Chwilio am wybodath am ddail rocos; LLEN Y LLYSIAU.DIOLCH yn fawr i Elfed Evans, Licswm, am ei lythyr cynhwysfawr yn son am lygad y diawl neu tamaid y cythraul 'Cythraul' is simply an archaic Welsh word for the Devil, probably deriving from Latin 'Contrarius', 'the Opposer, Enemy'. Contr- would go to Welsh cythr- straightforwardly according to historical phonology, and the form 'cythraul' not *cythraur is the result of dissimilation. , i roi enw arall arno. Rydach chi'n holi Holi Hindu spring festival. It is held on the full-moon day of Phalguna (February–March) and celebrated with reckless abandon. All distinctions of caste, age, sex, and status are disregarded. os ydi o'n wenwynig i ddefaid? Hyd y gwn i, dydi o ddim, er mae ambell i destun yn awgrymu ei fod yn wenwynig i famaliaid, ond os ydi hynny'n wir, mae'n anodd gweld pam ei fod wedi'i ddefnyddio i drin y sgabies. Mae'r enwau ar y planhigyn yn ddiddorol, devil's-bit Scabious scabious Any of about 100 species of annual and perennial herbaceous plants that make up the genus Scabiosa (family Dipsaceae), native to temperate Eurasia, the Mediterranean, and mountains of eastern Africa. ydi o yn Saesneg gyda llaw. Mi gafodd yr enw yn ol pob son am ei fod yn blanhigyn mor werthfawr yn feddyginiaethol, ac mi wylltiodd hynny'r Diafol ac mi frathodd ddarn o'i wraidd er mwyn ceisio ei wneud yn llai effeithiol! Diolch hefyd i Wynne Roberts, Tregarth, am ei lythyr hynod o ddiddorol yn son am yr ogor blu. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod pobl yn arfer gogrwn y plu - mae'n rhaid ei bod hi'n goblyn o waith anodd hefo plu yn hedfan i bobman. Roeddech chi'n holi os oedd yna raddfeydd i wlau? Fod y cyfoethogion yn gallu fforddio gwely plu esmwyth a'r tlodion yn cael gwely pesgwyn. Synnwn i ddim nad oedd hyn yn berffaith wir. Tybed be ydi barn y darllenwyr? Mi ges i groeso cynnes iawn yn Hen Hen, in the Bible, man who was to have a memorial in the temple. Golwyn nos Fercher dwytha, ac mi gefais gwestiwn ar ddiwedd y sgwrs - "be ydi dail rocos?" Wel, dydw i ddim yn gwybod ac rydw i'n gobeithio fy mod i wedi'i sillafu yn gywir. Mae'n debyg eu bod yn dda i dynnu chwydd i lawr ac fod ffermwyr yn arfer eu defnyddio. Tybed oes yna rywun all fy ngoleuo pa blanhigyn ydi 'dail rocos'? Yr Herald Cymraeg, Blwch Post 202, Cyff Llandudno, Conwy LL31 9ZD; www.llenyllysiau.com; dailypostcymraeg.co.uk |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion