Bywyd chwithig Martha ddi-lol.Byline: Gan ANGHARAD PRYS DARLLEDIR y ffilm Martha, Jac a Sianco ar S4C S4C skate for cancer S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) yr wythnos hon wedi iddi lwyddo i gipio chwe gwobr yn seremoni Bafta Cymru yn ddiweddar. Mae'r ffilm wedi ei haddasu o'r nofel o'r un enw a gydiodd yn nychymyg y genedl nl yn 2004. Llwyddodd i ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005, a hawliodd yr awdures ifanc o Geredigion, Caryl Lewis, ei lle fel un o brif awduron Cymru. Mae'r ffilm yn dilyn hanes Martha a'i dau frawd, Jac a Sianco, wrth i'r tri ymdrin newidiadau yn eu bywydau ar l marwolaeth eu mam. S4C, English subtitles sub·ti·tle n. 1. A secondary, usually explanatory title, as of a literary work. 2. A printed translation of the dialogue of a foreign-language film shown at the bottom of the screen. tr.v. Mae Martha yn wraig benderfynol ac amddiffynnol iawn, tra bo'' Jac yn ffermwr cadarn a chryf gyda'r fferm yn hawlio pob eiliad o'i fywyd - nes i Saesnes nwydus dynnu ei lygad. Sianco yw'r brawd bach sy'n byw dan adain ei chwaer a llaw drom ei frawd. Enillodd dau o brif actorion y ffilm wobrau yn seremoni Bafta Cymru''n ddiweddar. Yr actor Ifan Huw Dafydd, a enillodd wobr yr Actor Gorau, sydd yn chwarae rhan Jac a Sharon Morgan Morgan, American family of financiers and philanthropists. Junius Spencer Morgan, 1813–90, b. West Springfield, Mass., prospered at investment banking. , a gipiodd wobr yr Actores Orau, sy''n chwarae Martha. Geraint Lewis Geraint Lewis is a former Wales international rugby union player. A back row forward, he played his club rugby for Pontypridd RFC, Rotherham Titans, Bristol and Bath before returning to Pontypridd at the commencement of the 2007/08 season. sy''n camu i esgidiau Sianco. Yn l Sharon, roedd hi wedi bod yn ysu i chwarae rhan gwraig fferm ddiffwdan fel Martha ers tro. "Roeddwn wedi dyheu am gyfle i chwarae'r math yma o gymeriad. Ro'n i wir yn teimlo ei bod hi'n fraint cael actio Martha," meddai Sharon sy'n adnabyddus am ffilmiau fel Gadael Lenin, Yr Heliwr a Grand Slam grand slam n. 1. The winning of all the tricks during the play of one hand in bridge and other whist-derived card games. 2. Sports The winning of all the major or specified events, especially on a professional circuit. . "Rwy hefyd yn credu bod y ffilm ei hun yn bwysig iawn o safbwynt diwylliannol. Mae yma stori dda, afaelgar, yn ogystal phortread cryf a sensitif o fywyd amaethyddol Cymru. "Mae'r ffilm yn delio realiti bywydau menywod, ac mae'r thema honno wastad yn ddiddorol i rywun fel fi. "Dwi'n credu taw stori am gariad yw hon, ac am holl g'lyme cymhleth cariad. Mae hi hefyd yn stori am wreiddiau, ac am y gwrthdaro sy'n codi rhwng dyletswydd a dyheadau personol weithiau. "Fe wnes i fwynhau cael actio heb y dillad crand a'r sodlau uchel. Ro'dd rhyw ryddid yn hynny. "O'n i'n gallu ishte yn y bls, a maeddu'n 'nillad i fel o'n i'n moyn, a do'dd dim ots," meddai Sharon dan chwerthin. "Ro'n i hefyd yn treulio bob awr o'r dydd yng nghwmni Huw a Geraint, felly roedden ni'n teimlo fel teulu go iawn. "Mae rhywbeth oesol yn stori Martha, am y cryfder a'r dycnwch yna," meddai. "Mae Martha'n rhan o mywyd i nawr, dwi wedi ei chloi hi yn fy nghalon.". The S4C film, Martha, Jac a Sianco, first broadcast over Christmas, shone shone v. A past tense and a past participle of shine. shone Verb a past of shine shone shine at the recent Bafta Cymru ceremony, scooping six awards. Here, Sharon Morgan, who won the award for Best Actress for her portrayal of Martha, explains why she thinks the film has been so successful. Martha, Jac a Sianco is an adaptation of the successful contemporary novel of the same name by Caryl Lewis. MARTHA, JAC A SIANCO nos yfory, 9pm. and Welsh available'Mae rhywbeth oesol yn ei stori - y cryfder a'r dycnwch yna' CAPTION(S): Ifan Huw Dafydd a enillodd wobr Bafta Cymru am ei bortread o Jac Sharon Morgan fel Martha, ac ar y dde, gyda'i brodyr yn y ffilm - Jac (Ifan Huw Dafydd) a Sianco (Geraint Lewis) |
|
||||||||||||

Printer friendly
Cite/link
Email
Feedback
Reader Opinion