Printer Friendly
The Free Library
19,607,059 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Cwmpasu gwyddoniaeth a chelfyddyd mewn un; 'Plastination transforms the body, an object of individual mourning, into an object of reverence, learning, enlightenment, and appreciation'.


Byline: RHYS Rhys   , Jean Originally Ellen Gwendolen Rees Williams. 1894-1979.

West Indian-born British writer known for Wide Sargasso Sea (1966), a novel based on the character of the first Mrs. Rochester in Charlotte Brontë's Jane Eyre.
 MWYN

EFALLAI fod rhywbeth arwyddocaol yn y ffaith mai yn Siapan yn ol ym 1995 yr arddangosodd Gunther von Hagens Gunther von Hagens (b. Gunther Liebchen, January 10, 1945) is a controversial German anatomist who invented the technique for preserving biological tissue specimens called plastination.  'Body Worlds' am y tro cyntaf.

Efallai fod yma agwedd ddiwylliannol wahanol tuag at farwolaeth neu efallai fod y Siapaneaid yn fwy parod i fentro lle mae'r Gorllewin ofn? Ond ers 1995 mae mwy na 25 miliwn o bobl wedi gweld yr arddangosfa mewn dinasoedd yn Ewrop, Asia a Gogledd America America [for Amerigo Vespucci], the lands of the Western Hemisphere—North America, Central (or Middle) America, and South America. The world map published in 1507 by Martin Waldseemüller is the first known cartographic use of the name.  felly os oedd arwyddocad i'r man cychwyn, does neb yn cofio bellach.

Mae gennyf ryw gof fod yna ychydig o gynnwrf wedi bod am y sioe, wedi'r cwbl nid pob dydd mae rhywun yn arddangos cyrff go iawn, a doeddwn i ddim yn siwr os oedd hyn i fod yn "gelf" neu rhywbeth "addysgiadol" ond a bod yn hollol onest wnes i ddim meddwl am y peth tan wythnos dwetha.

Oedd 'Body Worlds' yn dod i Gymru medda chi? Wel na yw'r ateb syml i hynny ond mi oedd y sioe yn dod i'r Amgueddfa Wyddoniaeth a Thechnoleg (MOSI MOSI Museum of Science and Industry (various locations)
MOSI Master Out Slave In (Serial Peripheral Interface)
MOSI Morocco Singapore
) ym Manceinion ac mae hynny'n ddigon agos i benderfynu mynd draw!

Gan fod yr arddangosfa yn y MOSI dwi'n credu fod y cwestiwn cyntaf wedi cael ei ateb. Arddangosfa wyddonol ac addysgiadol yw hon ac nid rhyw stynt Damian Hirst-aidd o biclo pysgodyn er mwyn creu cynnwrf.

Wel ie, ond does dim dwywaith fod van Hagens yn deall sut i weithio'r cyfryngau. Does ond rhaid edrych ar lun o Hagens yn ei het - mae'n efelychiad o'i fodelau, gydag esgyrn ei fochau yr un mor amlwg.

A'r enw, von Hagens - onid yw hynny yn syth yn awgrymu rhywun o'r un meddylfryd a Van Helsing neu Frankenstein, cymeriad Hammer, cyfaill i Count Dracula Count Dracula is a fictional character, the titular antagonist of Bram Stoker's 1897 Gothic horror novel Dracula. Some aspects of the character may have been inspired by the 15th century Wallachian Prince, Vlad III the Impaler.  a Bela Lugosi?

Y peth cyntaf oedd rhaid ei wneud wrth gyrraedd MOSI oedd ymuno a'r rhes o bobl oedd yn disgwyl am docynnau, sefyll yno am rhyw hanner awr go dda a wedyn archebu tocyn ar gyfer rhyw awr a hanner yn ddiweddarach er mwyn cael mynediad.

Wedyn cawsom ein heidio mewn i ystafelloedd gor-boeth yn y nenfwd gyda gormod o bobl, dan draed ei gilydd, yn gwthio i gael gweld a darllen.

Dyma un broblem hefo unrhywbeth rhy boblogaidd, gormod o bobl.

Os ewch chi i Gor y Cewri neu rhywle fel Calanish, mae 'na o hyd ormod o bobl.

Pobl heb wir ddiddordeb, yr anwariaid sydd yn darllen y Sun, ddim hyd yn oed yn gwybod pam maent yno ond fod angen rhoi tic tic: see spasm.
tic

Sudden rapid, recurring muscle contraction—usually a blink, sniff, twitch, or shrug—always brief, irresistible, and localized. Frequency decreases from head to foot.
 yn y bocs, y math o bobl sydd isho "fish and chips fish and chips
pl.n.
Fried fillets of fish and French-fried potatoes.

Noun 1. fish and chips - fried fish and french-fried potatoes
dish - a particular item of prepared food; "she prepared a special dish for dinner"
" yn Ffrainc a sydd yn credu fod Ben Elton Benjamin Charles Elton (born 3 May1959) is an English comedian, writer and director.

Born in Catford, London, he is the son of the physicist and educational researcher Lewis Elton and the nephew of the historian Sir G R Elton.
 yn ddoniol.

Petae hi ddim mor annioddefol o boeth mi fyddwn wedi aros yn ol a gadael i bawb arall fynd o fy mlaen, ond argian dan roedd rhywun yn toddi, felly doedd dim dewis ond "gwneud y Mona Lisa" gobeithio am y gora, gweld be welith rhywun a darllen hyn a hyn.

Pleserus? Nagoedd.

Diddorol? Oedd yn sicr.

Yr hyn a'm trawodd yn syth oedd pa mor annaturiol oedd golwg y cyrff.

Roedd yn ofnadwy o anodd derbyn fod rhain yn gyrff go iawn wedi eu cadw mewn hylif o blastig.

Dim am un eiliad oedd rhywun yn cael y teimlad fod rhywun yn rhannu ystafell hefo hanner cant o gyrff marw.

Does dim cymhariaeth er enghraifft hefo'r cyrff dan ddaear ym Mharis neu hyd yn oed hefo dychmygu rhannu ystafell hefo'r ysbrydion yn Bryn Celli Ddu Bryn Celli Ddu is a prehistoric site on the Welsh island of Anglesey located near Llanddaniel Fab. Its name is difficult to translate directly but means either 'the mound in the dark grove' or possibly 'the mound in the grove of the deity'. .

Yn sicr doedd dim teimlad o dactegau sioc Damian Hirst ac yn sydyn iawn roedd rhywun yn dechrau dysgu, ie dysgu nid dychryn.

Addysg nid celf.

Y peth cyntaf wrth gwrs oedd gweld cyrff heb y croen, gweld y cyhyrau ond wedyn roedd von Hagens wedi torri cyrff yn yr un ffordd ac y byddai rhywun yn torri cig ac eto mewn ffordd hollol ddi-sioc yn dangos cyfansoddiad y corff.

Diddorol iawn ac eto, ddim am eiliad yn ddychrynllyd mewn unrhyw ffordd.

Un o'r eitemau mwyaf diddorol oedd dau ysgyfaint, un iach ac un yn perthyn i rhywun oedd wedi ysmygu; fel gallwch ddychmygu, yr un iach yn wyn a'r un llai iach yn ddu.

Yr unig ran o'r arddangosfa oedd yn gofyn i ni feddwl am ein moesoldeb go iawn oedd y babis bach heb eu geni. O ychydig wythnosau (smotyn bach gwyn tebyg i benbwl) i fabis 12 wythnos oed (edrych fel babi), 24 wythnos oed (edrych fel babi go-iawn).

Yma roedd rhywun yn sylweddoli goiawn beth ydi oblygiadau erthylu yn 24 wythnos oed.

Weithiau mae'n haws peidio edrych a pheidio meddwl ond beth mae von Hagens wedi ei wneud yw dal y drych o flaen ein llygaid, does dim modd troi i ffwrdd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwynhau yr arddangosfa ar y cyfan.

Nes i ddim mwynhau rhannu'r ystafell hefo'r holl bobl ond fel gyda Cor y Cewri dydi hynny ddim yn lleihau'r wefr o weld, ond mae o'n lleihau'r pleser o ran cael amser i feddwl a gwerthfawrogi.

Dyna ni, nol at wlad a thref mewn ffordd; dyna'r pris mae'n rhaid ei dalu mae'n debyg.

Doedd dim byd yn od wedyn croesi'r ffordd a mynd am bryd Siapaneaidd mewn bwyty bach cyfagos yn ardal Castlefield a cherdded wedyn draw at y gamlas a Giat Deansgate a'r hen adfeilion Rhufeinig. Mor braf oedd gweld pobl, a theuluoedd yn benodol, allan o amgylch bars a'r bwytai yn ardal y gamlas. Pobl o bob tras, tref gosmopolitaidd ....... ahhh.

Cefais fy atgoffa o fy ieuenctid yn awchu am awyrgylch Dwyrain Berlin, Amsterdam a Gorllewin Belffast - ychydig o egni neu "vibe" fel da ni'n ddweud yn y Byd This article or section contains information about scheduled or expected future events.
It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available.
 Pop.

Dwi ddim isho byw yn y Ddinas ond weithiau mae'r Ddinas yn braf - os ond am bnawn Sadwrn. Mae'r Ddinas yn ein hatgoffa o bopeth sydd ddim ganddom yng Nghymru, diwylliant stryd a diwylliant caffi, pob lliw croen a iaith a'r modd i fynd i'r theatr neu amgueddfa neu i weld band byw unrhyw noson o'r wythnos...... dwi isho ychydig o hynny.... ond os am weld 'Body Worlds' Manceinion

Diddorol iawn ac eto, ddim am eiliad yn ddychrynllyd mewn unrhyw ffordd

CAPTION(S):

Ymwelwyr yn edrych ar yr arddangosfa pan oedd yn Llundain
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jun 18, 2008
Words:1024
Previous Article:'Gan fod yr hawliau gennym, waeth inni eu defnyddio ddim'.
Next Article:Cyfle i ser y dyfodol ennill DVD o'n hoff ganeuon.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles