Carlamu ffwl sbid ar y paith.Byline: bethan GWANAS Bethan Gwanas (born 16 January 1962) is a popular contemporary Welsh author, who publishes exclusively in the Welsh language. A prolific writer, she has had 17 titles published in the last decade. ERBYN i chi ddarllen hwn, mi fydda i ym mhell dros y mor - yn Arizona. Dwi'n gwybod mod i ddim ond newydd gwyno mod i'm wedi cael gwyliau eleni, ond nid gwyliau mo hwn, iawn? Gwaith caled llawn chwys a straen fydd o. Dwi'n dal ddim yn siwr pam wnes i gytuno. Ond pan ges i'r alwad ffon yn holi a fyddai gen i ddiddordeb mewn dysgu sgiliau cowbois efo cowbois go iawn, mi es i'n syth yn ol i ddyddiau fy mhlentyndod, pan fyddwn i'n gwylio ffilmiau cowbois. Y dyddiau pan roedd John Wayne yn arwr go iawn - er mai cefnogi'r Indiaid Cochion fyddwn i bob tro, wrth reswm. O mhrofiad i, roedd merched yn tueddu i uniaethu mwy efo'r rheiny na'r cowbois. Sgwn i pam? Ta waeth, mae carlamu ar gefn mustang mustang [Sp. mesteño=a stray], small feral horse of the W United States. Mustangs are descended from escaped Native American horses, which in turn were descended from horses of North African blood, brought to the New World by the Spanish c.1500. dros y paith, heibio ambell i gactws anferthol, efo het gowboi ar fy mhen, wastad wedi bod yn freuddwyd gen i. Bu bron i mi a chriw o ffrindiau fwcio gwyliau tebyg sbel yn ol, ond ddigwyddodd o byth am ryw reswm - y pres, dwi'm yn amau. A rwan ro'n i'n cael cynnig mynd am ddim - a deud y gwir, yn cael fy nhalu am ei wneud o! Ia, rhaglen deledu ydi hi fydd yn cael ei dangos o gwmpas y Dolig ryw ben. Ond nid fi ar fy mhen fy hun bach fydd wrthi. Roedden nhw'n gofyn i saith saith v. Archaic A third person singular present tense of say. "wyneb cyfarwydd" ond doedden nhw'm yn fodlon deud pwy fyddai'r lleill tan y funud ola. Am ryw reswm, ro'n i wedi cymryd y bydden nhw i gyd rhywbeth tebyg i mi o ran merlota: wedi bod ar gefn ceffyl, do, ond nid yn giamstar o bell ffordd. Ges i ffit biws pan glywes i enw Hywel Davies (ia, y joci!), Sian Cothi (ia, sydd newydd deithio o un pen o Gymru i'r llall ar gefn ceffyl) - a Steffan yr actor gwalltgoch fu'n merlota efo hi - a Megan Taff sy'n byw a bod efo ceffylau! O, mam bach...ro'n i'n chwysu rwan. Ond mae'n debyg bod gan y ddau arall, Iwan John a Alex Jones, lai o brofiad na fi. Wel, dyna maen nhw'n ei ddeud ynde. Gawn ni weld... Do, mi wnes i garlamu ar hyd ochr llosgfynydd 'Ar y Lein', ond cydio am fy mywyd yn y nobyn ar flaen y cyfrwy o'n i! Efo criw mor brofiadol, mae'n edrych yn debyg y bydd raid i ni ferlota go iawn. Carlamu ffwl sbid ar ol gwartheg strae, a dal yn sownd efo un law tra'n (trio) taflu lasw o gwmpas coesau llo yr un pryd. Fel John Wayne yn union. O'r nefi. Ond mae gen i benglin chwith giami ac arthritis yn y glun dde, a dydi eistedd ar gefn ceffyl yn gwneud dim lles i ongl y cymalau, os dach chi'n dallt be dwi'n feddwl. Dio jest ddim yn siap naturiol nacdi? Yn enwedig i rywun sydd ddim yn cael gwneud cic llyffant pan yn nofio. Ar ol diwrnod cyfan ar gefn ceffyl, fydda i ddim yn gallu cerdded. Ac mi fydd 'na wyth diwrnod, un ar ol y llall. Mae fy llygaid yn dyfrio dim ond wrth feddwl am y peth. Oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, roedden ni gyd i fod i gael gwers ferlota ymlaen llaw, ond mewn canolfan BHS BHS beta-hemolytic streptococci. (British Horse Society The British Horse Society (BHS) is a membership-based equine charity (Registered Charity 210504). The BHS was founded in 1947 in the amalgamation of two organisations - the Institute of the Horse and Pony Club, and the National Horse Association of Great Britain. ). A 'di'r llefydd merlota wrth fy ymyl i ddim yn perthyn i'r rheiny. Waunfawr oedd yr agosa. Felly ges i wers ar gefn clamp clamp (klamp) a surgical device for compressing a part or structure. rubber dam clamp a metallic device used to retain the dam on a tooth. clamp n. o geffyl mawr araf... diog. Neu falle ei fod o'n flin bod 'na ffasiwn bwysau ar ei gefn o. Nes i ddysgu sut i wneud iddo fo wau i mewn ac allan o bolion efo nghoesau beth bynnag, oedd yn rhoi teimlad o bwer i rywun, rhaid cyfaddef. Ond ro'n i isio mwy na hynna, felly dwi wedi bod ddwywaith at Eurliw ym Maentwrog, sydd ddim wedi ei chofrestru efo'r BHS, ond mae'r offer priodol i gyd ganddi, ac yn bwysicach, mae ganddi geffyl hyfryd sy'n symud fel melfed. Wel, mae'n fy siwtio i, o leia. Mae Eurliw yn gadael i mi garlamu ar hyd y topiau 'na, a does 'na nunlle tlysach i garlamu drwyddo, hyd yn oed os ydi hi braidd yn fwdlyd yno bellach. Er gwaetha'r benglin giami, mae 'na hyder wedi dod o rhywle rwan. Mi fedrai garlamu yn weddol heb deimlo mod i ar fin disgyn i ffwrdd. Ond does na'm llawer o steil yn perthyn i mi, yn enwedig pan dwi'n dringo i mewn i'r cyfrwy, a llai fyth pan dwi'n trio dod i lawr. Bet bod Sian Cothi'n gallu'i neud o'n hynod o osgeiddig, a'r lleill hefyd. Ond dwi wedi amau ers y dechrau mai dyna pam ofynon nhw i mi - mae wastad angen clown clown, a comic character usually distinguished by garish makeup and costume whose antics are both humorously clumsy and acrobatic. The clown employs a broad, physical style of humor that is wordless or not as self-consciously verbal as the traditional fool or jester. . Dim ond gobeithio y bydda inna'n chwerthin hefyd! |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion