Printer Friendly
The Free Library
19,585,946 articles and books
Member login
User name  
Password 
 
Join us Forgot password?

Bydd cenedl gyfan yn gweld eu heisiau; TEYRNGEDAU I FEIRDD EICONIG DAILY POST Cymraeg.com.


Byline: Gan Gan or Kan (both: gän), river, c.550 mi (885 km) long, flowing north through the plain of central Jiangxi prov., SE China, past Nanchang to Poyang lake.  ERYL CRUMP crump  
v. crumped, crump·ing, crumps

v.tr.
1. To crush or crunch with the teeth.

2. To strike heavily with a crunching sound.

v.intr.
 

TALWYD teyrngedau i ddau o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru bu farw y penwythnos diwethaf.

Roedd yr awdur plant poblogaidd T Llew Jones yn 93 oed, a'r bardd coronog Eluned Philips yn 94.

Disgrifiwyd T Llew Jones gan yr Archdderwydd Dic Jones fel "un o eiconau'r genedl".

Eluned Phillips oedd y ferch gyntaf i ennill coron yr Eisteddfod eisteddfod (īstĕth`vəd, –vôd) [Welsh,=session], Welsh competitive festival. Contests traditionally are held in all the arts and crafts, with special emphasis on music and poetry.  Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983, gyda phryddest am Ryfel y Falklands yn gefndir iddi.

Meddai'r Archdderwydd: "Bydd y genedl gyfan yn gweld eu heisiau. Bydd llawer ohonom yn teimlo fel petawn yn edrych i gyfeiriad y silff ben tan ac yn gweld un o'r llestri gorau ar goll.

"Dwi'n siwr bod 'na blant sy'n medru enwi ei lyfrau bob un. Roedd e'n deall plant ac yn uniaethu a nhw. Hyd yn oed yn ei flynyddoedd olaf, pan oedd rhyw blentyn yn mynd i Ddol Nant i gwrdd a'i arwr, byddai'r oedran yn llithro oddi ar ei ysgwyddau."

Meddai Mr Jones amEluned Phillips: "Hi oedd aelod hynaf yr Orsedd ac yn sicr yr un mwyaf ffyddlon. Roedd hi'n gymeriad. Mae ei hunangofiant, The Reluctant Redhead, yn ddiddorol iawn.

"Roedd ganddi y ddawn o fod yn ddirgelaidd a chroesawgar ar yr un pryd."

Meddai cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru Gwerfyl Pierce Pierce may refer to: Places
  • Pierce, Colorado, a US town
  • Pierce, Idaho, a US city
  • Pierce, Nebraska, a US city
  • Pierce, Wisconsin, a US town
  • Mount Pierce (New Hampshire), USA, a peak in the White Mountains
  • Pierce County, several places
 Jones: "T Llew oedd brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru.

"Bu'n ysgrifennu'n ddi-dor trwy ail hanner yr 20fed ganrif - a chreodd gorff o lenyddiaeth sy'n parhau i roi pleser a gwefr i blant heddiw.

"Roedd hefyd yn gyfathrebwr heb ei ail - ac yn storiwr penigamp. Dotiai at blant, ac roedd plant yn dotio ato yntau.

"Bu'n gyfaill triw i'r Cyngor Llyfrau ar hyd y blynyddoedd ac fe welwn golli ei gyfraniad a'i gwmni'n fawr iawn."

Cafodd T LlewJones ei eni ymMhentre-Cwrt, Llandysul yn 1915. Wedi bron i 35 mlynedd fel athro ysgol gynradd trodd ei law at fod yn lenor llawn amser gan ganolbwyntio ar farddoni ac ysgrifennu llyfrau i blant.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy 1958 ac yng Nghaernarfon y flwyddyn ganlynol. Roedd yn un o feistri'r canu caeth a bu'n llywydd y Gymdeithas Gerdd Dafod ers ei sefydlu yn 1976.

Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau, yn amlach na pheidio wedi eu seilio ar gymeriadau hanesyddol fel BartiDdu, SionCwilt a TwmSion Cati. Ysgrifennodd rhan fwyaf ohonynt ar deipiadur hen ffasiwn.

Enillodd un o'i lyfrau enwocaf, Tan ar y Comin, wobr Tir na n-Og ac enillodd ywobr fwy nag unwaith. Derbyniodd hefyd wobr Mary Vaughan Jones
This article is about Vaughan Jones the mathematician. For the former soccer player see Vaughan Jones (footballer).


Vaughan Frederick Randal Jones
 yn 1991 amei gyfraniad i lenyddiaeth plant yng Nghymru.

Cafodd nifer o'i gyfrolau eu cyfieithu i'r Saesneg ac fe gafodd Tan ar yComin aDirgelwch yr Ogof eu haddasu i'r sgrin fach.

Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Bangor i gydnabod ei gyfraniad enfawr i lenyddiaeth plant yn 1977.

Meddai: "Dyma ryw ddawn ges i pan oeddwn i'n fachgen bach - dawn ysgrifennu. 'Dwi di sgwennu llawer o lyfrau, 'dwi ddim wedi gwneud fy ffortiwn fel awdures Harry Potter, ond dwi wedi cael miloedd o lythyrau gan blant, a dyna'r cyfoeth dwi'n gyfri o ysgrifennu llyfrau."

Yn ogystal a mwynhau llenydda roedd hefyd yn mwynhau ei wyddbwyll. Ysgrifennodd yr unig lyfr yn Gymraeg i egluro'r gem gem, ornamental mineral or organic substance
gem, commonly, a mineral or organic substance, cut and polished and used as an ornament. Gems also are used as seals (items of assurance) and as talismans (good-luck charms). For birthstones, see month.
.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fy Mhobol I, yn 2002.

Ganed Eluned Phillips yng Nghenarth yn 1914.

Ni wnaeth erioed adnabod ei thad gan iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr o fewn wythnosau i'w geni.

Aeth i goleg yn Llundain ond ni pharhaodd gyda'i hastudiaethau.

Trwy gysylltiad teuluol symudodd i fyw a newyddiadura ym Mharis lle daeth i gysylltiad a Maurice Chevalier, Pablo Picasso ac Edith Piaf Noun 1. Edith Piaf - French cabaret singer (1915-1963)
Edith Giovanna Gassion, Little Sparrow, Piaf
 ymhlith eraill.

CAPTION(S):

Bydd llawer yn teimlo fel petawn yn edrych i gyfeiriad y silff ben tan ac yn gweld un o'r llestri gorau ar goll Archdderwydd Dic Jones; Colled mawr... Eluned Phillips, 94, a T Llew Jones, 93, bu farw y penwythnos diwethaf
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 Reader Opinion

Title:

Comment:



 

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jan 14, 2009
Words:637
Previous Article:Friend 'Sooty' defends prince.
Next Article:Planhigion sy'n dod a lwc dda.

Terms of use | Copyright © 2012 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters | Submit articles