Printer Friendly
The Free Library
19,607,059 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Cyffro'r cystadlu mewn cyngerdd campus.


'DWI'N gwybod sut maen nhw'n teimlo," meddai'r gantores, gyfansoddwraig, ac yn awr, cyflwynydd, Elin Fflur, wrth son am gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel The Welsh baritone Bryn Terfel, CBE (IPA: [brɨn ˈtɛrvɛl]; born November 9, 1965) is a well-known contemporary opera and concert singer. .

Bydd cyngerdd arbennig yn cyflwyno perfformiadau gan y chwe pherson ifanc sy'n cystadlu am yr ysgoloriaeth eleni yn cael ei darlledu ar S4C S4C skate for cancer
S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) 
 nos Sul. Elin fydd y tu cefn i'r llwyfan yn Neuadd y Stiwt, Rhosllannerchrugog, yn sgwrsio a'r cystadleuwyr ac yn cyfleu awyrgylch y digwyddiad.

Cyflwynydd arall y noson yw Rhodri Owen Rhodri Owen (born 1972 in Three Crosses, Gower, Swansea) is a Welsh born and speaking television presenter. Biography
Owen was brought up in Gower, Swansea[1] in a Welsh language speaking family, which is his first language.
.

"Mae'n beth newydd i mi, ond mi rydw i wedi mwynhau cyflwyno'r gyfres gerddorol Nodyn, ac rwy'n edrych ymlaen at noson yr ysgoloriaeth," meddai Elin, sy'n byw yn Llanfairpwll ar Ynys Mon.

"Mi fyddai'n teimlo'n nerfus, ond dwi'n gwybod sut beth ydi o i gystadlu. Mi fues i'n cystadlu mewn eisteddfodau pan oeddwn i'n ifanc, a dwi dal yn teimlo'n nerfus wrth gamu ar lwyfan. Dwi'n meddwl fod hynny'n wir am bob perfformiwr, oherwydd bod chi ddim yn gwybod sut mae'r gynulleidfa am ymateb.

"Ac wrth gwrs, bydd cystadleuwyr yr ysgoloriaeth hefyd yn wynebu panel o feirniaid sy'n rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw. Dwi'n teimlo drostyn nhw."

Oes ganddi air o gyngor? "Gwnewch yn siwr eich bod chi wedi paratoi'n drylwyr, sy'n eich galluogi wedyn i fod yn hollol hyderus. Ewch amdani!"

Mae'r chwech wedi cyrraedd llwyfan Cyngerdd yr Ysgoloriaeth drwy ennill eu cystadlaethau unigol yn Eisteddfod eisteddfod (īstĕth`vəd, –vôd) [Welsh,=session], Welsh competitive festival. Contests traditionally are held in all the arts and crafts, with special emphasis on music and poetry.  Genedlaethol yr Urdd eleni. Bydd enillydd yr ysgoloriaeth yn cael pounds 4,000 a'r cyfle i berfformio gyda Bryn Terfel ei hun yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, ym mis Mai'r flwyddyn nesaf, i agor Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Urdd Gobaith Cymru, literally, the Welsh League of Hope, but normally translated as the Welsh League of Youth, or merely referred to as the Urdd, is a Welsh-medium youth movement with over 1,500 branches and over 50,000 members (as of 2006).  Bae Caerdydd 2009.

Y chwe chystadleuydd fydd yn ceisio creu argraff ar y beirniaid eleni yw Elen Gwenllian o Gaernarfon, Elliw Mai o Riwlas ger Bangor, Glesni Fflur o Lanfor ger Y Bala, Mared Emlyn o Eglwys Bach, Conwy, Rhian Lois Evans o Bontrhydygroes, Ceredigion a Tudur Phillips o Fryn Iwan ger Caerfyrddin.

Y prifardd Tudur Dylan Jones yw cadeirydd panel y beirniaid, a gweddill aelodau'r panel yw'r cyfansoddwr a'r arweinydd Brian Hughes; y pianydd Llyr Williams; yr arbenigwr cerdd dant a chanu gwerin, Leah Owen; yr arbenigwr dawns Prydwen Elfed Owens; yr athro drama Peter Davies; a'r arbenigwr llefaru Sian Teifi.

Yn y cyfnod yn arwain at y cyngerdd, mae'r cystadleuwyr wedi mynychu gweithdai gyda thiwtoriaid arbenigol. Bydd cyfle i ddilyn eu hymarferion mewn rhaglen heno.

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2008 S4C, heno, 9.45pm; Cyngerdd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2008 S4C, nos yfory, 8.30pm (s4c.co.uk/cerddoriaeth)

CAPTION(S):

Elin Fflur
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 20, 2008
Words:417
Previous Article:Falling under Merlin's spell; MERLIN tonight, BBC1, 7.30pm MERLIN - THE LEGEND, tonight, BBC2 Wales, 8.15pm.
Next Article:CYMRO YN CURO MEWN CORLAN; Gwenan Davies yn cwrdd a enillydd Treialon Cwn Defaid y Byd 2008.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles