Printer Friendly
The Free Library
19,588,385 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

COFIO EMYR; Teyrngedau i ddyn 'anodd' ond amryddawn.


Byline: Gan TUDUR HUWS JONES

TALWYD teyrngedau i'r hanesydd a'r newyddiadurwr adnabyddus, Emyr Price, a fu farw ddechrau'r wythnos.

"Gwybodaeth gweddol arwynebol am bob math o bynciau sydd gan y rhan fwyaf o newyddiadurwyr, ond roedd cael Emyr wrth eich penelin fel cael encyclopaedia encyclopaedia

Reference work that contains information on all branches of knowledge or that treats a particular branch of knowledge comprehensively. It is self-contained and explains subjects in greater detail than a dictionary.
 ar ddwy goes," meddai Eifion Glyn, a fu'n cyd-weithio gydag ef am 10 mlynedd ar raglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar Y Byd ar Bedwar is the only current affairs series to have been on S4C ever since the channel was launched in 1982. The programme has a reputation for hard-hitting, investigative journalism of the highest standard. .

"Roedd o'n fawr o gorff ac o bersonoliaeth - yn ddyn galluog ofnadwy, ac fe wnaeth gyfraniad anhygoel i newyddiaduraeth a theledu yng Nghymru. Ond er ei fod o mor ddeallus, roedd o blaid poblogeiddio pethau fel eu bod yn ddealladwy i drwch y boblogaeth.

"Doedd o ddim mo'r hawsaf o blant dynion i ymwneud ag ef, ac roedd o'n cyfaddef hynny, ond roedd 'na hwyl fawr i'w gael yn ei gwmni, ac roeddwn yn ei gyfri'n ffrind da. Mae gen i atgofion melys iawn amdano ac wrth gwrs, fe fydd colled fawr ar ei ol."

Roedd Robert Emyr Price yn 64, ac wedi bod yn dioddef o ganser yr arennau ers rhai blynyddoedd. Mae'n gadael gwraig, Mair, a thri o blant, Angharad, Irfon ac Osian.

Roedd ei wreiddiau yng Nghwm Ystradllyn, ond fe'i cysylltir yn bennaf a Phwllheli, ac yno y cafodd ei addysg gynnar cyn mynd i'r brifysgol ym Mangor, ac yn ddiweddarach i'r London School of Economics The School is a member of the Russell Group, the European University Association, Association of Commonwealth Universities, the Community of European Management Schools and International Companies, The Association of Professional Schools of International Affairs as well as the Golden .

Bu'n gweithio am gyfnod fel darlithydd, cyn cael ei benodi'n olygydd Y Faner ym 1983, yn dilyn marwolaeth Jennie Eirian Davies Jennie Eirian Davies (1925 – 1982-05-06) was a Welsh politician and magazine editor.

Jennie Howells was born in Llanpumsaint, Carmarthenshire and educated at the University College of Wales, Aberystwyth. She was a teacher by profession.
.

Ceisiodd newid delwedd y cylchgrawn, ac er mwyn ei boblogeiddio rhoddodd gyfle i ysgrifennwyr ifanc fel Rhys Mwyn a'r bardd, Peter Davies, neu Pete Goginan.

Bu Hafina Clwyd yn cyd-weithio ag ef fel is-olygydd, cyn ymgymryd a'r gwaith o olygu'r cylchgrawn pan ymddiswyddodd Emyr Price ym 1986 a dilyn gyrfa lwyddiannus ym myd teledu lle cyfrannodd, ymhlith pethau eraill, nifer o raglenni dogfen ar wleidyddion amlwg.

Mae Hafina Clwyd yn ei gofio fel dyn gwybodus tu hwnt, a chwmni da hefyd.

"Roedd ei ddesg o hyd yn bendramwnwgl, a byddai'n ysgrifennu nodiadau ar ei law ac ar ei fraich i atgoffa'i hun am hyn a'r llall," meddai.

"Roedd o'n tynnu blewyn o drwyn yn gyson, a doedd o ddim ofn neb.

"Roedd o'n gallu bod yn anodd weithiau, ond doedd o byth yn gas chwaith. Roedd o'n un hawdd i weithio efo fo, ond roedd rhywun yn synhwyro pryd i gadw draw - tua diwedd yr wythnos er enghraifft pan oedd 'na banics weithiau a'r Faner ar fin mynd i'w wely."

Roedd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn un o'i ffrindiau coleg, ac mae yntau'n ei gofio fel person hawdd gwneud efo fo.

"Roedd o'n gallu colli ei dymer yn rhwydd, ond roedd o'n dynnwr coes ofnadwy hefyd. Dwi'n credu mai fo wnaeth fy olynu fi fel golygydd papur y coleg, Y Dyfodol.

"Roedd o'n chwaraewr criced ardderchog, ac fe chwaraeodd i dim Bron Dinas am flynyddoedd lawer fel batiwr.

Chwaraeodd i'r sir a dwi'n amau ei fod wedi chwarae i ogledd Cymru hefyd."

Roedd yn hanesydd o fri, ac yn ogystal a'i raglenni teledu ysgrifennodd sawl llyfr, megis cofiant i Cledwyn Hughes Cledwyn Hughes, Baron Cledwyn of Penrhos, CH, PC, (14 September 1916 – 22 February 2001), was a Welsh Labour politician.

Educated at Holyhead Grammar School and the University of Wales, Aberystwyth, he served in the RAFVR in the Second World War.
.

Ond ei ddileit pennaf oedd David Lloyd George David Lloyd George, 1st Earl Lloyd-George of Dwyfor, OM, PC (17 January 1863 – 26 March 1945) was a British statesman who was Prime Minister throughout the latter half of World War I and the first four years of the subseqeunt peace. , ac roedd yn arbenigwr ar Ddewin Dwyfor.

CAPTION(S):

Yr hanesydd a'r newyddiadurwr Emyr Price a fu farw ddydd Sul
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Mar 25, 2009
Words:546
Previous Article:market WATCH.
Next Article:Fferm Tango; LLYTHYRAU.



Related Articles
Canmoliaeth y cenhadon yn y capeli.
Pigion Y DYDD.
Michelle a Meical yn dod i ben y daith?
Dan y mor a'i donnnau.
Bywyd rhy fyr i boeni.
Canmol y rhai sy'n haeddu canmoliaeth; bethan GWANAS.
Dangos pa mor fregus yw bywyd adar; LLxN Y LLYSIAU.
Weithiau, mi fysa'n braf bod yn ddyn.
Cwrdd , chymSr sy'n dipyn o arlunydd hefyd.
Diolch Orig, roedd hi'n fraint cael dy adnabod di.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles