Printer Friendly
The Free Library
19,607,059 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Coeden gyda llawer o nodweddion llesol; BYD NATUR.


Byline: BETHAN WYN JONES Wyn Jones (b. 1953) is a Welsh politician and Plaid Cymru member standing in the Cardiff North constituency in the National Assembly for Wales election, 2007.

Wyn Jones was born in Cardigan and currently lives in Whitchurch, Cardiff ( Caerdydd ).
 

AE'N anodd bod yn siwr pryd yn union y dechreuodd dyn wneud defnydd o blanhigion meddyginiaethol - y cyfan fedrwn ni ei ddweud i sicrwydd ydi fod dyn ac anifail wedi gwneud defnydd ohonyn nhw ers miloedd o flynyddoedd.

Un o'r cofnodion cynharaf ydi rhai ar bapyrws o'r Aifft o tua 1700 CC yn dangos y defnydd oedd yn cael ei wneud yno o'r ferywen fel planhigyn meddyginiaethol i gael gwared e'r llyngyren ruban o'r corff.

Mae'r ferywen yn goeden gyffredin yng Ngogledd America, Ewrop, Gogledd Asia a Japan ac yn aelod o deulu'r gypreswydden. Juniperus communis Juniperus communis,
n See juniper.
 ydi'r enw gwyddonol arni a 'common juniper' yn Saesneg. Coeden sy'n tyfu fel llwyn yn hytrach na choeden dal ydi hi, er os bydd hi'n cael ei thyfu mewn gerddi, fe wnaiff dyfu yn goeden hyd at ddeng metr o daldra.

Deilen syml tua 1 cm o hyd sydd gan y ferywen sy'n edrych fel blaen saeth ac mae'n weddol bigog.

Mae ochr isaf y ddeilen yn lliw arian neu wyn n. 1. One of the runes ( ) adopted into the Anglo-Saxon, or Old English, alphabet. It had the value of modern English w, and was replaced from about a. d. 1280 at first by uu, later by w.  ac mae'r dail wedi eu gosod mewn sidelli o dair o gwmpas y coesyn.

Mae'r brigau'n felyn neu wyrdd pan maen nhw'n ifanc ac yn ir, ond yn troi'n frown ac yn caledu wrth fynd yn hen, tra mae'r rhisgl yn denau ac yn aml yn edrych fel cen.

Rhai o'r mamaliaid sy'n bwyta'r dail ydi'r ceirw coch (Cervus elaphus) a chwningod (Oryctolagus cuniculus Oryctolagus cuniculus

European rabbit. See sylvilagus.
).

Mae coed unigol naill ai'n fenywaidd neu'n wrywaidd ac mae'r blodau gwrywaidd yn ymddangos fel blodau bychain melyn yn agos at y brig ac yn rhyddhau paill sy'n cael ei gario ar y gwynt. Blodau bychain disylw iawn ydi'r rhai benywaidd.

Wedi i'r rhain gael eu peillio gan y gwynt, mi fyddan nhw'n tyfu i edrych fel moch coed sy'n debyg i aeron.

Mae'r rhain yn siep sfferaidd ac yn wyrdd i gychwyn, ond ar Ol tua deunaw mis, maen nhw'n aeddfedu i fod yn lliw tywyll, piws/ddu. Mae tair i chwech hedyn ymmhob un, ac fel arfer mae'r hadau yn cael eu gwasgaru am fod adar, fel y socan eira (Turdus pilais), a mwyalchen y mynydd (Turdus torquatus) yn bwyta'r aeron.

Mae'r hadau'n cymryd amser i egino a choden sy'n cymryd amser i dyfu ydi'r ferywen. Mae dyn hefyd wedi gwneud defnydd o'r ferywen ers canrifoedd. Mae wedi cael ei defnyddio gan frodorion cynhenid Gogledd America fel tonig, i drin annwyd, ffliw, arthritis, poenau yn y cyhyrau a phroblemau gyda'r arenau.

Roedd pobl gynhenid Ewrop ac Asia wedi'i defnyddio ar gyfer anhwylderau ar yr arenau a'r stumog ac ar gyfer cricymala. Mae cyfeiriad at y ferywen yn yr Hen Destament hefyd, yn llyfr cynta'r Brenhinoedd ble rydan ni'n cael hanes y proffwyd Elias yn eistedd dan ferywen, ac yn Ol y Beibl "a ddeisyfodd gael marw".

Ond mae yna angel yn dod ato yn ei gwsg ac yn ei gyffwrdd a gofalu amdano. Yn ddiweddarach, yn Ol un chwedl, mi gafodd y Baban Iesu, Mair a Joseff eu cuddio gan ferywen pan oedd milwyr Herod yn chwilio amdanyn nhw wrth iddyn nhw ffoi i'r Aifft.

Mae echdynnyn (extract) o'r ferywen yn gallu bod yn farwol, ond eto mae olew o'r goeden wedi cael ei ddefnyddio i wneud gin ac i biclo cig.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yna ddigon o lwyni o'r ferywen yn Ucheldir yr Alban, ac roedd yr aeron yn cael eu casglu a'u gwerthu yn y marchnadoedd yn Inverness Inverness, town, Scotland
Inverness (ĭn'vərnĕs`), town (1991 pop. 39,736), Highland, N Scotland, on the Moray Firth at the mouth of the Ness River.
 ac Aberdeen er mwyn eu hallforio i'r Isalmaen i wneud gin.

Mae Pliny yn cyfeirio at wneud defnydd o'r aeron i gael gwared e'r ddannodd, gan nodi eu bod mor galed nes y byddai'r aeron yn gwneud i'r dant dorri a syrthio o'r geg, ac y byddai hyn yn cael gwared e'r ddannodd! Mae o hefyd yn nodi fod modd defnyddio olew'r ferywen i gadw corff marw, ond yn achosi'r byw i ddihoeni, ac yn nodi'r anghysonder am fod y ferywen yn dwyn bywyd oddi ar y byw ond yn ei roi i'r meirw.

Roedd Culpepper yn gredwr mawr yn y ferywen ac yn ei hargymell at nifer o wahanol anhwylderau gan gynnwys y dropsi, i gryfhau'r stumog, cael gwared e gwynt (a gyda llaw, mae olew'r ferywen yn dal i gael ei ddefnyddio i'r pwrpas hwn hyd heddiw!), peswch, poen yn y bol, torri llengid, crampiau a chonfylsiwns - a lot o bethau eraill hefyd.

Mae o hefyd yn nodi fod yr aeron aeddfed yn gymorth i "give safe and speedy delivery to women with child".

Mae'r cyfeiriad olaf yna'n ddiddorol, achos mae yna ddefnydd helaeth wedi'i wneud o'r ferywen i erthylu.

Mae'r cemegau sy yn yr aeron yn ysgogi cyfangiad yng nghyhyrau'r groth a dyna pam roedd modd eu rhoi i ferch yn ystod gwewyr esgor. Yn yr un ffordd yn union, roedden nhw hefyd yn cael eu defnyddio i gael gwared e baban nad oedd croeso iddo.

Yn Saesneg mae dweud fod rhoi genedigaeth "under the savin savin

a neurotoxic war gas similar to organophosphorus insecticides but considerably more toxic, as demonstrated in the Tokyo subway massacre in 1995.
 tree" yn ffordd arall o ddweud fod erthyliad wedi digwydd drwy ddefnyddio aeron y ferywen. A'r rhywogaeth Juniperus sabina JUNIPERUS SABINA, med. jur. This plant is commonly called savine.
     2. It is used for lawful purposes in medicine, but too frequently for the criminal intent of producing abortion, generally endangering the life of the woman.
, oedd yn cael ei adnabod ar lafar fel y 'savin' oedd y ferywen oedd yn cael ei defnyddio yma

Byddai'r aeron yn gwneud i'r dant dorri a syrthio o'r geg, a chael gwared e'r ddannodd!

CAPTION(S):

Kate Burgess BURGESS. A magistrate of a borough; generally, the chief officer of the corporation, who performs, within the borough, the same kind of duties which a mayor does in a city. In England, the word is sometimes applied to all the inhabitants of a borough, who are called burgesses sometimes it , swyddog bioamrywiaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych yn edrych ar ferywen, a blannwyd ganddi ddwy flynedd yn Ol ger Prestatyn Llun: Robert Parry For the British MP, see .

Robert Parry is an American investigative journalist.

During the 1980s, Parry worked for Associated Press and Newsweek, and was credited with breaking a number of stories about the Reagan administration's actions in what came to be
 Jones
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jan 17, 2007
Words:901
Previous Article:A long haul but the finish line is in sight; The Back Page My working day In association with DLIB.
Next Article:Y tywydd cynnes yn drysu byd natur; BYD NATUR.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles