Printer Friendly
The Free Library
19,595,263 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Byw gyda chlefyd y llwch.


M ae Cymru yn cael ei hadnabod ar hyd a lled y byd This article or section contains information about scheduled or expected future events.
It may contain tentative information; the content may change as the event approaches and more information becomes available.
 fel un o gynhyrchwyr glo a llechi mwyaf llewyrchus y ganrif ddiwethaf, ac mae bellach yn rhan o'n hanes a'n diwylliant ni. Ond yn ei sgil fe ddaeth afiechyd creulon, sydd dros y blynyddoedd wedi lladd a niweidio miloedd o'r gweithwyr.

Bydd y rhaglen ddogfen Clefyd y Llwch, nos Fawrth yn edrych ar yr effaith y mae'r afiechyd hwn wedi ei gael.

Mae clefyd y llwch yn afiechyd amlwg yng nghymoedd glofaol y de a phentrefi llechi'r gogledd ers dros ganrif, ond dim ond nawr y mae cyn-weithwyr sydd dal i ddioddef heddiw yn dechrau ennill eu brwydr am iawndal.

Yn glefyd creulon ar yr ysgyfaint nad oes modd gwella ohono, mae pneumoconiosis pneumoconiosis (n'məkō'nēō`sĭs), chronic disease of the lungs.  yn afiechyd sy'n datblygu wedi cyswllt parhaol a llwch glo neu lechi sy'n cyfyngu'r ysgyfaint gan achosi peswch a thrafferthion anadlu.

Bydd y rhaglen hon yn sgwrsio gydag arbenigwyr meddygol a haneswyr fydd yn rhoi'r clefyd yn ei gyd-destunmeddygol.

Yn ogystal bydd y rhaglen yn defnyddio deunydd archif ac ail greu dramatig er mwyn egluro creulondeb yr afiechyd a'r hyn y mae'n ei olygu'n ddyddiol i'r ychydig ddioddefwyr sydd wedi goroesi'r frwydr yn ei erbyn.

Gyda chynifer o ddioddefwyr yn byw yng Nghymru mae'r wlad bellach ar flaen y gad mewn ymchwil i'r afiechyd ac o gymorthmawr i'r datblygiadau dros y ddegawd ddiwethaf sydd wedi cynnig llwyddiant i nifer o gleifion mewn achosion iawndal.

Gyda datblygiadau mewn technoleg yn y pyllau modernmae diogelwch y gweithwyr bellach yn flaenoriaeth, ac felly yn y rhaglen hon cawn gyflwyno i hanes un agwedd o fywyd y glowyr a'r chwarelwyr y mae'n fendith ei gweld yn diflannu o'r tir.

CLEFYD Y LLWCH nos Fawrth, 9pm, S4C S4C skate for cancer
S4C Siannel Pedwar Cymru (Channel 4 Wales, Television) 
, Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael, English and Welsh
As an adjective "English and Welsh" refers to England and Wales.


English and Welsh is the title of J. R. R. Tolkien's valedictory address to the University of Oxford of 1955, explaining the origin of the word "Welsh".
 subtitles available

CAPTION(S):

Y cyn lowr Jac Davies
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jul 14, 2007
Words:306
Previous Article:Friday: Pigion Y DYDD.
Next Article:QUESTION TIME ... 10 to test your TV knowledge.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles