Printer Friendly
The Free Library
19,607,059 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Crefft sydd angen dawn dweud... a chlust bardd; Oes 'na'r fath beth a hiwmor Cymreig, neu hyd yn fwy lleol na hynny? Bu Tudur Huws Jones holi arbenigwr ar y pwnc - y digrifwr Idris Charles.


Byline: Idris Charles Charles, archduke of Austria
Charles, 1771–1847, archduke of Austria; brother of Holy Roman Emperor Francis II. Despite his epilepsy, he was the ablest Austrian commander in the French Revolutionary and Napoleonic wars; however, he was handicapped by
 

A C yntau'n enwog am dynnu coes, byddai'n hawdd iawn credu mai pryfocio y mae Idris Charles pan mae'n dweud nad yw'n hoffi llyfrau jocs.

Mae rhywun yn amau hynny'n fwy o ddeall mai yn rhagair ei lyfr newydd y mae'n dweud hynny, ac ydach, rydach chi'n iawn, llyfr jocs ydi hwnnw!

Mae clywed digrifwr yn cyfaddef nad yw'n hoffi llyfrau jocs (a hynny mewn llyfr jocs) bron Bron is a new town in France, approximately 10 km to the east of Lyon. It is a commune Rhône département and the Rhône-Alpes région of France. It is the sixth-largest suburb of the city of Lyon, and is adjacent to its east side.  fel clywed gweinidog yr efengyl yn dweud nad yw'n hoffi llyfrau emynau.

Felly sut mae Idris, sy'n fab i un o'r digrifwyr gorau welodd Cymru erioed, - yr enwog Charles Williams There have been a number of notable people named Charles Williams: United Kingdom
  • Sir Charles Hanbury Williams (1708–1759), a British Member of Parliament and satirist.
 wrth gwrs - yn egluro'r gosodiad?

"Wel, mae'n well gen i glywed joc yn hytrach na'i darllen. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol bwysig fod joc yn cael ei disgrifio'n dda mewn print ac yn cael ei dweud yn dda ar lafar," meddai.

A cheisio rhoi darlun byw o'r gwahanol gymeriadau y mae o yn ei gyfrol - Hiwmor Idris a Charles - rhan o gyfres Ti'n Jocan, o wasg Y Lolfa.

Ond oes 'na ffasiwn beth a hiwmor Cymreig, neu hyd yn oed hiwmor fwy lleol na hynny, holais.

"Dwi ddim siwr a oes 'na'r fath beth a hiwmor Cymreig, ond mae'n bwysig os wyt ti'n sgwennu neu o flaen cynulleidfa dy fod yn uniaethu efo'r gynulleidfa honno. Hynny yw, bod y gynulleidfa'n gwybod ambe wyt ti'n son - pwy ydi'r cymeriadau sydd yn dy joc di - dyna sy'n bwysig a dyna sy'n cael pobl i chwerthin.

"Er enghraifft, dwi'n cofio gwneud noson yn Llangefni rhyw dro, ac roedd petha braidd yn fflat i ddechrau. Felly be wnes i wedyn oedd rhoi enwau cymeriadau lleol i'r bobl yn y jocs, ac wrth wneud hynny roedd y gynulleidfa'n eu hadnabod yn syth, ac fel pe baen nhw'n clywed y bobl yma'n siarad.

"Ond yn yr un modd, mae lot o'r straeon yn y llyfr yn rhai dwi wedi eu clywed gan fy nhad, ac ydyn nhw'n wir neu oes na liw fy nhad arnyn nhw, dwi ddim yn gwybod?"

Yn ol Idris mae adnabod ei gynulleidfa a gwneud ymchwil ymlaen llaw yn hollbwysig i unrhyw ddigrifwr.

"Fy arwr mawr, Bob Monkhouse Robert Allen Monkhouse OBE (June 1, 1928 – December 29, 2003) was a British entertainer in the traditional sense, though primarily known as a comedian and game show host. , ddwedodd unwaith, 'know your audience', a hefyd os nad ydy'r gynulleidfa'n chwerthin, ar y digrifwr mae'r bai.

"Roedd ganddo fo bedair act wahanol i siwtio gwahanol sefyllfaoedd neu gynulleidfaoedd. Ac roedd o'n gwybod ar ol dweud dwy joc sut fath o gynulleidfa oedd hi. Dwi ddim yn mynd i'r graddau yna ond os ydwi'n mynd i rywle fel Blaenau Ffestiniog Blaenau Ffestiniog is a small town in North Wales. It has a population of 4,830 according to the (2001 census). Geography
Located in the mountains of Snowdonia, the town was once a major centre of the slate mining industry.
 yna'n sicr mi fydd rhaid cael jocs amchwarelwyr er enghraifft.

"Rydach chi'n gweithio rownd y peth ac addasu jocs ar gyfer lle a'r lle.

"Mae rhai digrifwyr yn deud "O mi es i lawr yn wael yn lle a'r lle, ond yn well yn lle arall.' Ond dydy hi'n da i ddim dweud jocs am ffarmwrs yn Gaerdydd, er enghraifft, dydi o ddim yn mynd i weithio. Mae angen gwneud ymchwil i ffeindio be sy'n poeni pobl Caerdydd - be 'di'r problemau, be 'di'r pynciau llosg ac yn y blaen. Wedyn mae modd addasu'r deunydd ar gyfer y sefyllfa.

Dyna'r ffordd dwi wedi gweithio a dyna'r ffordd dwi'n meddwl y dylai pob digrifwr weithio."

Yn ogystal a bod yn rhan o dim cynhyrchu'r rhaglen Wedi 7, mae Idris yn dal i sgwennu ar gyfer digrifwyr eraill yn cynnwys comediwyr Saesneg fel Cannon and Ball Cannon and Ball are an English comedy double act consisting of Tommy Cannon and Bobby Ball. The duo met in the early 1960s while working as welders in Oldham and began working the pubs and clubs of Lancashire. , a Joe Pasquale Joe Pasquale (born Joseph Ellis Pasquale, 20 August 1961) is an English comedian from Grays, Essex, arguably most famous for his high-pitched voice, use of visual gags and more recently being crowned "King of the Jungle", on the ITV reality TV show .

Ond fedr rhywun ddysgu deud jocs? "Mi wnes i gyd-gynhyrchu tair cyfres o Y Jocars, a'r hyn oeddwn i'n sylwi yn y gwrandawiadau oedd fod nifer yn gallu dweud jocs oeddan nhw'n wybod, ond roeddan nhw'n methu pan oedd gofyn iddyn nhw ddweud jocs oedd wedi cael eu sgwennu ar gyfer y gyfres.

"Mae'n rhaid cael y ddawn i weld y peth. Mae digrifwr da fel bardd. Mae bardd yn clywed swn y geiriau, mae'n clywed y farddoniaeth ac mae'n ru'n fath efo jocs!

"Mae 'na eiriau allweddol ymmhob joc, ac mae'r rhain yn eithriadol o bwysig. Os ydach chi'n son amJohn Roberts sy'n gloff er enghraifft, mae'n rhaid gwneud yn siwr fod y gynulleidfa'n deall ei fod o'n gloff ac actio'r peth er mwyn iddo fo weithio.

"Mae gen i gwpwl o jocs am hen ferch heb gael gwr. Mae'n bwysig ail ddweud y gair allweddol - 'ac mi oedd yr hen ferch ma...', neu roi ansoddair i mewn - 'Mrs Jones - hen globan flin'. Mae'r gynulleidfa'n gweld y cymeriad wedyn.

"Hefyd mae'n rhaid cael dawn i lefaru'r geiria ac i bwysleisio'r geiriau allweddol."

Mae'n amlwg yn gwybod ambe' mae o'n son, achos yn ogystal a dal i sgwennu i ddigrifwyr fel Jimmy Cricket Jimmy Cricket (born James Mulgrew 17 October 1945 in Cookstown, Northern Ireland) is a comedian. Early life and career
He left school at 16 and spent the next two years working in a betting shop, before spending the summer of 1966 working as a Red Coat in Butlins Holiday
, roedd yn un o'r tim ysgrifennu ar gyfres Shane Richie Shane Richie (born Shane Patrick Roche, 11 March 1964) is an English actor, comedian, singer and television presenter. Richie is probably best known for playing Alfie Moon in the BBC One soap opera EastEnders. , ddiwedd yr 80au - You've got to be joking. "Tasa chi'n gofyn i mi sgwennu pedair joc, mi faswn i'n ei chael hi'n anodd.

"Ond pan 'dach chi'n nabod y cymeriadau rydach chi'n sgwennu ar eu cyfer nhw, mae'n llawer haws. Fel Cannon and Ball. Rydach chi'n gallu eu 'clywed' nhw yn eich meddwl, yn dweud y joc. Yn yr un modd mi faswn i'n dychmygu ei bod hi'n haws ysgrifennu ar gyfer un fel Tommy Cooper.

"Mi faswn i'n cael trafferth sgwennu pedair joc, ond petai rhywun yn dweud dwi'n mynd i briodas ac mae'r boi yn ddreifar lori a'i ddarpar-wraig o'n ysgrifenyddes efo hwn a hwn, wel mi faswn i'n gallu sgwennu pedair joc i chi wedyn yn llawer haws."

Mae'n gwestiwn y mae pawb yn ei ofyn iddo, ac mae hynny'n debyg o barhau tra bydd yr anfarwol Charles Williams yn dal yn fyw yn y cof, ond faint faint (fant) syncope.

faint
n.
An abrupt, usually brief loss of consciousness; an attack of syncope.

adj.
Extremely weak; threatened with syncope.
 o ddylanwad oedd ei dad ar Idris?

"Enfawr," ydi'r ateb pendant pendant
 or pendent

In architecture, a sculpted ornament suspended from a vault or ceiling, especially an elongated boss (carved keystone) at the junction of the intersecting ribs of the fan vaulting associated with the English Perpendicular style.
.

"Ond wedi deud hynny roedd rhaid i mi dorri fy nghwys fy hun hefyd. Roedd fy nhad yn ddigrifwr yn y 40au. Roeddwn i'n ddigrifwr yn y 70au a'r 80au, ac erbyn hynny roedd yr arddull a'r stwff wedi newid.

"Ond mi oedd o wedi rhoi rhywbeth i mi mae'n rhaid - mi ddysgais sut i drin cynulleidfa, ac roedd o'n gefnogol iawn. Mi fydda fo'n dweud 'Tria hi fel hyn yli'. 'O pam felly?' 'O, oherwydd peth a'r peth yli...'"

Wedi eu gwau ymhlith jocs Idris yn y gyfrol, mae rhai o straeon Charles, ac mae'n amlwg fod synnwyr digrifwch miniog yn rhedeg yn y teulu.

Na, dydi o ddim yn ffan mawr o lyfrau jocs, ond mae ganddo air o gyngor i ddarllenwyr serch hynny.

"Pethau i'w hadrodd nid eu darllen ydi jocs, ac mi fedr pobl fynd trwy lyfr jocs a chwerthin dim. Ond tasa nhw'n mynd drwy'r llyfr yn gwrando ar ddigrifwr yn eu dweud nhw, mae'n fater gwahanol wedyn - yn y deud mae o. A fy nghyngor i ydi iddyn nhw drio 'gwrando' ar Charles, neu finnau yn eu dweud nhw. Maen nhw'n gweithio'n llawer gwell wedyn."

IDRIS:

Boi 'ma'n galw i mewn i swyddfa cyfreithiwr a gofyn faint fasa fo'n godi amateb tri cwestiwn.

"O," medda'r cyfreithiwr. "Pumcan punt."

"Bobol mawr," medda'r boi, "'di hynna ddim yn ddrud 'dwch?"

"Yndi," medda'r cyfreithiwr, "a be ydi'ch trydydd cwestiwn chi?"

CHARLES

Gweinidog yn deud wrth Tomos Robaits, "Pam na rowch chi'r gora i'r ddiod feddwol, y smocio, a'r rhegi?"

"Mae'n rhy hwyr mae arna i ofn," medda Tomos.

"Na na, dim o gwbwl, dydy hi byth yn rhy hwyr," medda'r gweinidog.

"O," medda Tomos. "Does 'na ddim brys felly, nagoes?"

CAPTION(S):

Idris Charles sy'n datgelu rhai o gyfrinachau'r digrifwr yn Hiwmor Idris a Charles; Y Lolfa; pounds 4.95. Llun bach: Charles Williams yn cymryd rhan yn y gyfres Hufen a moch bach
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jan 2, 2008
Words:1256
Previous Article:LLYTHYRAU: Eli hanfodol.
Next Article:A wyddoch chi... Y CELFYDDYDAU.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles