Printer Friendly
The Free Library
19,573,952 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

CARRERAS YN LLANGOLLEN; Noson fawr y tenor yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol.


NOS See network operating system.

NOS - Network Operating System
 yfory bydd un o gantorion opera enwoca'r byd, Jose Carreras, yn perfformio amy tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod eisteddfod (īstĕth`vəd, –vôd) [Welsh,=session], Welsh competitive festival. Contests traditionally are held in all the arts and crafts, with special emphasis on music and poetry.  Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Darlledir y cyngerdd yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C S4C skate for cancer
S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) 
. Mewn cyfweliad arbennig gyda chwmni cynhyrchu Opus opus (ō`pəs) [Lat.,=work], in music, term used in cataloging a composer's works, designating either a single composition or a group published together or considered a unit.  TF, mae'r tenor o Farcelona yn son am ei gefndir, ei gerddoriaeth a'r cyffro wrth edrych ymlaen at y cyngerdd...

Dyma'r tro cyntaf ichi ganu yn Llangollen. Ydych chi'n edrych ymlaen?

Dwi wrth fy modd o gael canu yng Nghymru am fod gan y Catalaniaid a'r Cymry ryw nodwedd debyg. Mae gennym yr awydd parhaol i barchu ein hunaniaeth a'n traddodiadau, ac yn hyn o beth, rydymyn teimlo'n agos iawn ac felly mae'n rhoi llawer o bleser imi allu canu yma.

Ydi'n bosib i chi ddatgelu be' fydd eich rhaglen ar y noson?

Wel, mi fyddaf yn perfformio darn gwych Ariel Ramirez, y Misa Criolla.

Dyma'r tro cyntaf inni ei berfformio yn y Deyrnas Unedig ac felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr.

Mae'n ddarn sy'n gweddu'n dda iawn i gyfriniaeth yr offeren Gatholig, gyda thinc gwerinol iddo drwy'r offerynnau ac ati. Mi fydd y pianydd Lorenzo Bavaj a'r ensemble Los Calchakis o Dde America yn ymuno a mi ar y llwyfan, yn ogystal a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a chor Serendipity serendipity

happy finding of an unexpected object or solution while searching for something else.
.

Pam fod y darn yma mor bwysig i chi?

Fel mae'n digwydd, mae'n ugain mlynedd yn union ers i mi recordio'r Misa Criolla amy tro cyntaf yr haf yma. Yn yr un flwyddyn ac yn yr un mis, cefais wybod fod gennyf lewcemia. Felly mae'r recordiad yma'n un sydd wedi bod gyda fi ar hyd y blynyddoedd. Mae'n atgof o'm siawns olaf i Olaf I (Olaf Tryggvason) (ō`läf trüg`väsōn), c.963–1000, king of Norway (995–1000), great-grandson of Harold I.  ganu cyn i mi fynd yn sal ac wedyn pan fues i'n ddigon ffodus i wella, mi gododd y darn fy hwyliau.

Sut gyfnod oedd y blynyddoedd rheiny wedi i chi gael y diagnosis?

Yn sicr roedd yn adeg anodd, efallai adeg anoddaf fy mywyd. Roeddwn i'n ddeugain oed, ar uchafbwynt fy ngyrfa, ac roedd y newyddion hyn amy diagnosis o lewcemia lymffoblastig yn ergyd drom iawn. O'r cychwyn dechreuodd y meddygon siarad a mi am bosibiliadau, am ganrannau a'r tebygrwydd o wellhad. Hyd yn oed os oedd un siawns mewn miliwn, roedd rhaid i mi feddwl fod honno'n siawns i mi. A chyda cymorth fy nheulu, tim eithriadol o feddygon, a llawer iawn o bobl o gwmpas y byd This article or section contains information about scheduled or expected future events.
It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available.
 cefais afael mewn rhyw agwedd benderfynol a fu, rwy'n meddwl, yn bwysig iawn i ennill y frwydr hon yn erbyn salwch mor ddifrifol.

Ers hynny, rydych wedi cael eich cydnabod am eich gwaith dyngarol fel llywydd Sefydliad Lewcemia Rhyngwladol Jose Carreras. Sut ddaeth y sefydliad i fodolaeth?

Ar ol i mi fod yn ddigon ffodus o wella o glefyd fel lewcemia, a'r holl gefnogaeth a'r teimlad o undod a gefais yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn i'n teimlo fy mod mewn dyled fawr i'r gymdeithas a'r gymuned wyddonol a meddygol yn arbennig.

Felly meddyliais mai'r ffordd orau o geisio talu'r ddyled yna'n ol oedd sefydlu menter i frwydro yn erbyn yr un clefyd ag yr oeddwn i wedi dioddef ohoni. Heb ganmol fy hun, mae'r sefydliad yn gwneud gwaith gwych ac maen nhw i gyd yn gweithio gyda brwdfrydedd ac ymroddiad o'r mwyaf.

O ble ddaeth eich brwdfrydedd am ganu?

Pan oeddwn i'n chwe blwydd oed, aeth fy rhieni a ni i'r sinema yr yr ardal o Farcelona lle'r oeddem ni'n byw. Y ffilm oedd ymlaen, digwydd bod, oedd un am fywyd y tenor Eidalaidd Enrico Caruso a'r prif gymeriad yn y ffilm oedd Mario Lanza. Mae'n debyg fod hyn wedi deffro ynddo fi rhyw fath o reddf am gerddoriaeth a chanu. Sylweddolodd fy rhieni hynny am fy mod i'n canu drwy'r amser a chynnig gwersi cerddoriaeth i mi. Ond roedd wastad gen i'r syniad o fynd yn ganwr, ac nid yn offerynnwr nac yn arweinydd cerddorfa. Dwi wastad wedi bod eisiau canu.

Mae'ch cyfoedion enwog, Pavarotti a Domingo, eisoes wedi canu yn Llangollen, pamydych chi wedi'i gadael hi mor hir?

Fi yw'r ieuengaf o'r tri, felly mae'n naturiol mae fi yw'r olaf i ganu yma!

Ond o ddifri', mae'n rhaid dweud fy mod i wrth fy modd yn cael y cyfle i ddod i ganu yng Nghymru, ac yn enwedig yn Llangollen. Mae'n cael ei ddweud yn aml fel ystrydeb, fod cerddoriaeth yn gyffredin i bawb.

Ond mae'n wir, mae cerddoriaeth yn iaith y mae pawb yn ei deall, o ba bynnag ethnigrwydd, crefydd neu ran o'r byd.

Mae hyn yn gwneud i artist deimlo'n freintiedig iawn o gael cyfrannu at yr 'achos' yma.

Tomorrow sees world-famous tenor Jose Carreras perform for the first time at Llangollen International Musical Eisteddfod. He talks about his singing, his battle with leukaemia and the pieces he will be performing. The concert will be broadcast live and exclusive on S4C tomorrow at 8.30pm with English subtitles sub·ti·tle  
n.
1. A secondary, usually explanatory title, as of a literary work.

2. A printed translation of the dialogue of a foreign-language film shown at the bottom of the screen.

tr.v.
 available.

CYNGERDD JOSE CARRERAS YN FYW O LANGOLLEN nos Sul, 8.30pm, S4C.Isdeitlau Saesneg ar gael. s4c.co.uk/haf07

CAPTION(S):

'Mae'n wir, mae cerddoriaeth yn iaith y mae pawb yn ei deall, o ba bynnag ethnigrwydd, crefydd neu ran o'r byd,' meddai Jose Carreras
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jul 14, 2007
Words:854
Previous Article:wales: ARE YOU DANCIN'? ...'cos we're askin' in our search to find a new star.
Next Article:MAFFIA AND ME; Top 80s band are back to headline Sesiwn Fawr.
Topics:



Related Articles
Pigion Y DYDD.
Sunday: Pigion Y DYDD.
Pigion Y DYDD.
Pigion Y DYDD.
PUM MUNUD GYDA ...
Sialens i reolwr o ddysgu'r Gymraeg.
Pigion Y DYADD.
Pigion Y DYDD.
Diweddglo disglair i Eisteddfod Llangollen.
Pigion Y DYDD.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles