Cantorion heddiw yn dehongli canu ddoe; cymru PROSIECT Y PLYGAIN S4C, nos Fa wrth, 9.30pm - isdeitlau Saesneg/English subtitles (s4c.co.uk/sioegelf).Byline: Gan Gan or Kan (both: gän), river, c.550 mi (885 km) long, flowing north through the plain of central Jiangxi prov., SE China, past Nanchang to Poyang lake. GWENAN DAVIES DYW Rhys Mwyn ddim yn un sy'n osgoi dadl gyda'i siarad plaen a'i barodrwydd i leisio ei farn yn ddi-flewyn ar dafod. Ond, gyda'i brosiect diweddaraf, ef ei hun oedd dan y lach, a hynny ymysg trigolion bro ei febyd. Mewn rhaglen arbennig o'r Sioe Gelf ar S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) nos Fawrth bydd cyfle i ddilyn Rhys wrth iddo fynd ar drywydd traddodiad y plygain yn ei fro enedigol yn Sir Drefaldwyn. Bydd yn edrych ar ei hanes a'r confensiynau sydd ynghlwm a'r traddodiad cyn bwrw ati i gynnal noson o ganu plygain gyda chantorion gwerin cyfoes fel 9Bach, Gareth Bonello, Brigyn a llu o artistiaid eraill, ynghyd a phlygeinwyr traddodiadol yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Ond wrth iddo fynd ati i drefnu'r noson, mae'n wynebu gwrthwynebiad gan selogion y plygain. A yw ei syniadau arloesol yn gam gam 1 n. 1. A social visit or friendly interchange, especially between whalers or seafarers. 2. A herd of whales or a social congregation of whalers, especially at sea. See Synonyms at flock1. v. rhy bell i'r plygeinwyr traddodiadol? Yn adnabyddus am ei ddyddiau yn y band pync, Yr Anhrefn, a'i waith gyda bandiau Cymraeg, pam mynd ati i edrych ar y traddodiad plygeiniol yn y lle cyntaf? "Dwi'n meddwl fod y carolau plygain yn un o'r ychydig bethau o fewn y maes traddodiadol yng Nghymru sydd, bron na fydda rywun yn dweud, yn gyfrinachol - does dim llawer yn gwybod amdano," eglura Rhys a ddaw'n wreiddiol o Lanfair Caereinion ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon. "Be oeddwn i'n credu fyddai'n ddiddorol oedd edrych ar rywbeth o'r ardal lle ges i fy ngeni ac efallai ei gyflwyno fo i gynulleidfa newydd. "Dwi wedi bod yn mynd i'r plygain dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dwi wedi gwirioni hefo swn y peth, yr arddull a'r ffaith ei fod o'n perthyn i oes a fu - dydy rhywun ddim yn gweld hynny'n aml iawn. "Pur Pur (pûr) [Heb.,=lot], in the Bible, lot cast by Haman to determine the time for the murder of the Jews. See Purim. anaml ma' rywun yn cael y teimlad o fynd nol mewn amser y dyddiau hyn, ond ma' hwn yn rhywbeth prin sydd wedi parhau dros y blynyddoedd," ychwanega. "Nes i 'rioed fynd i'r plygain pan o'n i'n tyfu fyny achos ro'n i'n chwilio am gynnwrf, ac atebion gwleidyddol. "Fel rhywun gafodd ei fagu yn Sir Drefaldwyn, ro'n i ishe mynd i Berlin, Paris, Efrog Newydd a llefydd felly," eglura gan ychwanegu, "ond fe es i am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ol a'i fwynhau o am beth ydi o. Felly dwi'n 46 rwan ac yn ailddarganfod hyn!" Aeth Rhys ati i gael rhai o artistiaid gwerin mwyaf adnabyddus Cymru i gymryd golwg ar y caneuon plygain traddodiadol er mwyn cynnal noson arbennig iawn. Ond ynghyd a llawer o gefnogaeth, fe wynebodd y fenter wrthwynebiad gan rai oedd yn poeni fod Rhys yn ceisio chwyldroi'r traddodiad. "Dwi ddim yn credu fod dim o'i le fod artistiaid cyfoes - cyfoes o ran eu bod nhw'n canu heddiw ac nid am eu bod nhw'n artistiaid pop - yn dangos diddordeb mewn carolau plygain ac yn rhoi eu slant cerddorol eu hunain arnyn nhw. "Dwi ddim yn credu fod hynny'n awgrymu'n bod ni'n newid pethau. Nid cystadlu hefo'r traddodiad yw'r bwriad," meddai. In a special episode of S4C's arts programme Sioe Gelf, music promoter A person who devises a plan for a business venture; one who takes the preliminary steps necessary for the formation of a corporation. Promoters are the people, who, for themselves or on behalf of others, organize a corporation. and Daily Post Cymraeg columnist columnist, the writer of an essay appearing regularly in a newspaper or periodical, usually under a constant heading. Although originally humorous, the column in many cases has supplanted the editorial for authoritative opinions on world problems. Rhys Mwyn goes on the trail of the plygain tradition, which is alive and well in his native north Montgomeryshire. CAPTION(S): Dywed Rhys Mwyn ei fod wedi gwirioni ar swn y canu plygain |
|
||||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion