Codi'n gobeithion ac yna... dim Byd; Methu dallt pam ein bod ni'r Cymry'n gorfod bod mor blydi negyddol o hyd.Byline: BETHAN GWANAS Bethan Gwanas (born 16 January 1962) is a popular contemporary Welsh author, who publishes exclusively in the Welsh language. A prolific writer, she has had 17 titles published in the last decade. D WI ar ei hol hi'n ymateb i helynt papur dyddiol 'Y Byd' ond ro'n i isio i mhwysedd gwaed dawelu'n gyntaf. A nacdw, dwi ddim am draethu'n hirfaith am 'frad' Rhodri Rhodri is a given name of Welsh origin. It may refer to the following people:
Dim ond 700 o bobl oedd wedi tanysgrifio i'r papur ymlaen llaw. 700 allan o'r 750,000 (ffigyrau S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) ) o bobl yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg, a'r 133,000 sy'n byw yn Lloegr a'r nifer sylweddol o Gymry Cymraeg sy'n byw dramor. 700?! Mae ganddon ni ysgolion mwy na hynna. Roedd nifer y buddsoddwyr yn llai fyth. Does gen i'm mynedd cyfri faint faint (fant) syncope. faint n. An abrupt, usually brief loss of consciousness; an attack of syncope. adj. Extremely weak; threatened with syncope. o enwau sydd ar y rhestr (sydd i'w weld ar www.ybyd.com gyda llaw) ond rhyw 400 llinell sydd yno, felly rhyw 400 o sieciau gafwyd. Mae hynna'n pathetic pa·thet·ic also pa·thet·i·cal adj. 1. Arousing or capable of arousing sympathetic sadness and compassion: "The old, rather shabby room struck her as extraordinarily pathetic" . Felly nid Rhodri Glyn a Phlaid Cymru sydd wedi fy siomi i, ond ni fel cenedl. Roedd ganddon ni gyfle i brofi i'r byd ein bod ni'n genedl hyderus, iach, a ffydd yn ein hiaith a'n newyddiadurwyr, ac rydan ni wedi chwalu'r cyfle hwnnw'n yfflon drwy ein difaterwch a'n amharodrwydd i wario 70c y diwrnod ar bapur dyddiol yn ein hiaith ein hunain. Fel mae cwmni Dyddiol Cyf, wedi deud ers y dechrau un: "Cymraeg yw un o'r ychydig ieithoedd lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd sydd heb bapur dyddiol yn yr iaith." Ac mae hynna, hefyd, yn warthus. Efallai mod i'n arbennig o flin am mod i wedi bod yn swyddfa 'Berria', y papur dyddiol hynod lwyddiannus sydd yng Ngwlad y Basg. Ffaith: mae ganddyn nhw tua'r un faint o siaradwyr Euskera a sydd ganddon ni o siaradwyr Cymraeg. Ffaith: maen nhw'n gwerthu 21,000 o gopiau bob dydd (50% drwy danysgrifiad, a'r 50% arall yn y siopau). Aeth y Basgwyr drwy'r un broses a ni nol yn 1990 efo'r papur dyddiol gwreiddiol, 'Egunkaria', y tro cynta iddyn nhw fentro efo papur uniaith Euskera. Ond yn lle cwyno fel y Cymry na 'wnaiff o byth weithio', be wnaeth y Basgiaid ond prynu'r papur yn eu miloedd - 15,000 i gyd (a do, fe gafwyd buddosoddiad gan Lywodraeth Gwlad y Basg). Mi fu'n gwerthu'n dda am 13 mlynedd nes i Lywodraeth Sbaen ei gau yn 2003 (oherwydd iddyn nhw gyhoeddi cyfweliad gyda aelodau o ETA e·ta n. Symbol The seventh letter of the Greek alphabet.ETA estimated transmitting ability. . Ond stori arall ydi honno). Ond be wnaeth y Basgwyr ond sefydlu papur arall yn syth bin: 'Berria', ac ennill 6,000 o ddarllenwyr pellach yn y broses. Maen nhw rwan yn cyflogi 110 o bobl, 60 o newyddiadurwyr llawn amser a 137 o rai llaw-rydd. Be sy'n gyfrifol am eu llwyddiant? Nifer o bethau, ond yn fwy na dim, rhywbeth y bu Cris Dafis a Hywel Teifi'n ei drafod yn nhudalennau Golwg: Roedd Cris yn meddwl ei fod wedi clywed Hywel yn deud "y dylai'r Cymry dderbyn fod cefnogi 'Y Byd' yn DDYLETSWYDD arnynt", a ddim yn gweld pam ddylai o feddwl felly. Hywel yn ei gywiro'n ddigon di-flewyn ar dafod a deud mai son am falchder oedd o, "balchder miloedd ar filoedd o Gymry yn eu Cymreictod... balchder a fyddai wedi gweld miloedd ohonom yn llawen gefnogi menter Y Byd This article or section contains information about scheduled or expected future events. It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available. , am ein bod yn gwerthfawrogi y byddai papur dyddiol yn hwb na fu ei debyg i'r ymgyrch dros helaethu defnydd y Gymraeg ymhell ac agos." Amen. Balchder fel y Basgwyr. Ydyn, maen nhw'n prynu papurau, llyfrau a CDs Basgeg am eu bod nhw'n y Basgeg. Maen nhw isio i'r pethau 'ma lwyddo, maen nhw am i'w iaith a'u diwylliant barhau. Hyd yn oed os nad ydyn nhw mor sgleiniog a drud a'r nwyddau Sbaeneg - i ddechrau - maen nhw am roi'r cyfle iddyn nhw o leia. Dwi'n eiddigeddus iawn o'r ffordd bositif yna o feddwl, a methu dallt pam ein bod ni'r Cymry'n gorfod bod mor blydi negyddol o hyd. Does 'na neb yn gorfodi'r Basgwyr i brynu/darllen/ gwrando/gwylio drwy gyfrwng y Basgeg; does 'na neb yn gwahaniaethu rhwng Basgwyr 'coman' sy'n darllen y fersiwn Sbaeneg o'r Sun ac yn gwylio'r sebonau Sbaenaidd a'r 'dosbarth canol llengar'. Dim ond newydd gael iaith ysgrifenedig sy'n ddealladwy i bawb maen nhw, ond mae eu chwarter nhw'n prynu'r papur dyddiol yn ffyddlon! Mi wnes i ofyn i olygydd 'Berria' be oedd ei gyngor o i ni yng Nghymru: "Wel, gydag agwedd negyddol, neith o (Y Byd) byth weithio, ond mae'n profiad ni'n dangos ei bod hi'n bosib - mae'n gweithio ac yn llwyddiant. Mae angen lot fawr o waith, lot o ymdrech, drwy fynd o ddrws i ddrws i chwilio am gefnogaeth. Heb bapur newydd eich hunain fydd y Gymraeg ddim yn gallu dod ymlaen yn y byd, neu o leia ddim yn gallu bod yn un o'r ieithoedd modern. Os gewch chi'ch papur, mi fyddwch yn gweld y bydd o'n siarad am y pethau dyw'r papurau eraill ddim yn siarad amdanyn nhw. Mae hynny wedi digwydd gyda ni - rydan ni wedi gorfodi'r bobol eraill i siarad am y pynciau yma, dim ond oherwydd ein bod ni'n bodoli. Bydd y papur yn creu lle newydd, ac ar ol creu'r lle hwnnw, bydd yn rhaid i bobol eraill fod yn y lle hwnnw hefyd. Be mae'n ei neud ydy dangos y ffordd iddyn nhw." O wel. Yr agwedd negyddol a orfu felly. Efallai mod i hefyd yn arbennig o flin am mod i'n gwybod bod 'na filoedd ohonoch chi (40 - 50,000 mae'n debyg) yn mwynhau darllen yr Herald o fewn tudalennau'r Daily Post unwaith yr wythnos. Efallai bod hynny'n ddigon i chi. Ond mae'n bechod yntydi? Yn bechod na chawn ni rywbeth cenedlaethol a'i swyddfa ym Machynlleth yn hytrach na Chaerdydd am unwaith; yn bechod y bu cyn lleied ohonon ni'n fodlon buddsoddi mewn rhywbeth a fyddai wedi bod mor bwysig i'n hyder a'n hygrededd ni fel cenedl. Diddorol ydi pori drwy restr yr enwau, gyda llaw, a sylwi cyn lleied o bobl sy'n gwneud bywoliaeth dda ar gefn yr iaith Gymraeg sydd arno. Cynhyrchwyr teledu? Llond llaw. Actorion sy'n gweithio ar gyfresi hael fel Pobol y Cwm Pobol y Cwm (People of the Valley) is a Welsh language television soap opera produced by the BBC since October 1974. It is the longest-running television soap opera produced by the BBC, transmitted on BBC Wales television between 1974 and 1982 and then transferred ? Hm. Efallai eu bod nhw wedi defnyddio enwau ffug. Cyflwynwyr? Ditto, ar wahan i Huw Stephens Huw Stephens (born 1981 in Cardiff) is a radio presenter currently broadcasting shows on BBC Radio 1. Stephens joined Radio 1 at the age of 17 in 1999 as part of the station's new regional output where he hosts the Wales opt-out with Bethan Elfyn, he became the youngest ever . Aelodau blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith? Ambell un, ond nid yr enw sydd ar waelod eu llythyr agored at Rhodri Glyn. Argol argol (är`gəl): see tartar. , 'dan ni'n genedl od. Ond na, dwi ddim am godi mhac a symud i Wlad y Basg. Dwi'n gobeithio y gwnaiff hyn wneud i ni sylweddoli lle rydan ni'n mynd o'i le. Dwi'n gobeithio y gwelwn ni'r pounds 200,000 yn gwneud gwahaniaeth i'r wasg sydd ganddon ni'n barod ac y bydd 'na fwy yn prynu'r papurau wythnosol, o leia. Dwi'n gwrthod meddwl yn negyddol, achos dydi hynny'n gneud dim lles i neb. Ydw, dwi'n meddwl y byddwn ni'n gneud Grand Slam grand slam n. 1. The winning of all the tricks during the play of one hand in bridge and other whist-derived card games. 2. Sports The winning of all the major or specified events, especially on a professional circuit. ohoni eleni. Bechod ein bod ni wedi rhoi'r slam farwol i'r Byd o fewn yr un cyfnod, ond os fydd buddugoliaeth ar y maes rygbi yn codi'r balchder roedd Hywel Teifi'n son amdano, iawn. Gwell hwyr na hwyrach, mwn. CAPTION(S): Mae'r pennawd yn y rhifyn hyrwyddo hwn o'r Byd - a gyhoeddwyd dair blynedd yn ol - yn boenus o eironig erbyn hyn |
|
||||||||||||||

The seventh letter of the Greek alphabet.
Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion