Creaduriaid bach rhyfedd yn yr ardd.HOFFWN i chwi weld be ddois i ar ei draws yn yr ardd wythnos yn l - creadur bach digri iawn. Welais i ddim byd o'r fath erioed o'r blaen, ac roeddwn braidd ei ofn, oherwydd roeddwn yn meddwl taw neidr fechan oedd o (a coeliwch fi, rwyf ofn nadroedd. Pam, Duw a weyr, ond mae gan lawer o bobl ffobia onid oes?) O wneud dipyn o ymchwil credaf mai gwyfyn ydi'r creadur yma, a'r enw Saesneg arno yw Elephant elephant, largest living land mammal, found in tropical regions of Africa and Asia. Elephants have massive bodies and heads, thick, pillarlike legs, and broad, short padded feet, with toes bearing heavy, hooflike nails. Hawk Moth hawk moth or sphinx moth Any moth of the lepidopteran family Sphingidae. Found worldwide, these stout-bodied moths have long, narrow forewings and shorter hind wings, with wingspans ranging from 2 to 8 in. (5–20 cm). , ac mae o mor fendigedig o dlws ar l dod o'r cocoon cocoon: see pupa. oedd amdano. Mae'n binc a gwyrdd golau, pwy fasa'n meddwl bod creadur mor ryfedd yn newid i fod mor ryfeddol o hardd. Rwyf wedi rhoi hances wen tu l iddo er mwyn tynnu ei lun. Sylwch ar y ddwy lygaid fawr, ond nid dyna ydynt ond smotiau i ddychryn unrhyw beth rheibus ddaw ato. Buaswn wrth fy modd yn ei weld yn deor. Roedd tri ohonynt wrth y goeden ffiwsia r'un pryd. Tydi natur yn rhyfeddol dywedwch? Leri Roberts, Porthmadog YR wythnos ddiwethaf tynnwyd fy sylw at ryw ryfeddod yn yr ardd gefn. Wedi sylwi yn fanwl, gwelwn beth edrychai fel Siani Flewog - y fwyaf a welais erioed. Roedd tua dwy fodfedd a hanner o hyd ac mor dew bys fy llaw. Roedd ei phen yn dewach hyd yn oed, gyda dwy lygaid, a'r rheiny mor fawr nes bod allan o bob cyfartaledd gweddill y corff. Rhyw frown/lwyd oedd y lliw, heb ddim marciau neilltuol arni. Os cywir fy nghred mai Siani Flewog a welais, pa rywogaeth - gloyn byw neu wyfyn - a ddatblygai ymhellach o'r fath greadur? Buasai nodyn yn y Daily Post Cymraeg o gymorth mawr i glirio'r dirgelwch. Henry Williams
|
|
||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion