Comedi, Kath a Chwmderi; Cof io yn holi'r actores Siw Hughes.Byline: Gan CATRIN MORGAN MAE (1) (Metropolitan Area Exchange) Originally known as Metropolitan Area Ethernets, MAEs are junction points on the Internet where data is exchanged between carriers. See IXP and NAP. S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) yn parhau i Grwydro Cymru''r wythnos hon wrth i raglen Cofio, sy'n rhannu atgofion gyda ffigurau amlycaf Cymru drwy sgwrs ac ambell i glip o raglenni teledu o'r archif, edrych ar fywyd a gwaith actores adnabyddus. Yn y bennod nesaf nos Lun bydd Heledd Cynwal yn holi Siw Hughes Siw Hughes (born Bangor, Gwynedd) is a Welsh television actress best known for playing the character of Kathleen Jones in the Welsh soap Pobol y Cwm from 1993 to present. , sydd wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu dros y blynyddoedd gan gynnwys Ffalabalam, Heno Heno, Caryl a Codi Pais. Er hynny, mae'n debyg mai am ei rhan fel y cymeriad hynod boblogaidd, Kath Jones, yn y gyfres Pobol y Cwm Pobol y Cwm (People of the Valley) is a Welsh language television soap opera produced by the BBC since October 1974. It is the longest-running television soap opera produced by the BBC, transmitted on BBC Wales television between 1974 and 1982 and then transferred y mae Siw yn fwyaf adnabyddus. Ond sut brofiad oedd chwarae un o gymeriadau enwocaf Cymru? "Roedd chwarae rhan Kath fel gwisgo hen br o esgidiau erbyn y diwedd," meddai Siw a ddaw o Ynys Mn yn wreiddiol. "Wnes i ddim disgwyl y byddai hi'n para 15 mlynedd! Roedd yn fraint chwarae''r rhan a chael gwerthfawrogiad," ychwanega Siw. Yn ystod y rhaglen cawn glywed hanes difyr yr actores, o'i phlentyndod i'w gyrfa lewyrchus fel actores a sawl tro trwstan ar y ffordd. Fel pan dorrodd Siw a'i ffrindiau i mewn i'w hysgol, Ysgol Gyfun Llangefni Ysgol Gyfun Llangefni is the comprehensive school in the west of Llangefni, Anglesey. Opened in around 1953, it has 840 students [2]. Famous alumni include opera tenor Gwyn Hughes Jones, TV and radio personality Hywel Gwynfryn and singer and radio personality Meinir Gwilym. , yn Nhachwedd 1973, ar ddiwrnod priodas y Dywysoges Anne a'r Capten Mark Phillips This article is about the former husband of Princess Anne, The Princess Royal. For other people named Mark Phillips, see Mark Phillips (disambiguation). Captain Mark Anthony Peter Phillips . "Penderfynodd criw bach ohonom dorri mewn i'r ysgol i ddangos ein protest bod yr ysgolion wedi'u cau i ddathlu'r briodas," meddai Siw. "Y cyd-destun oedd yr holl ymgyrchu dros yr iaith yn y cyfnod hwnnw. Roeddem ni yn ein harddegau ac eisiau gwneud ein rhan a ddim yn siwr iawn sut i wneud hynny, sut i ddiffinio'n hunain ac yn meddwl 'Mae hwn yn gyfle i dynnu sylw. Priodas Frenhinol Brydeinig - mae hyn yn sarhad arnom ni fel cenedl!'" Wrth sgwrsio Heledd fe fydd Siw hefyd yn hel atgofion am ddechrau ei gyrfa fel actores, gyrfa a ddechreuodd drwy gystadlu mewn Eisteddfodau cyn rhoi sawl perfformiad i gwsmeriaid a ddaw heibio'r siop yr oedd ei mam a'i thad yn berchen arni yn Llangefni. Datblygodd ei gyrfa wrth iddi ennill sawl rhan, a phrofi ei bod yn gallu troi ei llaw at sawl rl amrywiol - o''r ffilm gomedi Ibiza Ibiza gyda Caryl Parry Jones i gymeriadau ychydig yn ddyfnach ar lwyfannau theatr ar hyd a lled Cymru. Er amrywiaeth ei chymeriadau, mae Siw yn mynnu nad oedd hi''n hoffi''r un rhan, yn gomedi neu ar raglen plant, yn fwy na'r llall. Mae wedi mwynhau cael gwneud y cyfan. Ond mae'n cyfaddef mai chwarae penteulu'r Jonesiaid yng Nghwmderi am 15 mlynedd a brofodd yr her fwyaf iddi, ac a ddaeth gwobr Bafta Cymru iddi ym 1995. Ond, a hithau'n wraig brysur ar y naw, tybed beth sydd nesaf yng ngyrfa Siw? "Mae gen i ambell haearn yn y tn," meddai, "ond mi fyddai'n well i mi beidio sn gormod gan nad oes dim wedi ei gadarnhau eto." Tybed a oes gobaith i Kath Jones ddychwelyd i Gwmderi o Bortiwgal yn fuan? "Mi fyddai'n grt os byddai Kath yn dychwelyd wrth gwrs oherwydd ei bod hi'n gymeriad mor lliwgar, ond pwy a weyr?" . Why did actress Siw Hughes break into her school, Ysgol Gyfun Llangefni, on the day of Princess Anne's wedding to Captain Mark Phillips in November 1973? The actress, best-known as sharptongued Kath Jones in daily drama Pobol y Cwm, explains all in Cofio this week as she talks to Heledd Cynwal about her upbringing, career and some of her favourite moments. COFIO S4C, nos Lun, 9pm. English subtitles available CAPTION(S): Siw Hughes fydd yn hel atgofion ar y rhaglen Cofio yr wythnos hon, ac uchod ym mhennod olaf Kath Jones ar Pobol y Cwm, gyda Brian Hibbert |
|
||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion