu cig a'u defnyddio i wneud gemwaith. Erbyn hyn, mae'r gragen dro yn cael ei diogelu'n llym. CAPTION(S): Y gragen dro |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion