Printer Friendly
The Free Library
19,595,263 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Bywydau pobl lawer mwy pwysig na choed.


Byline: BETHAN GWANAS Bethan Gwanas (born 16 January 1962) is a popular contemporary Welsh author, who publishes exclusively in the Welsh language. A prolific writer, she has had 17 titles published in the last decade.  

FEL FEL - Function Equation Language. Programs are sets of definitions. Sequences are lists stored in consecutive memory. "FEL Programmer's Guide", R. M. Keller, AMPS TR 7, U Utah, March 1982.  un sy'n treulio cymaint o amser yn teithio i fyny ac i lawr ac ar hyd a lled y wlad, ro'n i wrth fy modd efo cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones Ieuan Wyn Jones (born 22 May 1949) is leader of Plaid Cymru, Deputy First Minister in the Welsh Assembly Government and Member of the National Assembly for Wales for the Ynys Môn constituency. He was Member of the UK parliament for Ynys Môn constituency from 1987-2001.  bod Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i wario ar wella cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd Cymru o'r diwedd.

Y nod, mae'n debyg, ydi datblygu gwasanaeth tren cyflymyn ogystal a gwella'r A470, a hefyd gwella'r cysylltiadau rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin. Haleliwia!

Mae 'na rai'n deud na fydd unrhywbeth yn digwydd am flynyddoedd ac nad ydi pounds 350 miliwn yn ddigon.

Dw'n i'm, dwi'mcallach faint faint (fant) syncope.

faint
n.
An abrupt, usually brief loss of consciousness; an attack of syncope.

adj.
Extremely weak; threatened with syncope.
 mae'r pethe ma'n ei gostio, ond mae'n swnio'n dipyn o swm i mi, ac mae unrhyw beth yn well na dim. O ran amser, gorau po gynta a than dani, Ieuan!

Dwi'myn gwybod os ydi'r daith awyren o Fon i faes awyr Caerdydd yn dal yn rhad (rhwng pounds 20 a pounds 50 oedd o'n y gwanwyn mae'n debyg), ond doedd o'n dda i ddim i rywun sy'n byw ymMeirionnydd beth bynnag.

Mae'n 74 milltir ac awr a deugain munud (heb dractors neu loris loris, name for slow-moving, nocturnal, arboreal primates of the family Lorisidae, found in India, Sri Lanka, and SE Asia. Lorises have round heads, large round eyes, and furry bodies. They have no tails, and their index fingers are vestigial.  Mansel Davies) o fan hyn i'r Fali, a 135 milltir a thua tair awr a chwarter (os dach chi'n lwcus) ydi hi i Gaerdydd.

Er mwyn gallu teithio efo'r tren, rhaid gyrru i Fachynlleth yn gynta, a mynd dow dow drwy'r canolbarth amyr Amwythig gan weddio a chnoi eich ewinedd yn y gobaith na fydd y tren nesa oddi yno wedi hen adael, sy'n digwydd yn aml yn fy achos i.

Efallai bod pethau wedi newid, ond fyswn i'myn gwybod gan nad ydw i wedi cymryd y tren ers talwm - ammod i wedi cael llond bol o sefyllian am oriau yn fferru a sipian coffi hurt o ddrud yn yr Amwythig.

A pheidiwch a chrybwyll y Traws Cambria. Wedi'i neud o ganwaith fel myfyrwraig, dwi byth isio'i wneud o eto. Ond mae'r Cynulliad amwella hwnnw hefyd - dyn a wyr sut.

Fel mae pethau rwan, mae'n llai o drafferth mynd a'r car. Ond fel y gwyddon ni gyd yn rhy dda, mae'r A470 yn gallu bod yn daith arteithiol o flinedig. A phob ffordd arall o ran hynny - i'r gogledd a'r dwyrain o Ferthyr beth bynnag.

O leia, os fydda i'n mynd i Gaerdydd, dwi'myn gorfod bod yn sownd y tu ol i ddwy lori sy'n methu pasio ei gilydd ar y darn troellog cyn y Ganllwyd. Ond os ydw i am fynd i'r gogledd, fan'no fydda i.

Dwi'n mawr obeithio mai yn fan'no fyddan nhw'n dechrau gwella'r ffordd erchyll hon. Oes, mae 'na goedwigoedd hyfryd yno, ond sori, mae bywydau yn bwysicach nac ambell goeden.

Wedi bod yn mynd fel malwen y tu ol i gonfoi amhosib ei phasio, dyna pryd mae pobl yn mynd yn hurt y tu ol i'r olwyn ac yn gwneud penderfyniadau gwirion.

A ninnau wedi cael tywydd mor fendigedig o braf yn ddiweddar, mae Cymru wedi bod hyd yn oed y brydferthach nag arfer.

Does na'mbyd tebyg i liwiau'r hydref ar ddiwrnod o awyr las a heulwen, nagoes?

Dyna oedd yn mynd drwy fy meddwl i fore fore

front, e.g. forelimb.


fore cannon
the third metacarpal bone of the horse.
 Sadwrn pan ddechreuais i yrru amAberaeron; diolch mai fan yma dwi'n byw, a gwybod nad oes 'na unlle yn y byd This article or section contains information about scheduled or expected future events.
It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available.
 sy'n well (ac mi ddylwn i wybod hynny bellach, siawns); a phendroni dros y ffaith fod cymaint ohonom ni'n teithio dramor yn ystod ein gwyliau prin, yn hytrach nac aros yma i ddod i nabod ein gwlad ein hunain yn well a gwerthfawrogi'r hyn sydd ganddon ni.

Ond wedyn, mi fues i'n mynd fel malwen y tu ol i gar oedd yn brecio ar bob cornel cornel: see dogwood.  er nad oedd o byth yn mynd yn gyflymach na 30 milltir yr awr, a bob tro roedd 'na gyfle i'w basio, roedd 'na fflyd o geir yn dod i'n cyfarfod ni.

Wedi i mi ei basio ar ol Machynlleth, ro'n i'n sownd y tu ol i gonfoi oedd yn sownd y tu ol i lori (Mansel Davies). Ac roedd 'na fwy a mwy o draffig yn dod i'n cyfarfod ni - y bali haul wedi denu pobol allan doedd!

Ro'n i'n dechrau chwysu rwan - roedd gen i briodas i'w chyrraedd! Ac isio dod o hyd i'r lle gwely a brecwast yn gynta er mwyn newid a gneud fy hun yn ddel a mynd dros y darn ro'n i fod i'w ddarllen yn yr eglwys. AAAAA!

Dim rhyfedd ein bod ni'n heidio dramor dragwyddol - mae ganddyn nhw draffyrdd yn fan'no. Mi wnaiff gwella'r ffyrdd fyd o les i ni fel cenedl, nid yn unig yn economaidd ac er mwyn dod a hwntws a gogs yn nes at ei gilydd, ond er lles ein hiechyd hefyd. Ro'n i bron a chwythu gascet fore Sadwrn, heb son amy car.

Ond rheswmarall dros ddianc dramor ydi ei bod hi gymaint rhatach yno.

Am fod 'na ddwy briodas (a haul) yn Aberaeron dros y penwythnos, roedd stafelloedd i aros ynddyn nhw yn brin.

Lle gwely a brecwast ges i'n y diwedd, lle neis iawn, iawn - ond roedd o'n pounds 60!

A finnau newydd fod ar y we yn chwilio amwesty yn Barcelona neu Zaragoza i fy chwaer a finnau fis Rhagfyr (mae fy nith yn gweithio yn Sbaen am flwyddyn ac rydan ni'n mynd i'w nol hi adre ar gyfer y Dolig) - roedd 'na lefydd pedair seren Seren Chlordiazepoxide, see there  ar gael ampounds 26. Mae 'na rywbeth mawr o'i le yn fan'na, does bosib?

Dim rhyfedd bod cymaint o bobl yn dewis prynu pebyll y dyddiau yma - neu garafanau a charafanets - sy'n ychwanegu at yr angen am ffyrdd gwell...

Ta waeth, mi gyrhaeddais y briodas yn ddiogel a chael diwrnod i'w gofio yng nghwmni teuluoedd Caryl ac Aled a'u gwesteion. A myn coblyn, roedd y bwyd i gyd yn lleol - iawn: cig eidion Pencwm, hufen ia Ffosdwn a chawsiau Cymreig, ac roedden nhw'n wirioneddol fendigedig.

Syniad gwych a syniad y dylai pob par sydd ar fin priodi ei fabwysiadu.

Mae gwir angen i ni gefnogi bwydydd lleol am gymaint o resymau - llai o loriau nwyddau ar y ffyrdd yn un.

Gyda llaw, roedd Caryl wedi trefnu bob dim posib ar gyfer tywydd drwg: wedi llogi ambarels a phob dim. Ond nath hi rioed feddwl y byddai angen hufen haul ymmis Hydref. Roedd 'na sawl corun moel a decolletage dé·colle·tage  
n.
1. A low neckline on a woman's garment, especially a dress.

2. A dress with a low neckline in front.
 pinc erbyn i'r haul fachlud.

Ond wedi pregethu cymaint am aros adre ar ein gwyliau... ym... fydda i ddim yma wythnos nesa. Dwi'n mynd amwythnos o wyliau. Peidiwch a gweiddi - gwaith fu pob taith eleni diolch yn fawr - dwi'n haeddu brec!

A mynd i Ogledd Iwerddon ydw i. Dim ond pounds 34 yr un ydi hi o Lerpwl i Derry efo'r cwmni rhad a hawdd 'na. A gawn ni weld pa mor ddrud fydd hi i aros yno, dydan ni'mwedi bwcio dim eto.

A gawn ni weld sut fydd y ffyrdd hefyd - rydan ni wedi llogi car. Felly ia, ymchwil ydi o yn ogystal a gwyliau. Wir yr...

CAPTION(S):

Cloc enwog Rhaeadr Gwy - un o'r golygfeydd cyfarwydd i deithwyr dewr yr A470
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Oct 10, 2007
Words:1163
Previous Article:Y perthi'n cael eu torri'n rhy gynnar; BYD NATUR.
Next Article:Nid oes 'J' yn yr iaith Gymraeg; LLYTHYRAU.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles