Cyfle o'r diwedd i gyfuno plygain a phop.Byline: rhys MWYN LLYNEDD, ym mis Ionawr 2008, es lawr i Lanfihangel yng Ngwynfa i'r Plygain, am y tro cyntaf yn fy mywyd - ni chefais fy siomi. Erbyn i chi ddarllen yr erthygl yma byddaf wedi dychwelyd yno eto nos Sul diwethaf a byddaf yn ol yno eto nos Wener yma. Fe gymerodd hyd at fy 45ed mlynedd ar y ddaear yma cyn i mi fentro. Fy mai i, fy newis i, fy niffyg gweledigaeth i - galwch o yn be fynnoch - dwi ddim yn amau i hyn gymeryd rhy hir. Hyd yn oed mor gynnar a 1982 tra yn y brifysgol yng Nghaerdydd dwi'n cofio meddwl fod angen Angen (Japanese: 安元) was a Japanese era name (年号, nengō, lit. year name) after Jōan and before Jishō. This period spanned the years from 1175 through 1177. datblygu "ffasiwn Cymreig", a fod cyfnod y Byd This article or section contains information about scheduled or expected future events. It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available. Pop Cymraeg fel cyfrwng perthnasol yn dod i ben. Rwan, dwi'n derbyn fod hyn yn ddamcaniaeth hollol wallgof ac afresymol, ond roedd y sentiment yn iawn - onid elfen o hyn gafodd ei ddatblygu gan gwmni Cowbois wrth greu, a gwerthu yn llwyddiannus iawn, grysau T a sloganau hollol Gymreig? Ar y pryd (1982) wrth gwrs roedd Maffia Mr Huws yn cadw'r fflam yn fyw yn y Byd Roc Cymraeg a finnau yn gweithio (gyda hyd braich) gyda grwpiau fel Y Sefydliad a Treiglad Pherffaith. Ond roedd hyn i gyd cyn y chwyldro a ddaeth yn fuan wedyn yn sgil grwpiau fel Y Cyrff a Datblygu - felly byddai wedi bod braidd yn fuan i "ymddeol" o'r Byd Pop! Efallai mae'r hyn oedd wrth wraidd y ddamcaniaeth oedd fod angen symud pethau ymlaen yn gynt, ond roedd angen cael grwpiau Cymraeg ar John Peel ac i deithio Dwyrain Ewrop... Un ddamcaniaeth sydd wedi dal dwr dros y blynyddoedd, wrth gwrs, yw fod yr elfennau Cymreig ac yn sicr yr iaith Gymraeg yn gryfderau wrth farchnata a hyrwyddo - ac yn fwy felly yn y farchnad ryngwladol. Y piti mewn ffordd yw fod pethau mor ara deg Deg degeneration. deg or deg. abbr. degree yng Nghymru a fod blynyddoedd wedi gorfod cael eu treulio yn trio dal i fyny efo gweddill y byd ac yn sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn gallu In Sumerian and Akkadian (Babylonian and Assyrian) mythology, Gallu (also called gallu demon or galla (Akkadian: gallû)) was a wild spirit or underworld demon that, under the shape of a bull, went through the cities, especially by night. bod yn hollol gyfoes. Beth bynnag ddigwyddodd wedyn, o leiaf fe welwyd cyn aelodau o grwpiau Cymraeg ar Top of The Pops a fe ddaeth "Cymru'n Cwl"! Yn ddiweddarmae datblygiad arall pendant pendant or pendent In architecture, a sculpted ornament suspended from a vault or ceiling, especially an elongated boss (carved keystone) at the junction of the intersecting ribs of the fan vaulting associated with the English Perpendicular style. wedi digwydd, efallai dros y dair mlynedd diwethaf, gyda dyfodiad artistiaid fel Alun Tan TAN See tax anticipation note (TAN). Lan a Gwilym Morus yn troi i ffwrdd o roc ac yn ail-ddehongli eu gwreiddiau gwerinol Cymreig, a'r twf diweddar mewn cerddorion gwerin fel 9 Bach, Gareth Bonello a Lleuwen Steffan ymhlith eraill. Rhywsut mae rhywun yn cael teimlad pendant fod y Byd Gwerin Cymraeg wedi ei adfer, ac yn wir wedi ei gicio allan o'i drwmgwsg, gyda artistiaid fel Brigyn yn rhoi llwyfan i'r delyn tra mae'r gynulleidfa yn gallu dawnsio! Felly, mae na fwy i gerddoriaeth Cymraeg nawr na efelychiadau o arddulliau Americanaidd a Seisnig neu hyd yn oed Affricanaidd neu Wyddelig - o'r diwedd rydym yn gallu mwyngloddio o'n traddodiad ein hunain. Mae na rywbeth yn digwydd yn sicr - does dim ond rhaid edrych ar y nifer o artistiaid Cymraeg oedd ar lwyfan Gwyl Y Dyn Gwyrdd y llynedd. Dwi o hyd wedi dweud fod creu "sin" yn holl bwysig. Wrth gwrs mae pawb o hyd yn gwadu unrhyw "sin" boed yn un "tanddaearol" neu "cwl Cymru" ond dyna sydd yn creu'r momentwm a'r cynnwrf. Cefais fy magu yn yr un ardal a Linda Plethyn a Sian James Notable people named Sian James include:
Y ffaith amdani oedd fy mod angen rhedeg i Paris a gweld Wal Berlin a rhoi safetypin drwy drwyn y Frenhines - mae na rhai sydd yn gorfod gwrthryfela... yn anffodus does fawr o ddewis yn y peth. Does dim gwerth edifaru ond wrth gwrs dwi'n gallu edrych yn ol a gweld piti na fyddai wedi bod yn bosib cyfuno'r plygain a'r pop yn ol ym 1982. Wedi'r cwbl, dyma'r union amser roedd Malcolm McLaren yn cyfuno hip hop hip-hop or hip hop n. 1. A popular urban youth culture, closely associated with rap music and with the style and fashions of African-American inner-city residents. 2. Rap music. adj. ac alawon o'r Appalachians, a chylchgrawn The Face yn dod a ffasiwn a pop ar yr un tudalennau. Dyna'r oll oeddwn i isho weld - y Gymraeg ar yr un lefel diwylliannol, yr un mor gyffrous, yr un mor hip a cwl. Ar y llaw arall, er fod modd ymyrryd yn ddiwylliannol ac er fod mod creu digwyddiadau a hyd yn oed "sin" y gwir amdani yw fod yr afonydd diwylliannol yn torri cwrs unigryw eu hunain ac yn datblygu'n organig ac yn "afresymol ac afreolus" yn hynny o beth. Yn wir, twf organig yw'r twf iachaf, a'r un sydd fwyaf tebygol o barhau ac o ddwyn ffrwyth. Nid fy lle i yw i ddamcaniaethu pam fod y twf gwerinol diweddar wedi digwydd - yn wir, dathlu'r ffaith sydd ei angen, a'i gefnogi yn sicr. Ond di'r pam a sut ddim yn bwysig. Rhaid derbyn mae rwan di'r amser, ac ar nos Wener Ionawr 16 bydd casgliad o artistiaid gwerin cyfoes Cymraeg yn dod ynghyd a phartion plygain lleol o ogledd Sir Drefaldwyn yn Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa i ganu'r hen garolau. Bydd artistiaid cyfoes fel 9 Bach, Katell Keineg Katell Keineg (born February 1965), is a Breton-Welsh singer-songwriter, based in Dublin and New York. Early life Born in Brittany and raised in Cardiff, Wales, Katell Keineg is the second child and only daughter of Breton poet and playwright Paol Keineg and his wife, , Lleuwen Steffan, Brigyn a Gareth Bonello yn ail-ddehongli carolau plygain. Mae'n siwr bydd ambell offeryn annisgwyl ac anarferol i'r plygain a threfniant radical yn ysgwyd seiliau'r hen Eglwys. Ar y llaw arall bydd yna garfan gref o blygeinwyr lleol yn cadw'r cyd-bwysedd ac ambell un yn cadw'r hen, hen draddodiad a'r fflam yno yn fyw ac yn iach. Mae angen hyn hefyd, cymaint a sydd angen ymyrraeth 9 Bach! Drwy garedigrwydd y gymdeithas werin Trac bydd hefyd gyfle i'r artistiad gwerin cyfoes gydweithio gyda phlygeinwyr Maldwyn mewn nifer o weithdai - yr hen a'r newydd, y traddodiadol a'r arbrofol yn asio'n gelfydd. Yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol hyd yma yw fod y ddwy garfan mor frwdfrydig - yr artistiaid gwerin cyfoes yn awyddus i arbrofi a'r garfan draddodiadol mor groesawgar - felly fe wela i chi yn Llanfihangel nos Wener gobeithio. MAE RHYWUN YN CAEL TEIMLAD PENDANT FOD Y BYD GWERIN CYMRAEG WEDI EI ADFER A'I GICIO ALLAN O'I DRWMGWSG CAPTION(S): Canu plygain yn Llanfihangel - fe gymerodd hyd at fy 45ed mlynedd ar y ddaear yma cyn i mi fentro yno |
|
||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion