Printer Friendly
The Free Library
19,595,263 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Cerdded: Yr arf gorau yn erbyn gwallgofrwydd dynol ryw.


Byline: rhys MWYN

'Yr wyf o'r farn y bydd rhaid i ni ddychwelyd at gerdded yn amlach os ydym i adennill peth o'r tawelwch meddwl y mae arnom gymaint ei angen Angen (Japanese: 安元) was a Japanese era name (年号, nengō, lit. year name) after Jōan and before Jishō. This period spanned the years from 1175 through 1177.  heddiw' T I Ellis, Crwydro Maldwyn

DYFYNIAD perthnasol ar gyfer heddiw, er iddo gael ei ysgrifennu ym 1957. Beth am i ni anwybyddu hynny a derbyn "heddiw" fel 2009.

Yn rhyfedd iawn wrth i mi gerdded dros y bwlch rhwng Rhyd Ddu Rhyd Ddu is small village in Snowdonia, North Wales.

Rhyd Ddu is well known as a popular starting point for walks up Snowdon (via the Rhyd Ddu Path), Moel Hebog, Yr Aran and the Nantlle Ridge.
 a Nant Gwynant Nant Gwynant is a valley in Snowdonia, north Wales. The A498 road descends 600 feet into the valley in about two miles from Pen-y-Gwryd; it follows the Nant Cynnyd, the Afon Glaslyn and alongside Llyn Gwynant, then beside the Nant Gwynant river to Llyn Dinas and passing below Dinas  yn ddiweddar daeth y dyfyniad i flaen fy meddwl. Am gyfnod byr, dyma fi, i ffwrdd o swn a gwallgofrwydd y byd This article or section contains information about scheduled or expected future events.
It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available.
, ac ydi mae'n wir - mae cerdded yn gwneud i rhywun deimlo'n well, yn dda ac yn hapus.

Wedi dal un o fysus bach y wlad o'n i, gan adael Caernarfon ben bore a neidio ar fws Beddgelert. Dim syniad go iawn lle ro'n i am fynd ac yn hollol hapus i neidio ar y bws cyntaf i lle bynnag fo hynny.

Roedd y bws bach yn ei gwibio hi, drwy Gaeathro a'r Waunfawr a chyn bo hir dyma gyrraedd Rhyd Ddu.

Am ryw reswm mae'r tri caffi gora yng Nghymru ar droed yr Wyddfa; Ty Mawr, Rhyd Ddu, am ei omelette, Ceuant Isaf, Llanberis, am ei fara brith a caffi Capel Bethania, Nant Gwynant, am eu brecwast "feji".

Dim angen omelette ar ddechrau dydd fel hyn, a derbyn fod wy ar dost a phaned yn hen ddigon i'm rhoi ar ben ffordd. Ond mae'n od, achos dwi 'rioed 'di bod i Ty Mawr CYN CYN Canyon  mynd allan i gerdded o'r blaen, fel arfer dyna'r wobr AR OL taith galed!

Ta waeth, allan a fi at lwybr Rhyd Ddu am yr Wyddfa a chamu i gyfeiriad Bwlch Main.

Mae'r hwyliau yn dda er fod y bore'n dywyll a'r awyr yn ddwl. Rwyf am gael dipyn o heddwch yn sicr, ond rwyf yn methu peidio a meddwl am drueiniaid Gaza.

Mae geiriau Dafydd Iwan yn atseinio yn fy mhen hefyd: "beth yw'r ots os 'di'r bomiau yn lladd y plant bach" o'r gan Tywysog Tangnefedd. Ie wir, a dyma fy atgoffa o wallgofrwydd dyn.

Mae synnwyr cyffredin a phob moesoldeb yn dweud nad oes gyfiawnhad dros ladd plant bach ond mae wynebau llwm, croen-galed Israel a Hamas yn rhoi'r bai ar ei gilydd ac yn osgoi derbyn cyfrifoldeb.

Dwi ddim am eiliad am gyfiawnhau ffwndamentaliaeth Islam ond ai fi yw'r unig un sydd yn cael ei atgoffa o styfnigrwydd ac atgasedd yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon wrth wrando ar siaradwyr Llywodraeth a Byddin Israel ar y Newyddion?

Dwi dal yn mwynhau'r daith gerdded, gyda llaw, wrth i mi drio meddwl, "be 'di'r peth mwyaf gwallgof mae dyn yn gallu ei wneud?".

Oce, mae 'na restr faith, ond troi at y "Cuban Missile Crisis" wnes i, finnau ar y pryd yn fabi bach iawn, a meddwl am beth all fod wedi digwydd.

Beth petawn i rioed wedi gweld fy mhenblwydd cyntaf oherwydd gwallgofrwydd y Ras Arfau a'r Rhyfel Oer.

Wrth gwrs fyddwn i ddim wedi bod fymryn callach na fyddwn, ond syniad y peth oedd yn fy nghynddeiriogi; fod y "diawled" yn fodlon gwneud y penderfyniad yna drosof i a gweddill trigolion y byd.

Ella mai dyna pam dwi'n anarchydd hyd at heddiw, ella mai dyna'r effaith seicolegol arnom ni blant 1962.

Ahhhh..... mae'n braf yma heddiw, wrth gyrraedd yr hen chwareli cyn edrych lawr tuag at Lwybr Watkin, mae'r cerdded yn cael effaith, dim ond cysgod yr Aran Yr Aran is a mountain peak on a ridge radiating south from Snowdon, Wales' highest mountain, with beautiful views of the summit of Snowdon, Moel Hebog and the Nantlle Ridge.  a'r Wyddfa uwch fy mhen (nid cwmwl atomig).

Rhyfedd o beth meddwl am wallgofrwydd Rhyfel Niwclear mewn lle mor brydferth ond mae fy ysbryd yn dda, dwi'n chwerthin i mi fy hun gan gadarnhau fod pob gwleidydd yn "far-stiward" fel petae.

Does dim dwy waith yn fy meddwl fod y newid mwyaf wedi digwydd ar ol i ni fabwysiadu'r hogia. Bellach nhw 'di'r pethau pwysicaf ac yn reddfol rwyf eisiau eu hamddiffyn ac edrych ar eu hol.

Fedra i ddim am eiliad ddychmygu pa mor erchyll fyddai bod yn riant ri·ant  
adj.
Cheerful; mirthful.



[French, present participle of rire, to laugh, from Old French, from Latin r
 yn Gaza ar yr eiliad hon mwy na fedraf ddychmygu bod yn riant ym 1962.

Mae T I Ellis yn iawn, mae cerdded wedi fy ngalluogi i chwerthin ar ben gwallgofrwydd dyn ac yn aml iawn dyna'r arf gorau yn ei erbyn!
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jan 21, 2009
Words:705
Previous Article:Cyfle i ddysgu wrth draed y meistri.
Next Article:Iaith, a mwy o waith yn y gampfa.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles