Chwyn i ni ond rhai yn gweld ei werth; BYD NATUR.U N blodyn sydd fel petai o hefo ni bob amser ydi dant y llew. Rargian maen nhw ym mhobman yn dydyn ac eto dydan ni'n cymryd fawr o sylw ohonyn nhw yn nacdan? Am wn i, ei fod o'n flodyn mor gyfarwydd nes rydan ni'n llwyddo i'w anwybyddu'n hwylus iawn. Ond dydi hynny ddim yn wir amrai creaduriaid eraill. Mi fydd y gloyn byw hardd yna, y peunog, yn glanio ar y blodyn ac yn ymestyn y sugnydd allan Allan can refer to:
Y diwrnod o'r blaen roeddwn i'n ryw synfyfyrio wrth edrych drwy'r ffenest ar yr ardd, a be welwn i wedi glanio ar y borfa ond nico. Ond erbyn gweld, nid wedi glanio ar y borfa roedd o, ond wrthi'n brysur yn pigo ar ddant y llew oedd wedi mynd i had, ac yn cael pryd reit flasus hefyd yn ol bob golwg Golwg (Welsh for "Vision") is a Welsh-language magazine established in 1988. It covers current events and features and claims a circulation of 12,000, the largest circulation of any magazine in Wales. External links
Mae'r blodyn ar ol iddo Iddo (ĭd`ō), in the Bible. 1 Ruler of Manasseh. 2 Father of one of Solomon's stewards. 3 Prophet, whose book is mentioned as a source. 4 Father or grandfather of the prophet Zechariah. wywo, wrth gwrs, yn datblygu'n ben o ffrwythau un hedyn, a phob un hefo pharasiwt o flew pluog. Felly er ein bod ni'n tueddu i sbio i lawr ein trwyna ar ddant y llew, mae creaduriaid eraill yn ei werthfawrogi o. Planhigyn lluosflwydd, cyfarwydd iawn, ydi dant y llew ac mi welwch chi o'n tyfu ar laswellt, ochrau'r ffyrdd, twyni tywod, mannau gwlyb, tir agored a thir sydd wedi'i droi, ac yn arbennig fel chwyn ar y lawnt ac yn y borderi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf am ei fod yn gallu gwrthsefyll ychydig o halen, mae o wedi lledaenu'n sylweddol ar hyd ochrau'r ffyrdd; ac ymmis Ebrill mi welwch chi ochrau'r ffyrdd yn aml yn un darn hir, melyn. Mi fedrwch chi wneud defnydd helaeth o ddant y llew hefyd. Er enghraifft, defnyddir y gwraidd i wneud diod yn lle coffi, ac mi wnaeth yr hen Undeb Sofietaidd ddefnydd o latecs dant y llew yn lle rwber yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Taraxacum officinale Taraxacum officinale, n See dandelion. Taraxacum officinale despite a widely held view, NOT the cause of Australian stringhalt in horses; called also dandelion. See hypochoeris radicata. ydi'r enw gwyddonol ar ddant y llew, 'dandelion' yn Saesneg wrth gwrs, ond tybed pa enw fyddwch chi'n ei alw arno fo? Yn ei lyfr 'Enwau Cymraeg ar Blanhigion' mae Dafydd Davies yn rhestru adain y llew, blodyn crach, dail clais, a dant y ci fel enwau arno fo. Ond tybed, yn ddistaw bach, rhyngoch chi a fi rwan, nad blodyn pi-pi'n gwely roeddech chi'n galw hwn? H'mm, ia, roeddwn i'n amau braidd mod i'n iawn. A rheswm da pam - achos mae defnydd helaeth wedi ei wneud o'r planhigyn yma er mwyn cael gwared a dw'r o'r corff ac felly rhyddhau pwysau ar yr arenau. Wir, mae effeithiau diwretig y planhigyn yma yn cael ei gydnabod drwy Ewrop gyfan. Ac nid dyna'r unig ddefnydd chwaith. Mae o hefyd wedi cael ei ddefnyddio i dynnu defaid oddi ar y croen. Ai defaid ydach chi'n eu galw nhw? Neu ddafaden ella - 'warts' yn Saesneg. Be 'dach chi'n ei wneud ydi torri coesyn dant y llew a rhoi'r sudd Sudd (s d), swampy region, c.200 mi (320 km) long, and c.150 mi (240 km) wide, S Sudan, E central Africa. gwyn sy'n dod allan o'r coesyn ar y defaid.
Mae'r planhigyn hefyd wedi cael ei ddefnyddio fel tonig - i 'glirio'r gwaed', ac oherwydd hynny, roedd 'na gred ei fod o'n dda at bethau fel pimpls a phenna ddynod ar y croen. Mae dant y llew wedi'i ddefnyddio hefyd i drin, diffyg traul, cyrn ar y traed, pigiadau, y dwymyn goch, cancr ar y gwefusau, ac wlserau. Yn ychwanegol at hynny, mae 'na gofnodion yn dangos ei fod o wedi cael ei ddefnyddio at beswch, anwyd, ac at broblemau'r ysgyfaint. A tybed ydach chi'n dioddef o gricymala neu'r gwynegon? Wel, mi fedrwch ddefnyddio dant y llew at hyn hefyd. Mae gwreiddiau dant y llew hefyd wedi cael eu defnyddio at nifer o wahanol afiechydon. Mae'r gwraidd yn ogystal a'r coesyn yn cynhyrchu'r sudd gwyn pan fyddwch chi'n ei dorri o. Ac mae'r gwraidd wedi cael ei ddefnyddio at gerrig yn y bustl, y clefyd melyn, diffyg traul, a chwydd yn y cymalau. Mae Culpepper yn canu clodydd dant y llew. Medda fo "It is of an opening and cleansing quality and therefore very effectual ef·fec·tu·al adj. Producing or sufficient to produce a desired effect; fully adequate. See Synonyms at effective. [Middle English effectuel, from Old French, from Late Latin for the obstruction of the liver, gall and spleen spleen, soft, purplish-red organ that lies under the diaphragm on the left side of the abdominal cavity. The spleen acts as a filter against foreign organisms that infect the bloodstream, and also filters out old red blood cells from the bloodstream and decomposes , and the diseases that arise from them." A medda fo wedyn "It openeth the passage of urine urine, clear, amber-colored fluid formed by the kidneys that carries metabolic wastes out of the body (see urinary system). As the blood circulates it collects excretory products from the tissues and these substances are separated from the blood by the kidneys and in both young and old." Yn ol Culpepper, maen nhw'n bethau da iawn i'w bwyta os ydach chi'n methu cysgu. Mae o'n deud hefyd fod meddygon yn Ffrainc a'r Isalmaen yn cynghori pobl i'w bwyta am eu bod nhw'n berlysiau mor llesol. A chwarae teg i Culpepper, mae o'n awgrymu y dylech chi gymryd y dail neu'r gwreiddiau mewn gwin gwyn, neu fwyta'r dail fel perlysiau mewn stiw. Felly tro nesa yr ewch chi ati i wneud cawl neu lobsgows, beth amychwanegu ychydig o ddail dant y llew ato fo? |
|
||||||||||||

d)
Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion