Printer Friendly
The Free Library
19,595,263 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Ceisio dod i 'nabod cadfridog Glyndwr; Y CELFYDDYDAU Pwy oedd Rhys Gethin?; Cledwyn Fychan; Cymdeithas Lyfrau Ceredigion; pounds 6.99.


PWY PWY Partner With Youth (scholarship fund)  oedd Rhys Gethin? hola deitl y gyfrol fach ddifyr hon. Wel, mae'n dibynnu'n union pa Rhys Gethin rydach chi'n feddwl? Oherwydd roedd o leiaf saith saith  
v. Archaic
A third person singular present tense of say.
 ohonyn nhw. A dydan ni ddim yn cyfri'r ffigwr dirgel hwnnw oedd yn llefaru ar ran Meibion Glyndwr ers talwm.

Y Rhys Gethin yn nheitl y llyfr oedd cadfridog Owain Glyndwr Owain Glyndwr: see Owen Glendower. , ac i ni heddiw, y mwyaf adnabyddus o'i holl Notable people whose surname is or was Holl include:
  • Adolf Holl (born 1930), Austrian Roman Catholic theologian
  • Frank Holl (1845-1888), English painter
  • John Holl (died 1869), Canadian politician
  • Steven Holl (born 1947), U.S.
 ddilynwyr.

Yn ol Cledwyn Fychan, awdur y gyfrol: "Pe bai rhywun yn mynd ati i chwilio drwy bob bywgraffiadur, a darllen pob cofiant, llyfr hanes, nofel, drama ac erthygl a ysgrifennwyd am Owain Glyndwr hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y mae'n amheus gen i a fyddai'n dod o hyd i gymaint ag un cyfeiriad at Rhys Gethin.

"Ond daeth tro ar fyd gyda throad y ganrif honno pan gyhoeddodd Arthur Granville Bradley ei gyfrol Owen Glyndwr and the Last Struggle for Welsh Independence Welsh independence is an ideal advocated by certain political movements within the Welsh electorate that would like Wales to secede from the United Kingdom and become a sovereign independent state, repealing the Acts of Union between England and Wales in 1536 and 1543.  yn 1901. Y gyfrol honno, gredaf i, a lansiodd Rhys Gethin ar y don o boblogrwydd sydd wedi'i wneud y mwyaf adnabyddus o blith holl ddilynwyr Owain Glyndwr erbyn heddiw."

Ond er ei fod yn adnabyddus, does neb yn gwybod i sicrwydd pwy oedd o - sy'n egluro'r teitl wrth gwrs.

Mae Cledwyn Fychan wedi mynd ati'n gelfydd iawn i gloriannu'r dystiolaeth am y saith gwr o'r enw Rhys Gethin a oedd yn cydoesi a Glyndwr, er mwyn barnu pa un ohonynt sydd debycaf o fod y cadfridog enwog.

Mae rhai haneswyr wedi hawlio mai gwr o Nantconwy oedd Rhys Gethin ond mae Cledwyn Fychan yn herio'r gred honno, ac yn dadlau mai rhywun arall oedd o.

Heb ollwng gormod o'r gath o'r cwd, yn ol tystiolaeth Cledwyn Fychan, y tebygrwydd yw mai gwr o'r canolbarth ydoedd. Byddai hyn egluro sut y llwyddodd i hel byddin mor fawr ynghyd ar gyfer buddugoliaeth fawr Glyndwr ym mrwydr Bryn Glas.

Mae'r ysgrifennu'n glir a darllenadwy, ac mae'r awdur yn gosod achos argyhoeddiadol a huawdl gerbron.

Hon yw'r gyntaf mewn cyfres newydd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, dan y teitl 'Monograff'. Llyfrau bychan (7"x4", a tua 60 tudalen) wedi'u rhwymo'n gain gyda chlawr caled ydyn nhw, ac mae'n gyfres werth ei chasglu yn ol pob golwg.

Yn yr un gyfres: Gohebydd yng Ngheredigion yn ystod y Flwyddyn Fawr: Hanes John Gr iffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868 gan Dylan Iorwerth.

CAPTION(S):

Glyndwr a Gobaith y Genedl; E Wyn James; Cymdeithas Lyfrau Ceredigion; pounds 9.99
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Oct 10, 2007
Words:404
Previous Article:A wyddoch chi..? Y CELFYDDYDAU Ffeithiau diddorol a rhyfeddol am Gymru.
Next Article:Cyfrol yn rhoi golwg newydd ar ein harwr; Y CELFYDDYDAU.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles